Cymru: cenedl sy’n ystyriol o ddementia?

Cyhoeddwyd 16/06/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

16 Mehefin 2015 Erthygl gan Amy Clifton, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Bydd Aelodau'r Cynulliad yn trafod dementia yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 17 Mehefin, 2015. Yn ôl Cymdeithas Alzheimer’s, mae tua 850,000 o bobl yn byw gyda dementia yn y DU, 45,000 yng Nghymru. dementia picFodd bynnag, mae dros hanner y bobl hyn yn parhau i fod heb gael diagnosis ac felly'n methu â chael cefnogaeth arbenigol -  dim ond 42.8 y cant yw cyfraddau diagnosis yng Nghymru. Mae Cymdeithas Alzheimer’s yn darparu rhagor o wybodaeth yn ei adroddiad: Wales Dementia Diagnosis Rates 2014  (PDF, 138Kb). Mae adroddiad Dementia 2014 Wales  (PDF, 131KB) Cymdeithas Alzheimer’s yn datgan:
In Wales, diagnosis rates ar among the worst in the UK, with little improvement in recent years. […] There has been insufficient monitoring of the funding allocated from the National Dementia Vision* and there is an urgent need for a specific dementia strategy with clear lines of accountability.  There is a clear need for robust evaluation and national prioritisation of dementia. Without a National focus, the lives of individuals affected by the condition cannot improve.
[ Gweledigaeth Dementia Cenedlaethol Cymru  (PDF, 162KB)] * Llywodraeth Cymru] Un o argymhellion adroddiad 2014 yw bod pob corff iechyd a gofal cymdeithasol statudol yng Nghymru yn gosod targedau ar gyfer gwelliant blynyddol fesul cam mewn cyfraddau diagnosis hyd at 75% erbyn 2017. Datgelodd canlyniadau ei arolwg Dementia 2014 mai dim ond 58% o bobl â dementia sy’n dweud eu bod yn byw yn dda. Mae adolygiadau gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi datgelu bod angen gwelliannau mewn gofal dementia mewn cartrefi gofal ac ysbytai. Mae adroddiad adolygiad o ofal preswyl y Comisiynydd yn nodi nad yw cartrefi gofal yn aml yn ystyriol o ddementia, er gwaetha’r ffaith bod gan 80% o bobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal preswyl ryw fath o ddementia neu nam gwybyddol. Er enghraifft, canfu’r adolygiad fod cartrefi gofal yn aml yn brin o nodweddion defnyddiol fel arwyddion darluniadol, ac mae anghenion emosiynol a chyfathrebu preswylwyr yn aml yn cael eu camddeall a’u hesgeuluso. Nododd adroddiad diweddaru’r Comisiynydd ar ofal ysbyty, Gofal gydag Urddas – Dwy Flynedd yn Ddiweddarach  fod cyflymder y newid a’r gwelliant mewn gwasanaethau dementia yn parhau i fod yn rhy araf, a bod angen gwneud mwy i godi ymwybyddiaeth staff, cynyddu eu gwybodaeth a gwella ansawdd y gofal. Canfu'r adroddiad hefyd fod pobl hŷn yn ei chael yn anodd i gael mynediad at wasanaethau dementia arbenigol a'r cymorth sydd eu hangen arnynt. Canfu’r Archwiliad Cenedlaethol diweddaraf o Ofal Dementia mewn Ysbytai Cyffredinol (Gorffennaf 2013) broblemau parhaus yn ansawdd y gofal a dderbynnir gan bobl â dementia mewn ysbytai yng Nghymru a Lloegr (gweler ein blog blaenorol  ar hyn). Mae trydedd rownd yr archwiliad  (2015 - 2017) yn mynd rhagddi ar hyn o bryd. Cynhaliodd Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru adolygiad cenedlaethol o gomisiynu ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru, gan gynnwys gwasanaethau gofal dementia yn 2014. Canfu’r adolygiad fod angen i awdurdodau lleol a byrddau iechyd wneud newidiadau sylweddol i’r ffordd y maent yn cynllunio ac yn comisiynu gwasanaethau i bobl â dementia. Daeth yr adolygiad i'r casgliad na fydd trefniadau comisiynu presennol ar gyfer gwasanaethau dementia yn darparu gwasanaethau cynaliadwy i oedolion sydd angen gofal a chymorth yng Nghymru. Canfu fylchau sylweddol yn y gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau ymyrraeth gynnar i bobl â dementia, ac mae’n datgan nad yw arfer comisiynu awdurdodau lleol yn canolbwyntio'n ddigonol ar ansawdd y gofal nac ar ansawdd bywyd. Datblygiadau diweddar Ym mis Ebrill 2015, dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ei fod am weld Cymru'n dod yn genedl sy’n wirioneddol ystyriol o ddementia. Gosododd darged newydd  i’r GIG yng Nghymru gynyddu cyfradd diagnosis dementia i o leiaf 50% erbyn 2016. Nododd y Gweinidog mewn Datganiad diweddaru  ei fod yn disgwyl i’r her hon gael ei chyflawni erbyn yr amser y bydd Cymdeithas Alzheimer’s yn cyhoeddi ei ffigurau ar gyfer 2015-16. Cyhoeddodd hefyd  fuddsoddiad o £1m i helpu pobl â dementia a'u teuluoedd; Bydd £800,000 ohono’n ariannu 32 o weithwyr cymorth gofal sylfaenol newydd i roi cymorth a chyngor wyneb-yn-wyneb ar gael gafael ar ofal a gwasanaethau. Ym mis Mai 2015, cyhoeddodd  y Comisiynydd Pobl Hŷn ei bod yn gweithio gydag Age Cymru i roi llais i bobl hŷn yng Nghymru sy'n byw gyda dementia a chodi ymwybyddiaeth o'r heriau sy’n eu hwynebu. Bydd tystiolaeth yn cael ei chasglu gan bobl hŷn sy'n byw gyda dementia, eu teuluoedd a'u gofalwyr, rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2015. Ar 5 Mehefin 2015, cyhoeddodd  y Gweinidog y bydd £8m yn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl oedolion;  bydd mwy na £4.5m yn cael ei fuddsoddi i gefnogi pobl â dementia. Dywedodd y Gweinidog y bydd buddsoddiad ychwanegol mewn therapi galwedigaethol a chymorth gweithgarwch ar wardiau iechyd meddwl pobl hŷn - dwy ardal a gafodd eu hamlygu yn y rhaglen o archwiliadau ar hap  diweddar ar y wardiau hyn mewn ysbytai ledled Cymru (a gynhaliwyd o ganlyniad i'r adroddiad Ymddiried mewn Gofal).