Y Bil Iechyd Cyhoeddus (Cymru) - Cynhyrchion tybaco a nicotin

Cyhoeddwyd 09/06/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

9 Mehefin 2015 Erthygl gan Victoria Paris, Gwasanaeth Ymchwil Cenedlaethol Cynulliad Cymru Mae’r blog hwn yn un o gyfres sy’n olrhain hynt y Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) a gyflwynwyd ddydd Llun 8 Mehefin. Cyhoeddir rhagor o erthyglau am gynigion y Bil gydol yr wythnos. [caption id="attachment_3112" align="alignright" width="300"]Delwedd o ecigarettereviewed.com gan Lindsay Fox. Dan trwydded Creative Commons. Delwedd o ecigarettereviewed.com gan Lindsay Fox. Dan trwydded Creative Commons.[/caption] Smygu tybaco yw achos ataliadwy unigol mwyaf salwch a marwolaeth yng Nghymru o hyd, gan achosi tua 5,450 o farwolaethau bob blwyddyn. Mae’r Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru), a lansiwyd yn ddiweddar, yn cynnig nifer o ddarpariaethau mewn perthynas â chynhyrchion tybaco a nicotin.  Mae’r darpariaethau hyn fel a ganlyn: Cyfyngu ar y defnydd o ddyfeisiau anadlu nicotin i mewn, fel sigaréts electronig, mewn mannau cyhoeddus a gweithleoedd caeedig a sylweddol gaeedig, gan ddod â’r defnydd o’r dyfeisiau hyn yn unol â’r darpariaethau presennol o ran ysmygu. Er bod astudiaethau cychwynnol yn dangos bod e-sigarets yn cynhyrchu lefelau is o nicotin a’u bod, yn gyffredinol, yn llai niweidiol na thybaco, mae’r dystiolaeth hon, ynghyd â’r dystiolaeth ynghylch effeithiolrwydd e-sigaréts fel cymorth i roi’r gorau i smygu, yn gyfyngedig ac yn anghyson. Diben y ddarpariaeth hon yw sicrhau cydbwysedd rhwng y manteision posibl i ysmygwyr sydd am roi’r gorau iddi ac unrhyw anfanteision posibl sy’n gysylltiedig â defnyddio e-sigaréts.  Cafwyd ymateb cymysg i’r cynnig hwn yn yr ymgynghoriad ar Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru. Y rhesymau mwyaf cyffredin a nodwyd gan unigolion preifat i gefnogi’r cynnig hwn oedd:–
  • bod mygdarth e-sigaréts yn annymunol, gall gynnwys nicotin a gall fod yn niweidiol;
  • mae e-sigaréts yn cael eu gweld yn ddiniwed ac mae defnyddio e-sigaréts yn cael ei farchnata fel gweithgaredd cyfareddol (a all annog pobl ifanc i’w defnyddio); a
  • bydd defnyddio e-sigaréts yn gyhoeddus yn dylanwadu ar blant i gopïo ymddygiad ysmygu oedolion, a thrwy hynny, gall ail-normaleiddio ysmygu ‘drwy’r drws cefn’.
Roedd pob un o’r byrddau iechyd lleol yng Nghymru ac Ymddiriedolaeth GIG Felindre yn cefnogi’r cynnig, yn yr un modd ag yr oedd Iechyd Cyhoeddus Cymru, timau gorfodi awdurdodau lleol Cymru a sefydliadau sy’n eu cynrychioli yn ei gefnogi. Ymhlith yr ymatebion a gafwyd gan unigolion preifat oedd, yn gyffredinol, yn gwrthwynebu’r cynnig, y dadleuon mwyaf cyffredin a wnaed oedd:
  • bod e-sigaréts wedi eu helpu i roi’r gorau i ddefnyddio tybaco (gyda rhai’n ychwanegu bod mathau eraill o therapi nicotin wedi methu â gwneud hyn);
  • bod e-sigaréts yn fwy diogel na chynnyrch tybaco; ac
  • y byddai ei gwneud yn ofynnol i ddefnyddwyr e-sigaréts ymgynnull y tu allan i adeiladau gydag ysmygwyr yn eu gwneud yn agored i effeithiau niweidiol mwg ail-law ac yn eu temtio i lithro’n ôl.
Hefyd, cafwyd ymatebion gan gwmnïau e-sigaréts a thybaco, a oedd oll yn gwrthwynebu’r cynnig.  Roedd ymatebion gan sefydliadau yn y trydydd sector a nifer o grwpiau cynrychiadol, gan gynnwys cynrychiolwyr busnesau bach, manwerthwyr a chynrychiolwyr iechyd, yn rhoi darlun cymysg. Creu cofrestr genedlaethol o fanwerthwyr cynhyrchion tybaco a nicotin. Diben y ddarpariaeth hon yw atgyfnerthu gwarchod y rhai o dan 18 oed rhag cynhyrchion tybaco a nicotin, yn ogystal â lleihau’r risg y bydd rhai o dan 18 oed yn cael mynediad at y cynhyrchion hyn. Ar hyn o bryd, nid oes dull o ddilyn gweithgareddau manwerthwyr sy’n gwerthu cynhyrchion tybaco neu nicotin, ac mae’n rhaid i awdurdodau lleol, felly, ddibynnu ar wybodaeth o’r ardal leol i orfodi deddfwriaeth ynghylch tybaco. Bydd y ddarpariaeth hon yn golygu y bydd yn rhaid i’r holl fanwerthwyr yng Nghymru sy’n gwerthu naill ai cynhyrchion tybaco neu gynhyrchion nicotin gofrestru i gael caniatâd i werthu’r cynhyrchion hyn. Bydd Awdurdod Cofrestru yn cael ei enwi i reoli’r gofrestr genedlaethol ar gyfer Cymru gyfan, gyda’r rôl o brosesu ceisiadau i fangreoedd gael eu cynnwys ar y gofrestr. Yn ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Papur Gwyn, roedd y rhan fwyaf o ymatebwyr yn cefnogi’r cynnig yn gyffredinol, gyda dros 80 y cant o’r ymatebion o blaid cyflwyno cofrestr genedlaethol o fanwerthwyr tybaco.  Nid oedd ymatebion gan y sector preifat, gan gynnwys nifer o gwmnïau tybaco ac e-sigaréts, yn gwbl gefnogol o greu cofrestr o’r fath.  Roedd gan rai ymatebwyr amheuon ynghylch effeithiolrwydd cynllun cofrestru a gallu cofrestr i leihau gwerthu cynhyrchion tybaco i’r rhai sydd o dan oedran. Ychwanegu at y troseddau sy’n cyfrannu at Orchymyn Mangre Dan Gyfyngiad. Ar hyn o bryd, gall llys ynadon osod Gorchymyn Mangre Dan Gyfyngiad ar fangreoedd sy’n gwerthu tybaco i rai o dan 18 oed.  Mae Gorchymyn Mangre Dan Gyfyngiad yn gwahardd holl werthiant cynnyrch tybaco (gan gynnwys papurau sigaréts) o’r fangre am gyfnod o hyd at flwyddyn.  Mae’r Bil yn ceisio gwella cyfundrefn yr Orchymyn Mangre Dan Gyfyngiad i atgyfnerthu pwysigrwydd gwerthu’r cynhyrchion hyn mewn modd cyfrifol, drwy roi pwerau i Weinidogion Cymru gynnwys troseddau tybaco eraill y gellir eu cyfrif tuag at gais am Orchymyn Mangre Dan Gyfyngiad. Gwahardd trosglwyddo cynhyrchion tybaco neu nicotin i bobl o dan 18 oed. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw ddeddfwriaeth sy’n atal cynhyrchion tybaco neu gynhyrchion nicotin, sydd wedi cael eu prynu o bell (hynny yw, drwy’r rhyngrwyd neu dros y ffôn), rhag cael eu trosglwyddo i berson o dan 18 oed.  Diben y ddarpariaeth hon yw lleihau’r risg y caiff pobl ifanc o dan 18 oed fynediad at gynhyrchion tybaco a nicotin drwy ei wneud yn drosedd i drosglwyddo’r cynhyrchion hyn yn fwriadol i berson o dan yr oedran cyfreithiol yng Nghymru. Yn yr ymgynghoriad Papur Gwyn, awgrymodd 44 y cant o ymatebwyr fod yna broblem o ran pobl o dan 18 oed yn cael cynhyrchion tybaco. Dywedodd 33 y cant nad oeddent yn ymwybodol bod hyn yn broblem wirioneddol, neu nad oeddent yn gallu dod o hyd i dystiolaeth i ddangos ei bod yn broblem, ond awgrymwyd hefyd na fyddai’r trefniadau presennol yn caniatáu i broblem gael ei nodi’n rhwydd. Mynegwyd rhai pryderon penodol nad oedd gwiriadau dilysu oedran ar gyfer prynu ar-lein yn ddigon cadarn ar hyn o bryd, ac y byddai cryfhau’r rheoliadau yn y maes hwn yn ddefnyddiol.  Fodd bynnag, mater a godwyd yn aml oedd gorfodaeth, sy’n awgrymu ei bod yn anodd rheoli gwerthu tybaco ar y rhyngrwyd a byddai unrhyw ddeddfwriaeth ar y mater hwn, felly, yn anodd ei gorfodi.