A yw Llywodraeth Cymru yn cyflawni o ran hawliau plant a phobl ifanc?

Cyhoeddwyd 29/06/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

29 Mehefin 2015 Erthygl gan Sian Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_1000" align="alignright" width="320"]Delwedd o Flickr gan LindsaH. Trwyddedwyd o dan Creative Commons. Delwedd o Flickr gan LindsaH. Trwyddedwyd o dan Creative Commons.[/caption] Yfory, bydd Aelodau’r Cynulliad yn trafod adroddiad Llywodraeth Cymru ar sut y mae wedi cydymffurfio â’i dyletswydd i roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau’r plentyn (CCUHP) pan fydd Gweinidogion Cymru yn arfer eu swyddogaethau. Mae gan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn 54 erthygl, a cheir crynodeb ohonynt yma. Mae’r erthyglau yn pennu amrywiaeth eang o hawliau i blant a phobl ifanc hyd at 18 mlwydd oed, gan gynnwys yr hawl i ddiogelwch, iechyd, teulu, addysg, diwylliant a hamdden. Yn 2011, pleidleisiodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unfrydol o blaid Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, ac wrth wneud hyn, y Cynulliad oedd y ddeddfwrfa gyntaf yn y Deyrnas Unedig i basio deddfwriaeth yn ymwneud â hawliau plant yn benodol. Roedd y Mesur yn rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi sylw dyledus i hawliau a rhwymedigaethau o fewn Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a’i brotocolau dewisol. Ers mis Mai 2012, mae gan Weinidogion Cymru ddyletswydd i roi "sylw dyledus" i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn wrth gynllunio a datblygu polisi neu ddeddfwriaeth newydd, neu wrth adolygu neu newid deddfwriaeth neu bolisi presennol. Ers 1 Mai 2014, ymestynnodd y ddyletswydd hon i holl swyddogaethau Gweinidogion Cymru. Mae’r Mesur hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud Cynllun Hawliau Plant. Mae’r cynllun hwn yn nodi’r trefniadau hynny y bydd yn rhaid i Weinidogion Cymru, a staff Llywodraeth Cymru sy’n rhoi cyngor iddynt, eu rhoi ar waith i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r ddyletswydd i roi sylw dyledus iddynt wrth ddatblygu ac adolygu polisi a deddfwriaeth. Mae’r Mesur hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyflwyno adroddiad gerbron y Cynulliad. Yr adroddiad sy’n cael ei drafod yfory yw’r ail adroddiad cydymffurfio, ar gyfer y cyfnod o fis Chwefror 2013 i fis Mai 2015. Pan gyhoeddwyd yr adroddiad cydymffurfio cyntaf yn 2013, darparodd y Comisiynydd Plant ar y pryd, a hefyd y grŵp monitro Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a sefydliadau nad ydynt yn gyrff y llywodraeth yng Nghymru dystiolaeth ysgrifenedig i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Bydd gan yr Aelodau ddiddordeb mewn gweld sut y mae’r prif randdeiliaid yn ymateb i’r adroddiad diweddaraf. Mae hon yn flwyddyn bwysig ar gyfer adolygu sut y darperir hawliau plant yng Nghymru. Bydd y Cenhedloedd Unedig yn ystyried beth mwy sydd angen i’r Llywodraethau yn San Steffan ac yng Nghymru eu gwneud er mwyn gweithredu’r CCUHP yn llawn. Mae’r Cenhedloedd Unedig ar fin cymryd tystiolaeth gan y ddwy Lywodraeth, pedwar Comisiynydd Plant y DU, a sefydliadau anllywodraethol. Mae’r Aelodau hefyd yn disgwyl datganiad pellach gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi cyn y toriad, yn nodi ei hymateb llawn i’r adroddiad ar yr ‘Adolygiad o rôl a swyddogaethau Comisiynydd Plant Cymru’, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2014. Roedd yr argymhellion yn yr adroddiad yn cynnwys nodi y dylai’r cefndir cyfreithiol sy’n llywodraethu Comisiynydd Plant Cymru gael ei gyfuno a’i symleiddio mewn un darn o ddeddfwriaeth yng Nghymru, ac y dylid ymestyn cylch gwaith Comisiynydd Plant Cymru i gwmpasu’r holl faterion sy’n ymwneud â lles plant a phobl ifanc sy’n byw yng Nghymru, os yw’r materion hynny wedi’u datganoli neu beidio. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg