Y ddadl ar Araith y Frenhines 2015 yn y Cyfarfod Llawn

Cyhoeddwyd 23/06/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

23 Mehefin 2015 Erthygl gan Alys Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Dyma lun o Siambr y Cynulliad

Cyflwynwyd Araith y Frenhines 2015 i Senedd y DU ar 27 Mai 2015, yn dilyn yr Etholiad Cyffredinol ar 7 Mai. Roedd yr araith yn cynnwys manylion am fwriad Llywodraeth y DU i gyflwyno cyfres o Filiau yn ystod sesiwn seneddol 2015-16.

Cynhelir dadl flynyddol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar Araith y Frenhines yn y Cyfarfod Llawn ar 24 Mehefin 2015.

Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn cynnwys adran sy'n rhoi'r hawl i Ysgrifennydd Gwladol Cymru gymryd rhan yn nhrafodion y Cynulliad, ond nid i bleidleisio, ac i gael mynediad at ddogfennau sy'n berthnasol i'r trafodion hynny.

Mae'r Ddeddf hefyd yn cynnwys y gofyniad i Ysgrifennydd Gwladol Cymru ymgynghori â'r Cynulliad ynghylch rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU ac i gymryd rhan yn un o gyfarfodydd llawn y Cynulliad o leiaf unwaith yn ystod pob sesiwn seneddol.

Y Llywydd sy'n cyflwyno'r cynnig i'w drafod, gan ddatgan:

NDM5792 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi cynnwys rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU 2015/2016.

Gall Aelodau'r Cynulliad gyflwyno gwelliannau i'r cynnig.

Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn agor y ddadl, gan siarad am hyd at 20 munud. Bydd gan Lywodraeth Cymru hyd at 20 munud i ymateb, ac yna bydd cyfle i'r Siambr gyfan ymateb.

Mae'r Gwasanaeth Ymchwil wedi cyhoeddi papur ar Araith y Frenhines sy'n cynnwys manylion am yr holl Filiau a gyhoeddwyd. Mae rhai Biliau cyfansoddiadol pwysig, gan gynnwys:

  • Bil Cymru, a fydd yn gweithredu cynigion Llywodraeth y DU a nodwyd yn ei phapur polisi, Pwerau at bwrpas: Tuag at Setliad Datganoli sy'n Para i Gymru, ym mis Chwefror 2015. Mae'r rhain yn cynnwys rhai o argymhellion ail adroddiad Comisiwn Silk ar ddatganoli yng Nghymru ar bwerau newydd i Gymru a symud at fodel datganoli o gadw pwerau. Bydd y Bil hefyd yn gweithredu rhai o argymhellion Comisiwn Smith ar bwerau i'r Alban sy'n briodol i Gymru ym marn Llywodraeth y DU. Disgwylir deddfwriaeth ddrafft yn nhymor yr hydref.
  • Diben Bil Refferendwm yr Undeb Ewropeaidd yw ei gwneud yn bosibl cynnal refferendwm i alluogi etholwyr i bleidleisio a ydynt am i'r DU barhau'n rhan o'r Undeb Ewropeaidd ai peidio cyn diwedd 2017. Mae'r Bil hwn eisoes wedi cael darlleniad cyntaf ac ail ddarlleniad yn Nhŷ'r Cyffredin, ac mae Pwyllgor y Tŷ Cyfan wedi dechrau ei drafod.
  • Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno Bil yr Alban i adlewyrchu'r ymrwymiad a wnaed cyn y refferendwm ar annibyniaeth ym mis Medi 2014 i ddatganoli rhagor o bwerau i'r Alban, ac argymhellion Cytundeb Comisiwn Smith o fis Tachwedd 2014. Mae'r Bil hwn eisoes wedi cael darlleniad cyntaf ac ail ddarlleniad yn Nhŷ'r Cyffredin, ac mae Pwyllgor y Tŷ Cyfan wedi dechrau ei drafod.

Mae'r Biliau allweddol eraill yn cynnwys:

  • Mae'r Bil Ynni yn cynnwys mesurau i wella diogelwch ynni, gan gynnwys cynigion yn ymwneud â ffermydd gwynt ar y tir. Mae Llywodraeth y DU yn ystyried sut y bydd hyn yn berthnasol i Gymru yng nghyd-destun proses Dydd Gŵyl Dewi. Byddai newidiadau a gynigwyd gan Gomisiwn Silk yn golygu y bydd gan Gymru'r pŵer yn y dyfodol i benderfynu sut y mae am reoli ceisiadau cynllunio ar gyfer ffermydd gwynt ar y tir hyd at 350MW.
  • Nod y Bil Menter yw annog busnesau drwy leihau biwrocratiaeth a'i gwneud yn haws i fusnesau bach ddatrys anghydfodau'n gyflym ac yn hwylus.
  • Nod y Bil Cyfraniadau Yswiriant Gwladol a Chyllid yw sicrhau na fydd unrhyw gynnydd o ran treth incwm, treth ar werth nag Yswiriant Gwladol yn y pum mlynedd nesaf.
  • Mae'r Bil Mewnfudo yn cynnwys cynigion i wneud gweithio'n anghyfreithlon yn drosedd. Bydd yn golygu bod modd ymafael yn y cyflog a delir i fewnfudwyr anghyfreithlon fel enillion troseddau.
  • Nod y Bil Eithafiaeth yw atgyfnerthu llywodraeth a phwerau gorfodi'r gyfraith er mwyn mynd i'r afael ag eithafiaeth.
  • Bydd y Bil Plismona a Chyfiawnder Troseddol yn cyflwyno nifer o ddiwygiadau i'r system cyfiawnder troseddol. Bydd y Bil yn cwmpasu materion sydd wedi'u datganoli a rhai a gadwyd yn ôl.
  • Nod y Bil Cyflogaeth Lawn a Budd-daliadau Lles yw cyflawni ymrwymiad Llywodraeth y DU i rewi prif gyfraddau’r rhan fwyaf o fudd-daliadau oedran gweithio, credydau treth a Budd-dal Plant, ac i leihau'r terfyn uchaf ar fudd-daliadau.
  • Mae'r Bil Undebau Llafur yn cynnwys cynigion i gyflwyno trothwy 50 y cant ar gyfer y ganran sy'n cymryd rhan ym mhleidleisiau undebau (a chadw'r gofyniad bod mwyafrif syml o bleidleisiau o blaid unrhyw gynnig).
View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg