Refferendwm yr UE – Pwy sy’n gymwys i bleidleisio?

22 Mehefin 2015

Erthygl gan Aled McKenzie, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

This is a picture of the EU flag.

Llun: o Pixabay.
Dan drwydded Creative Commons.

Pwy sy’n gymwys i bleidleisio, a phwy nad ydynt yn gymwys

Er bod etholfraint wahanol i etholiadau ar lefel leol, ar lefel ddatganoledig ac ar lefel Ewropeaidd, o ran etholiadau San Steffan, mae’r rheolau o ran pwy sy’n gymwys i bleidleisio wedi’u nodi fel a ganlyn  gan y Comisiwn Etholiadol.

Rhaid i berson gael ei gofrestru i bleidleisio, a

  • bod yn 18 mlwydd oed neu’n hŷn ar y diwrnod pleidleisio
  • bod yn ddinesydd Prydeinig, yn ddinesydd cymwys y Gymanwlad neu’n ddinesydd o Weriniaeth Iwerddon
  • peidio â bod yn destun unrhyw anallu cyfreithiol i bleidleisio

Mae’r Llywodraeth Geidwadol wedi penderfynu parhau âg etholfraint San Steffan ar gyfer y refferendwm ar barhau â’n helodaeth o’r Undeb Ewropeaidd, ond mae dau eithriad allweddol. Bydd dinasyddion y Gymanwlad sy’n byw yn Gibraltar yn gymwys i bleidleisio, a hefyd bydd Aelodau o Dŷ’r Arglwyddi yn gymwys i bleidleisio. Mae hyn yn eithrio nifer o grwpiau arwyddocaol y mae rhai pobl yn credu y dylent gael yr hawl i bleidleisio.

Y ‘lle Arall’

Caiff Aelodau o Dŷ’r Arglwyddi (y cyfeirir ato’n aml fel y ‘man arall’ yn ystod dadleuon Tŷ’r Cyffredin) eu gwahardd rhag pleidleisio yn etholiadau San Steffan, am eu bod eisoes yn cael eu cynrychioli yn y Senedd. Mae ganddynt hawl i bleidleisio mewn etholiadau lleol, etholiadau datganoledig neu etholiadau Ewrop, fodd bynnag, a byddant yn gallu pleidleisio yn y refferendwm sydd i ddod. Mae cynsail ar gyfer caniatau i Arglwyddi bleidleisio mewn cwestiynau cyfansoddiadol a gynigir mewn refferenda; cafodd ei rhoi iddynt yn ystod y refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban er enghraifft. Mae Philip Hammond AS, yr Ysgrifennydd Tramor wedi dweud ei bod yn ‘amlwg yn iawn y dylai’r etholfraint gael ei rhoi iddynt yn y refferendwm.’

Gibraltar

Nid yw dinasyddion y Gymanwlad sy’n byw yn Gibraltar fel arfer yn cael y cyfle i bleidleisio yn etholiadau San Steffan, gan nad oes Tiriogaethau Tramor Prydain yn cael eu cynrychioli yn y Senedd. Fodd bynnag, yn wahanol i Diriogaethau Tramor eraill Prydain, mae Gibraltar yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd, ac felly bydd y bobl yn cael yr hawl i gael llais yn y canlyniad. Bydd Gibraltar yn pleidleisio mewn etholiadau Ewropeaidd fel rhan o etholaeth De Orllewin Lloegr, felly mae cynsail i Gibraltar fod yn rhan o genhedloedd y DU ar lefel Ewropeaidd. Eto’i gyd, dim ond dinasyddion Prydeinig, Gwyddelig a dinasyddion y Gymanwlad fydd yn gymwys i bleidleisio yn Gibraltar, er gwaetha’r ffaith y gall dinasyddion yr UE bleidleisio yn etholiadau Ewrop os ydynt yn byw yn Gibraltar.

Er y bydd Senedd Gibraltar yn gweithredu Bil y DU ‘lle bydd hynny’n bosibl,’ mae hefyd yn cyflwyno ei Bil refferendwm ei hun, ‘a fydd yn ategu deddfwriaeth y DU’ yn ôl yr Ysgrifennydd Tramor.

Dinasyddion yr UE

Ar wahân i ddinasyddion Malta a Cyprus (oherwydd eu bod yn aelodau o’r Gymanwlad) a dinasyddion Gweriniaeth Iwerddon, ni fydd dinasyddion yr UE yn cael yr hawl i bleidleisio. Beirniadodd Katie Ghose o’r Gymdeithas Diwygio Etholiadol (ERS) Lywodraeth y DU am roi blaenoriaeth i ddinasyddion y Gymanwlad yn hytrach na dinasyddion yr UE . Ymatebodd Llywodraeth y DU, gan ddweud mai ‘etholfraint seneddol San Steffan a ddylai fod yn sail i ymgynghori â phobl Prydain.’ Mae hyn wedi cael ei feirniadu gan bartion penodol, gan gynnwys y SNP. Dywedodd Angus MacNeil AS sy’n cynrychioli SNP:

‘Two weeks ago I was in North Uist and met one of my constituents, who is from Germany. She has lived in North Uist for 25 years and she voted in the Scottish referendum, but she cannot vote in this referendum. Why were the Scottish Government more generous to and more understanding of her rights as a citizen for 25 years than the Tory Government? Why is she excluded?’

Nid dyma’r yw’r unig enghraifft a ddefnyddir gan y SNP o ran gwladolion yr UE na chânt eu cynnwys yn yr etholfraint. Yn ystod yr un ddadl, soniodd Alex Salmond am Christian Allard MSP, dinesydd Ffrengig sy’n aelod o Senedd yr Alban ac a bleidleisiodd yn y refferendwm ar annibyniaeth na fydd yn cael yr hawl i bleidleisio yn refferendwm yr UE.

Mae Bil, a gyflwynwyd gan yr Arglwydd Balfe, Ceidwadwr, a fyddai’n ymestyn yr etholfraint i Ddinasyddion yr UE sy’n byw yn y DU ym mhob etholiad, wedi cael ei ddarlleniad cyntaf yn Nhŷ’r Arglwyddi yn ddiweddar. Byddai hwn yn dod i rym ar y diwrnod y caiff y gyfraith ei phasio, ac os caiff ei phasio yn ddigon cyflym gallai etholfraint San Steffan gynnwys dinasyddion yr UE sy’n byw yn y DU. Serch hynny, mae’r Bil hwn ymhell y tu ôl i Fil y Refferendwm, sydd eisoes wedi cyrraedd y cyfnod Pwyllgor, felly mae hyn yn annhebygol o ddigwydd.

Cynnwys dinasyddion 16 ac 17 mlwydd oed

Fel y trafodwyd mewn blog cynharach nid yw’n ymddangos yn debygol y bydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno estyniad i’r etholfraint i bobl ifanc 16 a 17 mlwydd oed ar gyfer y refferendwm hwn. Mae hyn wedi achosi cynnen yn San Steffan, gyda nifer o Aelodau Seneddol ac eraill yn dymuno newid y ddeddfwriaeth. Dywedodd Caroline Lucas yr AS o’r Blaid Werdd:

‘I want to press the Foreign Secretary again on the question of extending the franchise to 16 and 17-year-olds. The answer he gave about why we should not do it—because it is an issue of national importance—is the main reason he should do it. He said that he did not want to deviate from the franchise for Westminster, but he is already doing that by extending it to peers. Why not let young people have a say on their future, which is what this Bill is about?’

Mae gwelliannau amrywiol, gyda chefnogaeth gan y Blaid Lafur, y SNP, Plaid Cymru a’r Blaid Werdd wedi cael eu cyflwyno i’r Senedd, gyda’r nod o ganiatáu i bobl ifanc 16 ac 17 mlwydd oed gael yr hawl i bleidleisio yn y refferendwm. Fel gyda dinasyddion yr UE, rhoddwyd yr hawl iddynt bleidleisio yn refferendwm annibyniaeth yr Alban, ac mae hyn wedi arwain at feirniadu Llywodraeth y DU gan y gwrthbleidiau am beidio â chaniatáu hyn eto. Mae gwrthwynebiad i Lywodraeth y DU ynghylch hyd a lled yr etholfraint ar gyfer y refferendwm yn fater sydd o dan sylw yn Nhŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi. Ers hynny, mae’r Prif Weinidog wedi cyhoeddi y bydd pleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin ynghylch a ddylid gostwng yr oedran pleidleisio, er ei fod wedi nodi’n glir mai safbwynt y Ceidwadwyr yw y dylid cadw’r trothwy oedran pleidleisio fel y mae.

View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg