Y Ddeddf Trais yn erbyn Menywod – blwyddyn wedi pasio

Cyhoeddwyd 30/06/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

30 Mehefin 2015 Erthygl gan Hannah Johnson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Mae 12 mis wedi pasio ers i Lywodraeth Cymru gyflwyno Bil i leihau trais ar sail rhywedd yng Nghymru. Ddydd Mawrth 30 Mehefin, bydd y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews AC, yn gwneud datganiad yn y Cyfarfod Llawn ar y cynnydd a wnaed. Felly, beth sydd wedi digwydd yn y flwyddyn ddiwethaf? VAWwelshYm mis Mawrth 2015, pasiwyd y Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, ar ôl taith anodd drwy'r Cynulliad, gan gynnwys newid yr enw ac amryw gonsesiynau ar addysg. Mae'r blog hwn yn rhoi manylion am y problemau cychwynnol a wynebodd y Ddeddf, a'r blog hwn yn amlinellu sut mae'r darpariaethau addysg yn y Ddeddf wedi esblygu. Dyma brif rannau'r Ddeddf:
  • dyletswydd i baratoi a chyflwyno adroddiad ar strategaethau cenedlaethol;
  • dyletswydd i baratoi a chyflwyno adroddiad ar strategaethau lleol;
  • dyletswydd ar awdurdodau lleol i gyflwyno adroddiad ar sut y maent yn mynd i'r afael â thrais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn eu sefydliadau addysgol, gan gynnwys drwy addysg rhyw;
  • pŵer i Weinidogion gyhoeddi canllawiau statudol a'r ddyletswydd i ddilyn y canllawiau o'r fath; a
  • penodi Cynghorydd Trais yn erbyn Menywod.
Newyddion Diweddar
  • Cafodd y swydd Cynghorydd Trais yn Erbyn Menywod gyda Llywodraeth Cymru (a gafodd ei chreu gan y Ddeddf) ei hysbysebu, ond fel rôl ran-amser;
  • Bu Cymorth i Fenywod Cymru yn ymgynghori ar Ganllaw Arfer Da i gyflwyno Dulliau Addysg Cyfan i Atal Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ym mis Ebrill;
  • Mae'r adroddiadau diweddar yn y newyddion yn awgrymu nad yw'r hyfforddiant heddlu yng Ngwent yn cyrraedd y safon, gyda llawer yn dibynnu ar e-ddysgu;
  • Mae ymchwil academaidd yn dangos y gall troseddau treisgar fod 60 y cant yn uwch nag a ystyriwyd yn flaenorol, oherwydd y gall dioddefwyr gofnodi uchafswm o bum digwyddiad yn unig;
  • Yr wythnos diwethaf, datgelodd Gwasanaeth Erlyn y Goron fod 5,124 o bobl wedi'u canfod i fod yn euog am drais yn erbyn menywod a merched yng Nghymru yn 2014-15;
  • Cafodd adroddiad gan y Cenhedloedd Unedig ar drais yn erbyn menywod, yn archwilio pa mor dda y mae'r DU yn ymateb i drais yn erbyn menywod a merched, ei gyhoeddi ym mis Mehefin gan Rapporteur Arbennig y Cenhedloedd Unedig yr Athro Cyswllt Rashida Manjoo. Yn yr adroddiad, mae Rashida Manjoo yn argymell y dylai Llywodraeth y DU:
    • werthuso ar frys sut y caiff gwasanaethau cefnogi menywod (gan gynnwys llochesi, llinellau cymorth a gwasanaethau menywod BME) sy'n achub bywydau, eu hariannu ac ymrwymo i sicrhau eu bod yn ddigonol ac yn gynaliadwy;
    • gwneud addysg rhyw a pherthnasau'n orfodol mewn ysgolion fel ffordd sylfaenol o sicrhau bod y DU yn ceisio atal cam-drin;
    • edrych ar sut y mae newidiadau i gymorth cyfreithiol yn effeithio ar fenywod sy'n cael eu cam-drin;
    • adolygu sut y caiff hawliadau ceiswyr lloches sy'n fenywod eu hasesu i sicrhau sensitifrwydd ar sail rhywedd; a chaniatáu archwiliad annibynnol o driniaeth menywod yng nghanolfan cadw mewnfudwyr Yarls Wood (ni chafodd fynediad at y ganolfan ar ei hymweliad â'r DU).
Mae llawer o waith i'w wneud o hyd i roi'r Ddeddf ar waith, o lunio addysg perthnasau iach effeithiol i hyfforddi gweithwyr proffesiynol ar y rheng flaen, a datblygu strategaethau cenedlaethol a lleol.  View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg