Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) - Darpariaeth toiledau

Cyhoeddwyd 10/06/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

10 Mehefin 2015 Erthygl gan Philippa Watkins, Gwasanaeth Ymchwil Cenedlaethol Cynulliad Cymru Mae’r blog hwn yn un o gyfres sy’n olrhain hynt y Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) a gyflwynwyd ddydd Llun 8 Mehefin. Cyhoeddir rhagor o erthyglau am gynigion y Bil gydol yr wythnos. [caption id="attachment_3115" align="alignright" width="300"]Llun gan Wikimedia Commons. Trwydded Creative Commons Llun gan Wikimedia Commons. Trwydded Creative Commons[/caption] Nodwyd darpariaeth o gyfleusterau toiledau cyhoeddus digonol fel mater iechyd y cyhoedd o bwys. Nod Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) yw gwella’r gwaith o gynllunio toiledau i’w defnyddio gan cyhoedd, a sicrhau bod cyfleusterau yn diwallu anghenion cymunedau lleol yn well.  O dan y Bil, bydd yn ofynnol i bob awdurdod lleol yng Nghymru baratoi a chyhoeddi strategaeth toiledau lleol ar gyfer ei ardal. Rhaid i’r strategaeth gynnwys asesiad o angen eu cymuned am doiledau (gan gynnwys cyfleusterau ar gyfer babanod a phobl anabl), a rhaid iddi nodi sut y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu diwallu’r angen hwn. Dywed y Memorandwm Esboniadol:
The process of preparing the local toilets strategies will enable a broader consideration of options available for providing toilets for use by the public, ranging from traditional stand-alone ‘public toilets’ through to new and creative solutions.
Rhaid i’r strategaethau hyn gael eu datblygu mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid lleol, a byddant yn cael eu hadolygu’n rheolaidd. Nid yw’r Bil yn gosod gofyniad uniongyrchol ar awdurdodau lleol i ddarparu a chynnal toiledau cyhoeddus, ond mae’n ei gwneud yn ofynnol iddynt gymryd golwg strategol ar draws eu hardal o ran sut y gall y cyfleusterau hyn gael eu darparu a’u defnyddio gan eu poblogaeth leol. Mae rhai rhanddeiliaid wedi dadlau nad yw’r ddyletswydd i ddatblygu strategaeth yn mynd yn ddigon pell, ac y byddai’n well ganddynt pe bai gofyniad ar awdurdodau lleol i ddarparu cyfleusterau toiled digonol gwirioneddol. Pam bod angen hyn? Mae Memorandwm Esboniadol y Bil yn nodi nifer o heriau o ran y system bresennol sy’n llywodraethu mynediad y cyhoedd i doiledau, gan gynnwys:
  • mae darparu a chynnal toiledau cyhoeddus yng Nghymru yn ôl disgresiwn yr awdurdodau lleol (nid oes unrhyw ddyletswydd i’w darparu);
  • mae toiledau cyhoeddus yn gostus i awdurdodau lleol ac o ganlyniad i hynny, maent o dan fygythiad i gau ledled Cymru;
  • roedd y Cynllun Grant Toiledau Cymunedol blaenorol (a oedd yn ad-dalu awdurdodau lleol am grantiau i fusnesau lleol am ganiatáu mynediad am ddim i’r cyhoedd i doiledau) yn gyfyngedig gan ei fod yn canolbwyntio’n unig ar doiledau mewn sefydliadau preifat;
  • mae cynllunio gwael o ran gwneud y defnydd gorau o doiledau o fewn adeiladau cyhoeddus e.e. llyfrgelloedd cyhoeddus, canolfannau chwaraeon ac ati.
Mae costau iechyd y cyhoedd a chostau amgylcheddol toiledau annigonol wedi eu hamlygu mewn nifer o ymchwiliadau cyhoeddus ac adroddiadau, gan gynnwys Ymchwiliad Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad yn 2012. Clywodd y Pwyllgor:
  • y gall effeithiau darpariaeth annigonol o doiledau cyhoeddus gynnwys straen, ynysu, iselder, llai o symudedd, effeithiau ar y bledren a’r coluddyn, diffyg hylif, heintiau’r llwybr wrinol a lledaeniad haint;
  • efallai y caiff effaith ganlyniadol ar y GIG ac ar wasanaethau eraill;
  • mae effaith lleihau’r ddarpariaeth toiledau cyhoeddus yn debygol o fod yn anghymesur, gan y bydd yn effeithio ar grwpiau penodol yn fwy nag eraill, er enghraifft, pobl hŷn, pobl â chyflyrau iechyd penodol, pobl anabl a rhieni neu ofalwyr sydd â phlant ifanc;
  • gall darpariaeth annigonol gael effaith negyddol hefyd ar strategaethau a fwriedir ar gyfer cynyddu cerdded a gweithgareddau awyr agored eraill, ac ar ganiatáu i bobl hŷn neu anabl aros yn annibynnol a symudol.
Canfu adroddiad Nowhere to Go (PDF, 884KB) yn 2007, gan Help the Aged (Age UK erbyn hyn), ar y ddarpariaeth toiledau cyhoeddus yn y DU, fod dros hanner y bobl hŷn yn cytuno bod prinder toiledau cyhoeddus yn eu hatal rhag mynd allan mor aml ag yr hoffent.
This is an issue that has a massive impact on people’s quality of life, and the passion and tenacity with which many older people campaign on this issue in their local area are a testament to the value they place on public toilet provision.
Wrth ymateb i’r Papur Gwyn, roedd cynrychiolwyr llywodraeth leol yn gyffredinol yn gwrthwynebu gosod dyletswydd i ddatblygu strategaeth ar doiledau i’w defnyddio gan y cyhoedd am resymau ariannol, i raddau helaeth mae’n ymddangos. Dywedodd llawer o awdurdodau lleol y byddai angen i unrhyw ddyletswydd newydd gael cyllid digonol i gyd-fynd â hi, ac y gall fod perygl o godi disgwyliadau’r cyhoedd y tu hwnt i’r hyn y gellid, yn rhesymol, ei ddarparu drwy strategaeth toiledau lleol. Mae’r Bil Iechyd Cyhoeddus (Cymru) wedi’i gyfeirio at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol er mwyn iddo ystyried egwyddorion y Bil yng Nghyfnod 1.