Targedau statudol newid yn yr hinsawdd ar gyfer Cymru: llwybr cliriach i ddatgarboneiddio?

Cyhoeddwyd 02/07/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

02 Gorffennaf 2015 Erthygl gan Karen Whitfield, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_3378" align="alignnone" width="500"]Llun o ffordd o dan ddŵr. Llun o flickr gan Morien Jones. Trwydded Creative Commons.[/caption] Gosodwyd y Bil Cynllunio (Cymru) 2015 ar 11 Mai gan Carl Sargeant AC, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol. Mae'r Bil yn eang ac mae'n cwmpasu wyth maes polisi gwahanol a phenodol.  Un o'r rheini yw newid yn yr hinsawdd. Y targedau Mae'r Bil yn cyflwyno targedau statudol newid yn yr hinsawdd yng Nghymru am y tro cyntaf. Mae targedau newid yn yr hinsawdd presennol Cymru yn anstatudol. Mae'r Bil yn gosod targed o leihau'r allyriadau 80% erbyn 2050, o linell sylfaen 1990 neu 1995, yn dibynnu ar y nwy tŷ gwydr sydd i gael ei fonitro. Mae'r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru bennu targedau interim yn y rheoliadau sy'n gyson â'r nod a osodwyd ar gyfer 2050, er nad oes amserlen gadarn ar gyfer pennu'r rhain. Er mwyn cyrraedd y targedau, bydd Llywodraeth Cymru:
  • yn pennu cyllidebau carbon pum mlynedd;
  • yn nodi polisïau a chynigion sy'n dangos sut y bydd pob cyllideb garbon yn cael ei chyflawni; ac
  • yn adrodd (bob pum mlynedd) ynghylch a yw pob cyllideb garbon wedi'i chyflawni.
    • os na chaiff cyllideb ei chyflawni, rhaid i Lywodraeth Cymru nodi pa gamau y bydd yn eu cymryd i wneud iawn am yr allyriadau sy'n ormod mewn cyfnod cyllidebol.
Mae'r Bil hefyd yn sefydlu Corff Cynghori (sef, o bosibl, Pwyllgor y DU ar Newid yn yr Hinsawdd) i roi cyngor ynghylch pennu cyllidebau carbon ac i lunio adroddiad i Lywodraeth Cymru am y cynnydd tuag at gyrraedd y targedau. Sut y bydd cyllidebau carbon Cymru yn gweithio Mae'r cyllidebau carbon i'w gosod mewn rheoliadau, a'r cyfnodau cyllidebol yw 2016-2020, ac yna pob cyfnod dilynol o bum mlynedd hyd at 2050. Rhaid i Weinidogion Cymru osod y ddwy gyllideb garbon gyntaf cyn diwedd 2018, a'r cyllidebau ar gyfer y trydydd cyfnod a'r cyfnodau dilynol o leiaf bum mlynedd cyn cychwyn y cyfnod dan sylw. Mae'r Bil yn sefydlu cyfrif allyriadau net ar gyfer Cymru i gyfrifo a yw Cymru wedi bodloni bob cyllideb garbon. Bydd y cyfrif yn cael ei gyfrifo fel a ganlyn:
  • penderfynu ar swm net yr allyriadau nwyon tŷ gwydr o Gymru am flwyddyn (gan ystyried allyriadau a nwyon a dynnwyd o'r atmosffer oherwydd dalfeydd carbon, fel coedwigoedd neu fawnogydd);
  • tynnu ymaith nifer yr unedau carbon a gredydwyd i'r cyfrif; ac
  • ychwanegu nifer yr unedau carbon a ddebydwyd o'r cyfrif.
Unedau carbon a gredydwyd neu a ddebydwyd yw'r rhai sydd yn rhan o gynllun masnachu carbon sydd eisoes yn bodoli. Ar hyn o bryd, yr unig gynllun sy'n gweithredu yn y DU a Chymru yw Cynllun Masnachu Allyriadau yr UE (EU ETS). Mae'r EU ETS yn gweithredu ar lefel cwmni neu osodiad gyda phob cwmni yn cael lwfans benodol o allyriadau. Rhaid i gwmnïau sicrhau eu bod yn aros o fewn y terfyn a ddyrannwyd drwy brynu credydau carbon gan eraill os na allan nhw gyrraedd eu targed eu hunain. Fel arall, os bydd cwmni yn lleihau ei allyriadau gan fwy na'i lwfans, gall fancio credydau sbâr ar gyfer y blynyddoedd i ddod, neu gall eu gwerthu i gwmnïau sydd angen credydau carbon ychwanegol. Mae adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru ar Newid yn yr Hinsawdd ar gyfer 2014 yn nodi bod allyriadau EU ETS yn cyfrif am gyfran sylweddol o allyriadau Cymru, 54% yn 2012, oherwydd y diwydiant trwm yng Nghymru ac oherwydd ei bod yn wlad sy'n allforio ynni net. Dyma gyfran uwch o allyriadau nag yn unman arall yn y DU, ac mae'n golygu bod y ffordd y bydd allyriadau EU ETS yn cyfrif tuag at allyriadau net Cymru yn arbennig o bwysig. Yn ychwanegol at y cyfrifiadau uchod, mae'r Bil yn darparu y gall Llywodraeth Cymru gymryd hyd at 1% o gyllideb carbon yn y dyfodol a dod ag ef yn ôl i gyfnod y gyllideb bresennol. Gall hefyd gario unrhyw ran nas defnyddiwyd o gyllideb garbon ymlaen i'r cyfnod cyllidebol nesaf os bydd Cymru'n lleihau ei hallyriadau ar gyfer y cyfnod cyfredol o dan y lwfans cyllidebol.   Y prif wahaniaethau rhwng y ddeddfwriaeth newid yn yr hinsawdd yn yr Alban a'r DU Mae'r ddeddfwriaeth newydd yn debyg iawn i Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd y DU 2008 (Deddf y DU) a hefyd Deddf Newid yn yr Hinsawdd (yr Alban) 2009 (Deddf yr Alban), sydd â'r un targed ar gyfer 2050. Mae'n fwy agos at strwythur Deddf y DU, sydd hefyd yn gosod cyllidebau carbon pum mlynedd, er nad yw cyfnodau cyllidebol carbon Cymru yr un fath â rhai'r DU. Mae gan Ddeddf yr Alban dargedau blynyddol yn lle hynny. Rhaid i bob targed blynyddol fod o leiaf 3% yn is na'r flwyddyn flaenorol. Mae Deddf yr Alban yn cynnwys targed interim i leihau allyriadau 42% o linell sylfaen 1990 erbyn 2020. Nid yw Deddf y DU yn mynnu bod targedau interim yn cael eu gosod, ond mae'n darparu bod yn rhaid i gyllideb garbon 2018-2022 y DU fod o leiaf 34% yn is na llinell sylfaen 1990. Mae targed interim Cymru i'w osod mewn rheoliadau. Mae Deddfau'r DU a'r Alban yn cynnwys dyletswyddau i gyfyngu ar gyfraniad masnachu carbon i gwrdd â chyllideb garbon, er mwyn sicrhau bod y ffocws ar leihau allyriadau yn y cartref. Mae'r Bil yn rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru gyfyngu ar gyfraniad y credydau uned carbon i'r cyfrif ​​allyriadau net, ond nid yw hyn yn ddyletswydd. Yn wahanol i Ddeddfau'r DU a'r Alban, mae'r Bil yn cynnwys pwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy'n pennu na fydd rhai mathau o unedau carbon yn cyfrif tuag at y terfyn. Mae Deddfau'r DU a'r Alban yn cynnwys darpariaeth ar gyfer cyflwyno adroddiadau blynyddol ar gynnydd yn erbyn y targedau. Ar hyn o bryd mae gan Gymru adroddiadau blynyddol sy'n rhoi gwybodaeth am y cynnydd o ran y targedau lleihau allyriadau anstatudol presennol. Byddai'r Bil yn lleihau hyn i gyfnod adrodd o bum mlynedd, er y byddai gwybodaeth ar gael o hyd ar lefel Cymru trwy adroddiadau blynyddol y Rhestr Nwyon Tŷ Gwydr. Mae Deddf y DU hefyd yn cynnwys dyletswydd i'r Ysgrifennydd Gwladol ddarparu 'amrediad blynyddol dangosol' ar gyfer cyfrif carbon net y DU: o fewn yr amrediad hwnnw bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn disgwyl gostyngiad yn swm cyfrif carbon net y DU.   Pam bod angen y darpariaethau newydd hyn? Fel yr adroddwyd yn ddiweddar ym mlog y Gwasanaeth Ymchwil, mae ffigurau'r Rhestr Nwyon Tŷ Gwydr diweddaraf ar gyfer Cymru yn dangos bod yr allyriadau wedi cynyddu 10% rhwng 2012 a 2013, yn bennaf gan ffactorau y tu allan i gylch gwaith strategaeth bresennol Newid yn yr Hinsawdd Cymru. Mae'r Memorandwm Esboniadol ar gyfer y Bil yn dweud mai ei ddiben yw 'darparu gofyniad deddfwriaethol i sefydlu trywydd clir ar gyfer datgarboneiddio' ac am y tro cyntaf mae'n cynnwys y sector masnachu yng Nghymru drwy gyfrifo carbon. Bydd yn ddiddorol gweld a yw'r darpariaethau newydd yn darparu'r newid angenrheidiol ar gyfer lleihau'r allyriadau carbon yng Nghymru. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg