Cynllun gweithredu bwyd a diod - blwyddyn yn ddiweddarach

Cyhoeddwyd 25/06/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

25 Mehefin 2015 Erthygl gan Elfyn Henderson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru cakeMae blwyddyn wedi mynd heibio bellach ers i Lywodraeth Cymru lansio ei Chynllun Gweithredu Bwyd a Diod (PDF 2.5MB) yn ystod haf 2014. Ddydd Mawrth, 30 Mehefin 2015, bydd Rebecca Evans, y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad am y cynnydd a wnaed o ran y cynllun hyd yma. Y cynllun gweithredu Y prif ymrwymiad yn y cynllun yw sicrhau y ceir cynnydd o 30 y cant, i £7 biliwn, o ran trosiant yn y diwydiant erbyn 2020. Mae'r ymrwymiadau eraill yn cynnwys:
  • Sefydlu Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod newydd yng Nghymru. Cylch gwaith y bwrdd fyddai perchenogi’r Cynllun Gweithredu, a gweithredu fel llais i’r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru.
  • Parhau i ddatblygu hunaniaeth fasnach newydd ar gyfer cynnyrch o Gymru, gan gynnwys datblygu dull newydd o wobrwyo’r diwydiant bwyd (cafodd Gwobrau’r Gwir Flas blaenorol eu dirwyn i ben yn 2013).
  • Datblygu gweithlu medrus a galluog drwy bartneriaethau gydag ysgolion, sefydliadau addysg uwch, diwydiant ac eraill.
Mae'r cynllun yn cynnwys 48 o gamau gweithredu i gyd, gyda 25 ohonynt yn canolbwyntio ar dwf busnes a datblygu'r farchnad (gan gynnwys hyrwyddo’r defnydd o Gynllun Enw Bwyd wedi'i Amddiffyn yr UE. Mae’r camau gweithredu eraill yn canolbwyntio ar addysg, hyfforddiant, sgiliau, arloesi a diogelwch bwyd. Cynnydd hyd yma - rhai pwyntiau allweddol Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru Nid yw’r Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru wedi cael ei sefydlu’n llawn eto, er bod y cynllun yn nodi carreg filltir yn y tymor byr, y dylai’r Bwrdd gael ei 'sefydlu’n llawn yn 2014'. Penodwyd Robin Jones, o gwmni’r Village Bakery, Wrecsam, yn Gadeirydd dros dro ym mis Gorffennaf 2014. Cynhaliwyd proses ymgeisio i benodi aelodau’r bwrdd yn ystod yr hydref 2014, a arweiniodd at benodi nifer o bobl o'r diwydiant i 'fwrdd cysgodol' . Cyfarfu'r bwrdd cysgodol am y tro cyntaf ym mis Mawrth 2015. Yn ystod y gwanwyn eleni, cynhaliwyd proses ymgeisio arall oedd â’r nod o 'gynyddu ehangder y sylw a roddir i'r Bwrdd’. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd y bwrdd yn gweithredu ar ffurf gysgodol nes y caiff y Bwrdd ei lunio’n llawn, a chaiff ei lansio’n swyddogol 'ddiwedd yr haf'. Twf y Diwydiant Nid oes ffigurau ar gael i olrhain cynnydd yn ôl yr amcan o sicrhau trosiant cynyddol o 30 y cant, i £7 biliwn, yn y diwydiant erbyn 2020. Er, mewn Dadl yn y Cynulliad ar y diwydiant bwyd ar Ynys Môn yn ddiweddar, dywedodd y Dirprwy Weinidog, yn 2012-13 bod cyfradd twf y diwydiant yn 10 y cant (mae’r cyfnod hwn cyn lansio’r cynllun gweithredu). Hunaniaeth Masnach Yn y ddadl, dywedodd y Dirprwy Weinidog hefyd fod Llywodraeth Cymru yn::
Gweithio gyda'r diwydiant ar ddiffinio’r manylion a'r hanfodion sy'n sail i hunaniaeth ‘bwyd a diod Cymru' ac maent yn gweithio ar ddatblygu'r naratif sy'n adrodd stori bwyd a diod Cymru.
'Bwyd a Diod Cymru' yw’r hunaniaeth fasnach ambarél a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo bwyd a diod o Gymru. Llwyfan ydyw, sy'n arddangos brandiau a chynnyrch unigol, yn hytrach na bod yn frand ei hun. Mae’r dull hwn yn disodli’r gwobrau Cymru: Y Gwir Flas blaenorol, nad oedd Llywodraeth Cymru yn teimlo a oedd yn briodol mwyach. Gwobrau Bwyd Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pa wobrau a fydd yn olynu Gwobrau’r Gwir Flas. Mae wedi gweithio, fodd bynnag, ar ddod â’r Gwobrau Great Taste, sy’n wobrau yn y Deyrnas Unedig yn gyfan, i Gymru am y tro cyntaf. Mae'r Gwobrau Great Taste yn cael eu trefnu gan y Guild of Fine Food ac maent wedi cael eu disgrifio fel 'Oscars' neu 'wobr Booker’ y byd bwyd. Cynhaliwyd sesiynau blasu yng Nghaerdydd ar ddechrau mis Mehefin, pan ddaeth oddeutu 30 o feirniaid i brofi bron i 500 o gynhyrchion bwyd a diod o Gymru. Cynllun Gweithredu Twristiaeth Bwyd Ym mis Mai 2015 lansiodd Llywodraeth Cymru Y Cynllun Gweithredu Twristiaeth Bwyd i Gymru (2015-20) (PDF 1137KB) newydd. Nod y cynllun yw codi proffil Cymru fel cyrchfan twristiaeth bwyd o safon uchel. Ffeithiau a Ffigurau Mae gwefan benodol Llywodraeth Cymru Bwyd a Diod Cymru yn rhoi'r ffeithiau a'r ffigurau canlynol am y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru: Cynhyrchu ar y fferm a gweithgynhyrchu bwyd
  • 48,000 o swyddi
  • 14,000 o fusnesau wedi'u cofrestru (98 y cant yn fusnesau micro)
  • Trosiant o £5.7 biliwn
  • Gwerth ychwanegol crynswth o £1.3 biliwn
  • 75 y cant o fusnesau yn gwerthu i'r cyhoedd yn gyffredinol
 Y gadwyn gyflenwi gyfan (fferm i'r fforc, gan gynnwys adwerthu)
  • 170,000 o swyddi
  • 23,300 o fusnesau
  • Trosiant o £17.3 biliwn
  • Gwerth ychwanegol crynswth o £4 biliwn
Rhagor o wybodaeth: Cyhoeddiadau'r Gwasanaeth Ymchwil. Y Gadwyn Cyflenwi Bwyd Y Sector Llaeth Prisiau Cig Eidion o Gymru Gwefan Llywodraeth Cymru Bwyd a Diod