Cynigion ffermio organig yr UE: a yw adroddiad drafft Senedd Ewrop yn mynd i'r afael â phryderon Cymru?

Cyhoeddwyd 12/06/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

12 Mehefin 2015 Erthygl gan Katy Orford, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_3174" align="alignleft" width="682"]Llun o lysiau organig Llun o Flickr gan Nik Morris (van Leiden). Trwydded Creative Commons.[/caption] Mae ffermio organig yn seiliedig ar gyfres gaeth o egwyddorion, a lywodraethir gan reoliadau ar gyfer yr UE gyfan o fewn yr UE, sy'n ceisio cynhyrchu bwyd iach o ansawdd uchel gan effeithio cyn lleied â phosibl ar yr amgylchedd. Ar 24 Mawrth 2014, cyhoeddodd y Comisiwn Ewropeaidd reoliad arfaethedig ar gynhyrchu organig a labelu cynhyrchion organig a fyddai'n cyflwyno rheolau llymach i'r sector. Byddai hyn yn diddymu'r rheoliad cyfredol sy'n llywodraethu'r broses o ardystio cynhyrchwyr organig, sef Rheoliad y Cyngor (CE) 834/2007 (PDF, 190.92KB). Nodir mai amcanion y Comisiwn Ewropeaidd y tu ôl i'r cynigion yw ysgafnhau'r baich gweinyddol sydd ynghlwm wrth gynhyrchu organig ac ennyn hyder defnyddwyr mewn cynhyrchion organig. I gael trosolwg manylach o'r cynigion, darllenwch Y Diweddaraf am Bolisi'r UE gan y Gwasanaeth Ymchwil a blog-bost blaenorol. Mae Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Cynulliad wedi bod yn cynnal ymchwiliad i'r rheoliad arfaethedig fel rhan o'i waith ehangach ar faterion Ewropeaidd. Mewn tystiolaeth i'r Pwyllgor, roedd rhanddeiliaid yn cymeradwyo'r ethos sy'n sail i'r rheoliad sy'n ymwneud â thryloywder gwell, ond mynegwyd pryderon mawr ynghylch goblygiadau ymarferol y cynnig. Gweler ein blog-bost blaenorol i gael manylion am y pryderon a fynegwyd. Ym mis Ionawr eleni, ysgrifennodd y Pwyllgor at Senedd Ewrop a'r Comisiwn Ewropeaidd i roi amlinelliad o bryderon rhanddeiliaid Cymru cyn cyhoeddi adroddiad drafft Senedd Ewrop. I ba raddau y mae 353 o welliannau'r adroddiad drafft sydd newydd ei gyhoeddi yn adlewyrchu awgrymiadau'r Pwyllgor? Yn yr hyn sydd i ddilyn, rydym yn rhoi amlinelliad o'r prif feysydd sy'n achosi dadl, argymhellion y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd a'r gwelliannau a gyflwynwyd yn sgil adroddiad drafft Senedd Ewrop. 1.  Ffermydd cymysg - byddai'r cynnig yn atal ffermio organig a ffermio confensiynol ar yr un fferm Argymhelliad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd Dylid diwygio'r cynnig fel y gall ffermydd, ar ôl iddynt gael eu harolygu a'u hardystio'n briodol, barhau i weithredu unedau organig ac anorganig. Adroddiad drafft Senedd Ewrop: Byddai'r gwelliannau'n cynnwys y posibilrwydd o ffermio cymysg ond dim ond am uchafswm cyfnod o ddeg mlynedd wrth drawsnewid. 2. Safonau lles anifeiliaid - byddai'r cynnig yn atal anffurfio sy'n arwain at straen, niwed, afiechyd neu ddioddef anifeiliaid Argymhelliad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd Yn sgil canlyniadau anfwriadol rhai o'r safonau lles anifeiliaid arfaethedig fel digornio a thorri cynffonnau, bydd angen cynnal asesiad priodol o effaith, cyflwyno rheolau trawsnewid clir a mesurau ategol cryf. Adroddiad drafft Senedd Ewrop: Mae gwelliannau'n caniatáu torri cynffonnau os caiff ei awdurdodi gan yr awdurdod cymwys am resymau diogelwch neu iechyd anifeiliaid a phobl. Dylid hefyd caniatáu digornio mamaliaid ifanc os defnyddir digon o anaesthesia a / neu analgesia. 3. Ardystio manwerthwyr - byddai'r cynnig yn ei gwneud yn ofynnol i fanwerthwyr fod yn destun ardystiad, gan ddileu'r eithriad cyfredol Argymhelliad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd: mae'r Pwyllgor yn galw am gadw'r eithriad hwn ar gyfer manwerthwyr bach a chanolig. Adroddiad drafft Senedd Ewrop: Dim newidiadau i'r cynnig gwreiddiol. 4. Arolygiadau ar gyfer ardystio - byddai'r cynnig yn newid arolygiadau blynyddol cyfredol drwy symud i asesiad sy'n seiliedig ar risg Argymhelliad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd Yn dilyn safbwyntiau croes gan randdeiliaid, gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad pellach o'r newid i arolygiadau sy'n seiliedig ar risg. Adroddiad drafft Senedd Ewrop: Mae'r adroddiad drafft yn nodi system reoli sy'n seiliedig ar asesu risg yn seiliedig ar arolygiad ac archwiliad blynyddol a sgrinio penodol, yn dibynnu ar ba mor debygol yw diffyg cydymffurfiad. Byddai'r meini prawf ar gyfer asesiadau o risg yn cael ei nodi mewn atodiad i'w ddiffinio'n ddiweddarach. 5. Porthiant rhanbarthol - mae'r cynnig yn ei gwneud yn ofynnol bod yr holl borthiant da byw – yn achos gwartheg a defaid, neu 60 y cant ar gyfer moch a dofednod, yn dod o'r fferm neu'r 'rhanbarth'   Argymhelliad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd: Roedd pryderon yn sgil y cyfyngiadau yng Nghymru a oedd yn ei gwneud yn anodd i ffermwyr organig gynhyrchu neu gael gafael ar yr holl borthiant o fewn Cymru / y DU. Gofynnwyd am ragor o fanylion am yr elfen hon. Adroddiad drafft Senedd Ewrop: Mae'r adroddiad drafft yn cynnwys diffiniad o 'ranbarth' fel rhanbarthau 'NUTS I' (Enwau Unedau Tiriogaethol at Ddibenion Ystadegaeth). Mae Cymru yn un rhanbarth 'NUTS 1', mae'r DU yn cynnwys 12 o ranbarthau 'NUTS 1'. 6. Hadau organig a stoc magu - byddai'r cynnig yn gwahardd hadau a stoc anorganig Argymhelliad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd Dylid caniatáu stoc magu / hadau confensiynol lle nad oes dewis amgen organig rhesymol yn bodoli. Adroddiad drafft Senedd Ewrop: Mae'r adroddiad drafft yn nodi gwelliant a fyddai'n ceisio ysgogi'r broses o gynhyrchu a defnyddio hadau organig a deunyddiau atgynhyrchiol eraill. Mae'n symud y dyddiad lle bydd y Comisiwn yn cyflwyno adroddiad i Senedd Ewrop a'r Comisiwn Ewropeaidd ar argaeledd deunydd atgynhyrchu planhigion organig a stoc magu yn ei flaen (rhwng 2021 a 2018). Fodd bynnag, ni roddir unrhyw eithriad. 7. Dileu ardystiad - mae'r cynnig yn cyflwyno trothwy olion ar gyfer halogi a dileu ardystiad yn awtomatig Argymhelliad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd: Cael gwared ar y cynigion ar ddileu ardystiad oherwydd bod olion anorganig. Adroddiad drafft Senedd Ewrop: Mae'r adroddiad drafft yn cynnwys gwelliant i ddileu'r cynnig a fyddai'n pennu'r trothwyon olion lle nad yw'r cynhyrchion sy'n uwch na'r trothwy yn gynhyrchion organig. Yn hytrach, awgrymir y dylid sefydlu gweithdrefnau cyson os bydd amheuaeth o ddiffyg cydymffurfio. Mae'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd wedi nodi mewn llythyr at Senedd Ewrop ei fod yn croesawu rhai o'r gwelliannau a gyflwynir yn yr adroddiad drafft. Fodd bynnag, mae'n tynnu sylw at nifer o faterion y mae angen eu hystyried ymhellach pan fo'n ystyried nad yw'r adroddiad drafft yn mynd i'r afael â phryderon rhanddeiliaid Cymru yn ddigonol. Dyfalwyd (Agrafacts Rhif 42-15) na chynhelir pleidlais y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd tan ar ôl yr haf oherwydd nifer yr addasiadau a ddisgwylir. Y Cyngor Mae Gweinidogion Amaethyddiaeth yr UE yn symud yn agosach at safbwynt cyffredin yn dilyn trafodaethau yn y Cyngor Fferm Anffurfiol yn Riga. Fodd bynnag, mae cynrychiolwyr yn parhau i fod â barn wahanol ar y cynllun i ddileu ardystiad cynhyrchion yn awtomatig yn dilyn halogi yn sgil plaladdwyr. Disgwylir i'r Cyngor ddod i gytundeb ar 16 Mehefin 2015 (Agrafacts Rhif 41-15). View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg