Sut y gall Cymru wneud y gorau o gyfraniad menywod i'r economi?

Cyhoeddwyd 09/06/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

09 Mehefin 2015 Erthygl gan Gareth Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Ar 10 Mehefin, bydd y Cynulliad yn trafod sut y dylai Llywodraeth Cymru weithredu i hyrwyddo cyfranogiad economaidd llawnach gan fenywod.  Beth yw sefyllfa bresennol menywod yn economi Cymru, a sut y gellir cael y mwyaf o gyfraniad menywod i economi Cymru yn y dyfodol? Beth yw sefyllfa bresennol menywod yn y gweithle yng Nghymru? Yn ôl y data diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), 67% o fenywod 16-64 oed yng Nghymru sydd mewn gwaith, ond 72% o ddynion sydd mewn gwaith. Mae menywod deirgwaith yn fwy tebygol o fod mewn gwaith rhan amser na dynion, a 44% o fenywod oedd yn gweithio rhan amser yng Nghymru yn 2014, o gymharu â 14% o ddynion. Mae hyn yn cyfrannu at y ffaith bod nifer y menywod sy’n ennill llai na'r cyflog byw yn fwy na nifer y dynion, gyda ffigurau 2014 yn dangos bod 29% o fenywod yn ennill llai na'r cyflog byw o gymharu â 19% o ddynion yng Nghymru.  Yn rhannol, mae hyn oherwydd bod cyfran y menywod sy'n gweithio rhan amser yn uwch na chyfran y dynion; enillodd 43% o fenywod a oedd yn gweithio rhan amser lai na'r cyflog byw yng Nghymru. Mae'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn llai yng Nghymru nag y mae ar gyfartaledd yn y DU.  Mae prif fesur yr ONS, yn ffigur 1, yn dangos mai 8.4% oedd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer gweithwyr amser llawn yng Nghymru yn 2014, sy'n llai na ffigur y DU, sef 9.4%.  Fodd bynnag, mae'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer bob gweithiwr yng Nghymru gryn dipyn yn uwch ar 16.2%, ond, unwaith eto, mae'n llai na'r ffigur o 19.1% ar gyfer y DU. Ffigur 1: Bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer gweithwyr amser llawn yn y gwledydd datganoledig a rhanbarthau Lloegr yn 2014 [caption id="" align="alignnone" width="682"]Mae’r graff hwn yn dangos y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn 2014 ar gyfer gweithwyr amser llawn yn y gwledydd datganoledig a rhanbarthau Lloegr.   Mai 8.4% oedd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer gweithwyr amser llawn yng Nghymru yn 2014, sy'n llai na ffigur y DU, sef 9.4%. Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion, 2014 (tabl 5.6a)[/caption] Daeth gwaith mapio galwedigaethol gan y prosiect Menywod yn Ychwanegu Gwerth at yr Economi (WAVE) i'r casgliad mai yn y rhannau hynny o'r economi lle mae cyflog ar ei isaf y cyflogir menywod yn bennaf. Mae'r gwahaniaeth hwn yn y gwaith yn cynnwys sectorau blaenoriaeth Llywodraeth Cymru.  Mae'r ystadegau diweddaraf Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi buddsoddi yn dangos mai dim ond 28% o fenywod oedd yn cael eu cyflogi mewn sector blaenoriaeth yn 2013, o gymharu â 56% o ddynion.  Gellir casglu o hyn nad y sectorau y mae nifer o fenywod yn gweithio ynddynt yw'r sectorau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gweld yn flaenoriaeth ar gyfer buddsoddi. Ffigur 2: Canran y menywod o’r bobl a gyflogwyd mewn sectorau blaenoriaeth yn 2013 [caption id="" align="alignnone" width="682"]Mae’r graff hwn yn dangos y canran y menywod o’r bobl a gyflogwyd mewn sectorau blaenoriaeth yn 2013.  Mae menywod yn tangynrychioli mewn 8 o’r 9 sectorau blaenoriaeth. Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru, Ystadegau'r sector blaenoriaeth 2014 (tabl 3.6)[/caption] Beth yw'r sefyllfa i fenywod sy'n rhedeg eu busnes eu hunain? Un o'r ffactorau a ysgogodd y cynnydd mewn cyflogaeth ers y dirywiad economaidd yw hunangyflogaeth. Yng Nghymru, mae'r 58,400 o fenywod hunangyflogedig yn llai na thraean o'r bobl sy'n hunangyflogedig, ond mae'r bwlch rhwng y rhywiau wedi bod yn cau dros y blynyddoedd diwethaf.  Bu cynnydd o 22% yn nifer y menywod sy'n hunangyflogedig yn y pum mlynedd diwethaf, o gymharu â chynnydd o 7% ar gyfer dynion. O ran dechrau busnes a pherchen busnes, mae Chwarae Teg yn nodi bod menywod yn y DU o hyd yn hanner mor debygol â dynion o sefydlu eu busnes eu hunain.  Canfu'r Cyngor Busnes Menywod, a sefydlwyd gan Lywodraeth flaenorol y DU, mai menywod yw'r mwyafrif o'r rhai sy'n rhedeg 19% o fusnesau bach a chanolig yn y DU. O edrych ar fusnesau'r dyfodol yng Nghymru, dengys ystadegau Monitor Entrepreneuriaeth Byd-eang diweddaraf ar gyfer Cymru yn 2013 mai 4.2% o fenywod oedran gweithio a oedd yn ymwneud â gweithgarwch entrepreneuraidd cyfnod cynnar, o gymharu â 6.5% o ddynion.  O ran pobl yng Nghymru a oedd yn disgwyl dechrau busnes yn y tair blynedd nesaf, dywedodd 3.1% o fenywod oedran gweithio a 4.7% o ddynion eu bod yn disgwyl gwneud hynny. O ran rhoi cymorth a bod yn esiampl i fenywod sy'n dechrau busnes neu y mae ganddynt eu busnes eu hunain, canfu Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn ddiweddar bod menywod yn cael eu tangynrychioli ar fyrddau Ardaloedd Menter Cymru y mae'r Llywodraeth yn penodi eu haelodau. Beth y gellir ei wneud i helpu menywod i ateb heriau yn y gweithle? O ran ffyrdd posibl o wneud y mwyaf o gyfraniad economaidd menywod yng Nghymru, mae Chwarae Teg yn nodi pum maes lle mae angen i amrywiaeth o randdeiliaid weithredu, gan gynnwys Llywodraethau Cymru a'r DU:
  • Mynd i'r afael â chyflog isel a thangyflogaeth;
  • Annog menywod i weithio mewn sectorau anhraddodiadol;
  • Codi nifer y menywod mewn swyddi arweinyddiaeth;
  • Cefnogi entrepreneuriaid benywaidd; a
  • Mynd i'r afael â'r cyfrifoldebau gofal gwahanol sy'n wynebu menywod a dynion
Mewn dadl yn y Cyfarfod Llawn ym mis Ionawr 2015, eglurodd Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau rhwng y rhywiau yn y gweithle.  Dywedodd:
Mae ein cynllun cydraddoldeb strategol hefyd yn cynnwys camau rydym yn eu cymryd i helpu menywod a merched i gael addysg, ac i gyflawni a chael uchelgeisiau mewn addysg a hyfforddiant ac yn eu gwaith.  Mae’n nodi’r hyn rydym yn ei wneud i fynd i’r afael â stereoteipio ar sail rhyw, er mwyn galluogi menywod ddilyn gyrfaoedd o’u dewis, ac i gynyddu amrywiaeth mewn bywyd cyhoeddus drwy herio a newid y status quo.
Mae sefydliadau fel y prosiect WAVE a Chwarae Teg sy'n cefnogi cyfranogiad cynyddol menywod ym myd gwaith, yn y sectorau blaenoriaeth, ac o ran rhedeg eu busnesau eu hunain, wedi cael cyllid gan Ewrop a Llywodraeth Cymru.  Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ariannu gwaith gan Sefydliad Bevan i archwilio effaith y dirywiad economaidd ar fenywod yn y gweithle. Mae Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y Cynulliad hefyd wedi bod yn edrych ar y materion sy'n wynebu menywod yn y gweithle a'r ffordd mae'r rheini'n cyfrannu at lefelau uwch o dlodi ymhlith menywod fel rhan o'i ymchwiliad eang i Dlodi View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg