Canolfan hofrennydd heddlu Dyfed Powys yn cau

Cyhoeddwyd 03/07/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

03 Gorffennaf 2015 Erthygl gan Elfyn Henderson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_3393" align="alignright" width="300"]Dppopendayx-ray99helicopterdemo Llun: Wikimedia Commons. Dan drwydded Creative Commons[/caption] Mae Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu wedi cyhoeddi y bydd canolfan hofrennydd heddlu Dyfed Powys ym Mhen-bre yn cau er mwyn gwneud arbedion. Ddydd Iau 7 Gorffennaf, bydd y Cynulliad yn trafod sut mae hofrennydd heddlu Dyfed Powys ‘yn darparu cefnogaeth hanfodol i ddiogelwch y cyhoedd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru’. Beth yw Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu? Mae Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu (NPAS) yn darparu cefnogaeth awyr i’r holl heddluoedd ledled Cymru a Lloegr. Fe’i sefydlwyd yn 2012 yn dilyn adolygiad o wasanaethau awyr yr heddlu. O dan NPAS, mae’r cerbyd awyr NPAS agosaf sydd ar gael yn ymateb i geisiadau gan heddluoedd, yn hytrach na bod heddluoedd unigol yn berchen ar eu hofrenyddion eu hunain ac yn eu defnyddio, fel y digwyddodd o dan y system flaenorol. Pan lansiwyd NPAS, disgwyliwyd iddo wneud arbedion sylweddol o ran costau o gymharu â’r system flaenorol. Dywedodd Damian Green AS, y Gweinidog Plismona ar y pryd:
This new police led, government-supported scheme will keep 98 per cent of people in England and Wales 20 minutes or less from police air support and will save up to £15 million a year.
Yn 2011 roedd 30 o hofrenyddion yr heddlu yn gweithredu o 28 o ganolfannau ledled Cymru a Lloegr. Cyflwynodd NPAS model 22 canolfan, gan leihau nifer y cerbydau awyr i 25 a dweud y byddai hyn mewn gwirionedd yn cynyddu argaeledd cerbydau awyr cyffredinol (cynnydd o 8%). Beth mae hofrennydd Dyfed Powys yn ei wneud? Gall yr hofrennydd gyrraedd unrhyw ran o ardal Dyfed Powys o fewn 40 munud a chynorthwyo unedau ar lawr gwlad gyda’r tasgau a ganlyn:
  • Chwilio am bobl sydd ar goll, pobl a ddrwgdybir o gyflawni trosedd, a cherbydau
  • Cludo pobl wedi eu hanafu
  • Cludo timau arbenigol ar draws ardal yr heddlu
  • Casglu cudd-wybodaeth/tystiolaeth gan ddefnyddio ffotograffiaeth o’r awyr a fideo
  • Dilyn cerbydau
  • Gwyliadwriaeth
Mae gwefan Heddlu Dyfed Powys yn nodi y gall yr hofrennydd chwilio un filltir sgwâr o dir mewn deuddeg munud, gan gostio £160 yn unig. Fodd bynnag, byddai’n cymryd 454 awr i swyddogion yr heddlu chwilio’r un ardal, a byddai hyn yn costio dros £4,500. Hefyd:
Gan fod yr heddlu’n gyfrifol am ardal wledig mor eang, a nifer o gymunedau amrywiol, ystyrir yr hofrennydd yn arf hanfodol ar gyfer brwydro yn erbyn trosedd a helpu aelodau’r cymunedau hyn.
Mae fideo ar y wefan yn dangos yr hofrennydd ar waith: https://www.youtube.com/watch?feature=player_embedded&v=CY1uk5H7304 Ym mis Tachwedd 2014, cyhoeddodd Christopher Salmon, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys, ei fod wedi dod i gytundeb gyda NPAS y byddai hofrennydd yn parhau i fod wedi’i leoli ym Mhen-bre. Pam bod canolfan Dyfed Powys yn cau? Ym mis Chwefror 2015 cyhoeddodd NPAS ei fod yn symud i fodel 15 canolfan i wneud arbedion pellach. Ar adeg y cyhoeddiad hwn, roedd 23 o gerbydau awyr yn fflyd NPAS, gan gynnwys 19 o hofrenyddion. Mae dwy o’r canolfannau a fydd yn cau yng Nghymru - Pen-bre (yn cau ar 1 Ionawr 2016) a Rhuddlan (yn cau ar 15 Medi 2015). Bydd hyn yn gadael dwy ganolfan yng Nghymru - Penarlâg a Sain Tathan. Wrth wneud y cyhoeddiad, dywedodd rheolwr NPAS:
NPAS needs to find further substantial financial savings with a target of 14% of revenue cuts over the next three years. This is on top of the 23% savings already made.  […]  There is no easy way of doing this and difficult decisions have to be made. […] This move will help improve the efficiency and effectiveness of the service and mean that every base supports police forces 24 hours a day. It is a move based on an analysis of potential threat, risk and harm to the public we serve.  Part of the move will also see four fixed-wing aircraft form part of the fleet. These will be based out of the East Midlands Airport. Fixed-wing aircraft are cheaper to fly than rotary aircraft [helicopters].
Beth oedd yr ymateb i’r cyhoeddiad? Dywedodd Christopher Salmon, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys, fod y penderfyniad yn ‘siomedig iawn’ ac, er ei fod yn cefnogi amcanion y cynllun, ‘ni ddylai hynny ddigwydd ar draul gwasanaeth mewn ardaloedd gwledig’. Dywedodd hefyd:
... mae’r cynllun hwn yn codi pryder gwirioneddol ynglŷn â pha mor gyflym y gall y Gwasanaeth Heddlu Awyr Cenedlaethol ymateb i alwadau yng nghanolbarth Cymru. Os ddaw i rym fel y cynigiwyd, bydd y Gwasanaeth Heddlu Awyr Cenedlaethol yn torri ei rwymedigaethau o dan y cytundeb rydyn ni ond newydd ei arwyddo.
Mae Winston Roddick, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru, wedi gwneud datganiad ar y bwriad i gau’r ganolfan yn Rhuddlan. Dywedodd ei fod yn pendefynu nad yw’r penderfyniad ‘yn canolbwyntio ddigon ar anghenion gogledd Cymru’, a:
Nid yw’r NPAS wedi cymryd amser i egluro’n iawn berth yw’r rhesymeg y tu ôl i’r model gweithredu newydd ac rwyf felly’n edrych a oes opsiwn i apelio yn erbyn y penderfyniad.
Cafodd cynnig cynnar-yn-y-dydd ynghylch cau canolfan Pen-bre ei gyflwyno yn Nhŷ’r Cyffredin ar 23 Chwefror 2015. Mae’r cynnig yn nodi:
… that the Dyfed Powys Police and Crime Commissioner had a written agreement with the National Police Air Service (NPAS) in November 2014 that the Pembrey base would be retained; expresses concern at the decision by NPAS to close 10 of the current 25 helicopter bases across the UK, including Pembrey; and calls on the Government to intervene to overturn this decision.