Y Rhaglen Lywodraethu – y wybodaeth flynyddol ddiweddaraf

Cyhoeddwyd 10/06/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

10 Mehefin 2015 Erthygl gan Graham Winter, Gwasanaeth Ymchwil Cenedlaethol Cynulliad Cymru Llun o Parc Cathays, adeilad Llywodraeth Cymru Bydd y Prif Weinidog yn gwneud ei bedwerydd datganiad blynyddol am y cynnydd o ran darparu'r Rhaglen Lywodraethu yn y Cyfarfod Llawn ar 16 Mehefin.  Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf olaf o'i math cyn etholiad nesaf y Cynulliad ym mis Mai 2016. Roedd ei ddatganiadau blynyddol blaenorol ym mis Mai 2012, Mehefin 2013 a Mehefin 2014. Cyhoeddwyd Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru ym mis Medi 2011.  Mae'n cynnwys 'map' ar gyfer y Pedwerydd Cynulliad sy'n pwysleisio'r canlyniadau y mae'r Llywodraeth yn gweithio tuag atynt.  Mae'n pennu nodau lefel uchel a chamau gweithredu penodol ar gyfer deuddeg maes polisi eang.  Mae hefyd yn dangos sut y bydd y Llywodraeth yn mesur cynnydd a pha Weinidogion sy'n gyfrifol am gyflawni, yn ogystal â phartneriaid allweddol a fydd yn rhan o'r broses honno o gyflawni.  Mae rhai o gyfrifoldebau'r Gweinidogion wedi newid o ganlyniad i ad-drefnu'r Cabinet ym mis Mawrth 2013. a mis Medi 2014. O ran lansio'r Rhaglen Lywodraethu, dywedodd y Prif Weinidog:

I was clear in asking for a mandate that this administration would be characterised by a focus on delivery. A mature Government must be able to demonstrate its effectiveness in the delivery of results that people can measure, and in terms of change that can be seen and understood. The programme for government is central to this.

Ar gyfer pob un o'r 12 maes polisi, mae'r rhaglen yn cynnwys nifer o ddangosyddion canlyniadau hirdymor o ran sut y mae Cymru yn perfformio fel gwlad, yn ogystal â dangosyddion olrhain manylach sy'n dangos sut y mae gwaith Llywodraeth Cymru yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol.  Er mai bwriad nifer o'r dangosyddion yw dangos 'cyfeiriad teithio' dymunol (e.e. 'cynnydd' yng nghanran yr ynni o ffynonellau adnewyddadwy), nid yw'r rhaglen yn cynnwys targedau penodol i'w cyrraedd. Er bod llawer o'r dangosyddion ar ffurf mesurau ystadegol, mae rhai yn asesiadau mwy goddrychol o gynnydd (e.e. Cynnydd yn ôl argymhellion Gwerthusiad y Rhaglen Cydlyniant Cymunedol).  Mae rhai, ond nid pob un, o'r dangosyddion yn cynnwys cymariaethau â rhannau eraill o'r DU. Roedd Adroddiad Blynyddol 2012 yn rhoi gwybodaeth am y cynnydd a wneir tuag at sicrhau'r 122 o ddangosyddion canlyniadau a'r 224 o ddangosyddion olrhain o raglen 2011. Roedd Adroddiad Blynyddol 2013 ac Adroddiad Blynyddol 2014 yn ychwanegu rhai dangosyddion canlyniadau ac olrhain newydd, yn ogystal â dileu rhai.  Mae tablau sy'n dangos y newidiadau hyn ar gyfer 2013 a 2014 ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.  Hyd yma, mae cyfanswm o 48 o ddangosyddion newydd wedi'u hychwanegu ac mae 34 wedi'u dileu'n gyfan gwbl.  Mae nifer fach o'r dangosyddion hefyd wedi'u diwygio mewn rhyw ffordd. Yn 2014, am y tro cyntaf, cafodd Adroddiad ar les pobl a chymunedau Cymru ei gyhoeddi hefyd.  Roedd yn cyflwyno deg “parth” llesiant sydd, yn ôl yr adroddiad, yn adlewyrchu agweddau gwahanol ar lesiant sy'n effeithio ar bobl Cymru.  Caiff y cynnydd ar gyfer bob parth ei fesur gan ddefnyddio detholiad o'r mesurau Rhaglen Lywodraethu cyfredol.  Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol, yn defnyddio'r un deg parth i fesur llesiant “cenedlaethol”, er ei bod yn defnyddio dangosyddion gwahanol i fesur cynnydd. Gyda chymeradwyaeth Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015, bydd yn ddifyr gweld a fydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddefnyddio'r deg parth hyn neu a fydd bellach yn eu disodli â'r nodau llesiant cenedlaethol a nodir yn y Ddeddf. Ar y cyd ag adroddiad blynyddol 2014, roedd data ar gyfer yr holl ddangosyddion ar gael ar-lein ar y wefan am y tro cyntaf, yn hytrach nag fel rhan o'r adroddiad a gyhoeddwyd.  Cafodd y wybodaeth hon ei diweddaru ddiwethaf yn adroddiad blynyddol mis Mehefin 2013, er bod gwybodaeth fwy diweddar wedi dod ar gael mewn rhai achosion ers hynny.  Mae Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon yn cyhoeddi gwybodaeth ystadegol ar gyfer eu dangosyddion cyfwerth yn fwy rheolaidd. Gweler blog-bost y llynedd ar y Rhaglen Lywodraethu i gael rhagor o wybodaeth am sut y caiff cynnydd ei fesur gan Lywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon. *Delwedd o Wikimedia Commons gan Seth Whales. Drwyddedu o dan Creative Commons. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg