Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) – Gwasanaethau fferyllol

Cyhoeddwyd 12/06/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

12 Mehefin 2015 Erthygl gan Philippa Watkins, Gwasanaeth Ymchwil Cenedlaethol Cynulliad Cymru Mae un elfen o Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru), a gyflwynwyd ar 8 Mehefin 2015, yn canolbwyntio ar gryfhau rôl fferyllfeydd yn hyrwyddo ac yn diogelu cyrff cyhoeddus. [caption id="attachment_3150" align="alignright" width="200"]Llun o Pixabay. Trwydded Creative Commons. Llun o Pixabay. Trwydded Creative Commons.[/caption] Nod y Bil yw gwneud hyn drwy newid y ffordd y mae byrddau iechyd yn gwneud penderfyniadau ynghylch gwasanaethau fferyllol, er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau a ddarperir yn fwy cydnaws ag anghenion y cymunedau a wasanaethir ganddynt. Rhaid i unrhyw un sydd am ddarparu gwasanaethau fferyllol neu weinyddu presgripsiynau wneud cais i'r bwrdd iechyd lleol perthnasol er mwyn iddynt gael eu cynnwys ar restr fferyllol y bwrdd iechyd hwnnw. Penderfynir ar geisiadau drwy ddefnyddio prawf rheoli mynediad; fodd bynnag mae'r prawf cyfredol ond yn canolbwyntio ar p'un a oes mynediad digonol i fferyllfeydd ar gyfer gweinyddu presgripsiynau, ac nid yw'n ystyried yr amrywiaeth o wasanaethau ychwanegol y gall fferyllfa gymunedol eu darparu. Yn ôl y Papur Gwyn ar Iechyd y Cyhoedd:
This approach has not changed to keep pace with the developing public health role of community pharmacy, and does not support Local Health Boards in maximising their contribution to improving the health of local communities.
O dan y Bil:
  • Bydd yn ofynnol i fyrddau iechyd gynnal 'asesiadau o anghenion fferyllol' ar gyfer eu hardaloedd. Bydd hyn yn galluogi byrddau iechyd i nodi pa mor dda y mae fferyllfeydd cyfredol yn diwallu anghenion y boblogaeth, a lle gallai fod angen gwasanaethau fferyllol ychwanegol.
  • Rhaid ystyried yr amrywiaeth lawn o wasanaethau y gall fferyllfeydd cymunedol eu darparu, ac nid dim ond y gwasanaethau gweinyddu pregsripsiynau, wrth wneud penderfyniadau ynghylch ceisiadau i ddarparu gwasanaethau fferyllol y GIG.
  • Bydd byrddau iechyd hefyd yn gallu gweithredu mesurau gwella pan na chaiff gwasanaeth ei ddarparu'n gyson neu pan nad yw'r gwasanaeth o ansawdd. Gallai hyn gynnwys cymryd camau yn erbyn fferyllfeydd penodol am fynd yn groes i delerau ac amodau gwasanaeth yn rheolaidd, neu wahodd fferyllfeydd ychwanegol i wneud cais i ddarparu gwasanaethau penodol.
Roedd yr ymatebion i ymgynghoriad y Papur Gwyn, gan gynrychiolwyr fferyllfeydd a sefydliadau'r GIG, yn gefnogol yn gyffredinol o'r cynigion. Mae rhanddeiliaid yn cytuno y gallai fferyllfeydd chwarae mwy o rôl o ran iechyd y cyhoedd, gan dynnu sylw at gryfderau gwasanaethau iechyd mewn fferyllfeydd cymunedol, fel eu mynediad hawdd gan fod cymaint ohonynt ar y stryd fawr a'u hehangder daearyddol, a'u gallu i wasanaethu grwpiau sy'n anodd eu cyrraedd. Cefndir Mae ystadegau'n dangos bod 714 o fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru ym mis Mawrth 2014, ac nad oes llawer o newid wedi bod yn nifer y fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru ers 2006-07. Mewn ardaloedd gwledig, gall practisau meddygon teulu hefyd wneud cais i ddarparu gwasanaethau fferyllol i'w cleifion. Gelwir y rhain fel arfer yn 'feddygon fferyllol'. Ar ddiwedd 2014, roedd 83 o bractisau fferyllol ledled Cymru, gyda niferoedd y practisau fferyllol hefyd yn parhau'n sefydlog. Bydd y Bil yn ei gwneud yn ofynnol i fyrddau iechyd ddefnyddio dull mwy integredig wrth nodi anghenion fferyllol eu poblogaethau, ac ystyried cyfraniad meddygon fferyllol, yn ogystal â fferyllfeydd cymunedol. Cyflwynwyd y trefniadau cytundebol cyfredol ar gyfer fferyllfeydd cymunedol yn 2005. O dan y contract, yn ogystal â'r gwasanaethau hanfodol y mae'n rhaid i bob fferyllfa eu darparu (mae'r rhain yn ymwneud yn bennaf â rôl weinyddu'r fferyllfa), gall byrddau iechyd gomisiynu gwasanaethau ychwanegol i adlewyrchu anghenion eu poblogaethau. Caiff rhai o'r gwasanaethau hyn eu datblygu'n genedlaethol (er enghraifft, darparu atal cenhedlu hormonaidd ar frys), ond caiff y rhan fwyaf eu datblygu'n lleol (fel gweinyddu meddyginiaeth wedi'i rhagnodi gyda goruchwyliaeth, cyfnewid nodwyddau, cymorth o ran gofal lliniarol a gwasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu). Nid yw'n ofynnol i'r fferyllfeydd eu hunain gynnig rhagor o wasanaethau. Nod contract 2005 oedd ehangu'r amrywiaeth o wasanaethau sydd ar gael gan fferyllfeydd cymunedol. Fodd bynnag, teimlir nad yw'r cyfleoedd i gomisiynu a darparu gwasanaethau ychwanegol wedi'u defnyddio i'r eithaf. Mae rhanddeiliaid wedi disgrifio darpariaeth anghyson o'r gwasanethau, a diffyg ffrydiau cyllid i gefnogi'r gwaith o ddatblygu gwasanaethau cynaliadwy. Dangosir hyn yn yr ystadegau diweddaraf ar wasanethau fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru (2013-14), sy'n tynnu sylw at y dosbarthiad amrywiol o'r gwasanaethau ychwanegol hyn ledled Cymru (gweler y mapiau ar dudalennau 8-10). Nod y Bil yw annog fferyllfeydd i addasu ac ehangu eu gwasanaethau mewn ymateb i anghenion lleol. Mae'r Memorandwm Esboniadol yn nodi y bydd y newidiadau y darperir ar eu cyfer yn y Bil yn caniatáu ar gyfer gwelliant graddol yn ansawdd a chysondeb gwasanaethau fferyllol y GIG. Mae’r Bil Iechyd Cyhoeddus (Cymru) wedi’i gyfeirio at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol er mwyn iddo ystyried egwyddorion y Bil yng Nghyfnod 1.