Oedi o ran pleidlais ar wahardd rhwydi drifft yn yr UE yn dilyn galwadau i wrthod y cynnig drafft yn llwyr

Cyhoeddwyd 19/06/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

19 Mehefin 2015 Erthygl gan Katy Orford, Gwasanaeth Ymchwil Cenedlaethol Cynulliad Cymru Ffotograff o resi o bysgod Ym mis Mai 2014 cynigiodd y Comisiwn Ewropeaidd reoliad a fyddai’n gwahardd pysgota gyda rhwydi drifft yn nyfroedd yr UE. Yn fras, byddai’r cynigion yn gwahardd pysgodfeydd rhwydi drifft yn llwyr, ni waeth beth fyddai maint y rhwydi a ddefnyddiwyd. Dywedodd y Comisiwn mai’r rhesymeg sy’n sail i’r cynigion oedd y diffyg cydymffurfio parhaus â rheoliad presennol y Comisiwn Ewropeaidd gan rai aelod-wladwriaethau. Mae’r blog hwn yn nodi’r sefyllfa bresennol o ran y cynigion, ac mae’n dilyn y blog blaenorol ar y cam i wahardd rhwydi drifft. Bu gwrthwynebiad i’r cynigion. Dywed pysgotwyr Cymru y bydd y gwaharddiad yn arwain at ganlyniadau difrifol i Gymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod y cynnig yn ‘swta ac amhriodol’ gan bwysleisio nad yw pysgodfeydd rhwydi drifft ar raddfa fach yng Nghymru yn debyg i’r pysgodfeydd rhwydi drifft sy’n gweithredu ar raddfa fawr ym moroedd Môr y Canoldir a’r Baltig, lle mae’r problemau a nodwyd gan y Comisiwn yn bodoli. Roedd Llywodraeth glymblaid flaenorol y DU yn pryderu yn yr un modd, ac mae aelod-wladwriaethau eraill a Senedd Ewrop wedi beirniadu’r rheoliad arfaethedig yn chwyrn wrth iddo fynd ar ei hynt drwy’r weithdrefn ddeddfwriaethol yn Ewrop.

Yr Adroddiad Drafft

Penododd Pwyllgor Pysgodfeydd Senedd Ewrop (y Pwyllgor Pech) Renata Brianco yn Rapporteur, i arwain o ran ei waith ar y cynigion. Cyhoeddodd y Rapporteur Adroddiad Drafft ar 30 Ionawr 2015 a oedd yn awgrymu nifer o newidiadau i gynnig gwreiddiol y Comisiwn. Roedd y newidiadau yn cynnwys:
  • Gwahardd pob rhwyd drifft dros 2,500 metr, ond caniatáu defnydd parhaus o rwydi drifft llai, ar yr amod nad ydynt yn targedu rhestr o rywogaethau a gaiff eu cynnwys mewn Atodiad newydd. Mae’r Atodiad hwn yn cynnwys gwahanol rywogaethau o diwna, dolffiniaid a siarcod.
  • Lle y defnyddir rhwydi drifft llai, mae’n ei gwneud yn ofynnol iddynt gael eu goruchwylio drwy’r amser, bod ganddynt farcwyr neu fwiau i ddynodi eu safle, a bod rheidrwydd ar feistri ar gychod pysgota i gofnodi’r amser y’u defnyddir ac i nodi a ddaliwyd unrhyw beth yn anfwriadol yn eu sgîl.
  • Dylai methiant i weithredu’r rheolau hyn gael ei ystyried yn ‘dorri rheol ddifrifol’.
  • Caniatáu i gytundebau pysgodfeydd rhanbarthol gyflwyno gwaharddiad llwyr ar bysgota rhwydi drifft os oes angen ar gyfer eu rhanbarth, ar yr amod na fyddai offer pysgota eraill yn achosi rhagor o niwed amgylcheddol.

Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

Mae Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad i waharddiad arfaethedig pysgodfeydd rhwydi drifft fel rhan o’i waith ehangach ar faterion Ewropeaidd. Ym mis Chwefror eleni, ysgrifennodd y Pwyllgor at Gadeirydd Pwyllgor Pysgodfeydd Senedd Ewrop, Aelodau Seneddol Ewropeaidd sy’n cynrychioli Cymru a’r Comisiynydd dros yr Amgylchedd, Materion Morol a Physgodfeydd. Roedd hyn er mwyn tynnu sylw at rai canfyddiadau cychwynnol a oedd yn seiliedig ar dystiolaeth ei fod wedi clywed gan randdeiliaid yng Nghymru, gan gynnwys sefydliadau pysgota, cyrff anllywodraethol amgylcheddol a chyrff y llywodraeth. Safiad y Pwyllgor oedd, er ei fod yn ‘llwyr gefnogi cymryd camau i fynd i’r afael â physgodfeydd rhwydi drifft anghyfreithlon a niweidiol i’r amgylchedd ar raddfa fawr, mae’n bryderus iawn am effaith bosibl gwaharddiad llwyr’. Cafodd y farn hon ei llywio gan dystiolaeth a oedd yn amlygu:
  • y gallai gwaharddiad llwyr gael effaith ddinistriol ar y fflyd yng Nghymru, ac ar ein cymunedau arfordirol o ganlyniad i hynny;
  • mai effaith amgylcheddol fach iawn a gaiff pysgodfeydd rhwydi drifft ar raddfa fach yng Nghymru;
  • os gweithredir gwaharddiad llwyr, gallai llongau gael eu hannog i ddefnyddio offer eraill fel rhwydi tagell a osodir ar y gwaelod, a allai fod yn fwy niweidiol i’r amgylchedd.
Roedd y Pwyllgor yn argymell y gallai gorfodi deddfwriaeth bresennol mewn modd priodol fynd i’r afael â phroblemau a achosir ar hyn o bryd gan bysgodfeydd rhwydi drifft anghyfreithlon, heb yr angen am waharddiad llwyr. Os nad yw’r cynigion yn cael eu tynnu’n ôl, roedd y Pwyllgor yn awgrymu y dylid nodi eithriadau ar gyfer pysgodfeydd rhwydi drifft cynaliadwy ar raddfa fach. Roedd y Pwyllgor yn cefnogi cynigion yr adroddiad drafft, ond hefyd awgrymodd ragor o newidiadau, i sicrhau na allai pysgod a ddaliwyd drwy bysgota rhwydi drifft anghyfreithlon gael eu prynu na’u gwerthu fel rhan o gadwyn gyflenwi bwyd môr yr UE. Cafodd y Pwyllgor ymateb i’w ganfyddiadau gan Gomisiynydd yr UE dros yr Amgylchedd, Materion Morol a Physgodfeydd, y Comisiynydd Vella ar 23 Mawrth, 2015. Bu’r Pwyllgor yn ymweld â Brwsel yn gynharach y mis hwn i drafod cynnwys a statws y cynnig gyda’r Comisiwn Ewropeaidd ac Aelodau o Senedd Ewrop.

Statws presennol y cynnig

Disgwylir i bleidlais gael ei chynnal yn y Pwyllgor PECH ar 7 Mai 2015 ar y rheoliadau drafft. Fodd bynnag, o ganlyniad i alwadau am wrthod y cynnig drafft yn llwyr, penderfynwyd y byddai’r cynnig yn cael ei anfon at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol i gael ei farn. Bellach disgwylir i’r bleidlais gael ei chynnal ym mis Medi 2015 yn Senedd Ewrop. Nid yw Cyngor y Gweinidogion wedi mabwysiadu safbwynt cyffredin hyd yma. *Llun Flickr gan Procsilas Moscas. Trwyddedwyd o dan Creative Commons. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg