Y Gweinidog i esbonio'r oedi gyda'r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol i Aelodau

Cyhoeddwyd 19/06/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

19 Mehefin 2015 Erthygl gan Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cymru [caption id="attachment_2648" align="alignnone" width="300"]picture of a boy in classroom Llun: o Pixabay. Dan drwydded Creative Commons.[/caption]

Bydd y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Huw Lewis, yn gwneud datganiad yn Siambr y Cynulliad ddydd Mawrth (23 Mehefin), yn esbonio pam na fydd y ddeddfwriaeth i ddiwygio'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer asesu a diwallu Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cael ei chyflwyno tan ar ôl etholiad y Cynulliad.

Yn ôl Datganiad Busnes yr wythnos hon (16 Mehefin) sy'n nodi agenda'r Siambr ar gyfer y tair wythnos nesaf, roedd disgwyl i'r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg (Cymru) gael ei osod yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 6 Gorffennaf.

Fodd bynnag, gwnaed Datganiad Gweinidogol ddoe yn cyhoeddi, yn lle hynny, y bydd Bil Drafft yn cael ei gyflwyno cyn toriad yr haf (erbyn dydd Gwener 16 Gorffennaf) a fersiwn gynnar o'r Cod Ymarfer yn cael ei chyhoeddi yn yr hydref. Bydd ymgynghori ar y Bil Drafft a'r Cod Ymarfer yn digwydd tan fis Rhagfyr eleni a bydd y Bil ei hun yn cael ei ddwyn ymlaen ar ôl etholiad mis Mai nesaf, yn gynnar yn y Cynulliad nesaf.

Dywedodd y Gweinidog: ‘Yn ddiamau mae angen cynnwys y proffesiwn o’r dechrau’n deg wrth gyflwyno newidiadau a gwelliannau gwirioneddol yn hytrach na’u cyflwyno iddynt ar y funud olaf, a hynny heb eu cynnwys’, ac o’r herwydd, ‘rwyf wedi penderfynu bod angen i ni gynnwys cam ychwanegol a phwysig yn ein proses ddiwygio.’

Cyn datganiad y Gweinidog ddydd Mawrth, gall Aelodau a sylwebyddion sydd â diddordeb ddarllen papur diweddar gan y Gwasanaeth Ymchwil, Anghenion Addysgol Arbennig/Anghenion Dysgu Ychwanegol yng Nghymru (PDF1.17MB). Mae'n dilyn hynt yr adolygiad a'r diwygio arfaethedig sydd eisoes wedi digwydd, gan roi cefndir i'r ddeddfwriaeth hon y mae cryn sôn wedi bod amdani.

View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg