Trafod Bil Refferendwm yr UE – Rhan 1

Cyhoeddwyd 30/06/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

30 Mehefin 2015 Erthygl gan Aled McKenzie, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_3340" align="alignleft" width="682"]Llun o San Steffan Llun: Flikr gan Shane Global. Dan drwydded Creative Commons[/caption] Ar ôl yr ail ddarlleniad ar 9 Mehefin, bu Bil Refferendwm yr UE yn destun craffu gan Bwyllgor y Tŷ Cyffredin Cyfan ar 16 ac 18 Mehefin. Yn y cyfnod craffu hwn bu'r Bil yn destun archwiliad manwl ar ôl i brif bwyntiau'r Bil gael eu trafod yn ystod yr ail ddarlleniad. Cododd Aelodau Seneddol y Llywodraeth ac Aelodau'r Wrthblaid amrywiaeth eang o faterion a oedd yn ymwneud â'r Bil yn ystod y cam hwn. “Quad lock” Cododd mater y “quad lock” neu'r mwyafrif dwbl yn ystod ymgyrch yr Etholiad Cyffredinol. Mae hyn yn golygu y byddai'n rhaid i bob un o bedair gwlad gyfansoddol y DU bleidleisio 'Na' cyn y gallai'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd ar ôl y refferendwm. Yn ystod y ddadl, roedd yr SNP a Phlaid Cymru o blaid y gwelliant i gyflwyno'r mwyafrif dwbl. Roedd y Ceidwadwyr a Llafur yn gwrthwynebu'r cynnig, gan ddadlau mai un wladwriaeth yw'r DU, ac felly dylai'r penderfyniad gael ei wneud gan y DU gyfan. Yn ôl Pat McFadden AS, Gweinidog yr Wrthblaid dros Ewrop, “we remain one member state, and we should make this decision as one member state.” Awgrymodd Sammy Wilson AS, DUP, y gallai cyn lleied â dau y cant o boblogaeth Gogledd Iwerddon (y lleiaf o'r cenhedloedd cyfansoddol) ddal gweddill y DU yn wystlon pe byddai mwyafrif dwbl yn cael ei fabwysiadu ar gyfer y refferendwm. Dywedodd yr SNP bod nifer o wledydd yn defnyddio mwyafrif dwbl mewn refferenda i basio newidiadau cyfansoddiadol. Enghraifft o'r rheini yw Awstralia, lle mae'n rhaid i fwy na hanner y boblogaeth a mwyafrif y gwladwriaethau gefnogi newid cyn y gellir pasio unrhyw newidiadau. Purdah Mae'r cyfnod cyn etholiad, a elwir hefyd yn "purdah"  yn adeg pan fydd rheolau arbennig yn gymwys i ymgyrchu gwleidyddol. Byddai hyn yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth y DU fod yn niwtral yn ystod y cyfnod hwn, ac mae Llywodraeth y DU yn honni y byddai hynny'n anymarferol. Oherwydd hynny, cyhuddwyd Llywodraeth y DU o gynllwynio i ddefnyddio'r gwasanaeth sifil i geisio ystumio'r canlyniad o'u plaid. Pleidleisiodd Liam Fox AS, y cyn Ysgrifennydd Amddiffyn, yn erbyn y Llywodraeth, ac ymunodd 26 o wrthryfelwyr Ceidwadol eraill ag ef. Honnodd Alex Salmond AS y gallai Llywodraeth y DU geisio llwytho'r fantol ar ochr pleidlais 'Ie' heb fecanwaith i sicrhau bod rheolau arferol purdah yn gymwys yn ystod y cyfnod cyn y refferendwm. Codwyd pryderon hefyd ynghylch a fydd y Comisiwn Ewropeaidd yn niwtral yn ystod yr ymgyrch.  Honnodd Angus MacNeil AS nad oeddent wedi bod yn niwtral yn refferendwm yr Alban a nododd Syr William Cash AS bod pryderon y gallai hynny ddigwydd yn y refferendwm hwn hefyd. Cydgyfrifoldeb Mae'r cysyniad o gydgyfrifoldeb yn golygu y byddai pob aelod o'r Cabinet yn parhau i fod yn unedig yn eu cefnogaeth i un o ymgyrchoedd y refferendwm, yn hytrach na dewis pa ochr i'w chefnogi. Yn achos cydgyfrifoldeb, byddai angen i Weinidog yn ystod cyfnodau cyffredin y Llywodraeth, ymddiswyddo os yw'n anghytuno'n gyhoeddus â safbwynt y Llywodraeth. Yn ystod refferendwm 1975 cafodd cydgyfrifoldeb ei atal dros dro . Mae honiadau wedi'u gwneud yn ystod yr wythnosau diwethaf bod Llywodraeth y DU yn bwriadu gorfodi cydgyfrifoldeb yn ystod cyfnod yr ymgyrch. Fodd bynnag, mae Llywodraeth y DU wedi gwadu'r honiadau hyn. Yn ystod y ddadl, dywedodd Ken Clarke AS fel a ganlyn: “the Prime Minister has announced that he will suspend the rules of collective responsibility and that members of the Government will be able to campaign on whichever side they choose.” Trafod Bil Refferendwm yr UE – Rhan 2 View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg