Ffordd ymlaen ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr yng Nghymru?

Cyhoeddwyd 06/07/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

06 Gorffennaf 2015 Erthygl gan Nia Seaton, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_3397" align="alignright" width="300"]Tejvan Pettinger – Trwyddedwyd o dan Creative Commons. Tejvan Pettinger – Trwyddedwyd o dan Creative Commons.[/caption] Ar 7 Gorffennaf disgwylir i'r Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd gyhoeddi canlyniadau'r ymgynghoriad diweddar ar Gynigion ar gyfer y Cynllun Taliad Sylfaenol i ffermwyr yng Nghymru. Bu dryswch yng nghynlluniau gwreiddiol Llywodraeth Cymru ar gyfer dylunio Cynllun Taliad Sylfaenol newydd pan gollwyd her gyfreithiol ynghylch tegwch ei chanlyniadau ar gyfer ffermwyr ucheldiroedd ym mis Rhagfyr 2014. Dylai'r cyhoeddiad amlinellu'r dewis a ffefrir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer dyluniad newydd. Gallwch ddarllen mwy am yr her gyfreithiol yn ein blog-bost blaenorol ar y pwnc.  Pa opsiynau newydd a ystyriwyd gan yr ymgynghoriad? Agorodd yr ymgynghoriad ar 31 Mawrth a chaeodd ar 23 Mehefin 2015.  Nododd yr ymgynghoriad saith nod polisi yr oedd Llywodraeth Cymru yn ceisio eu cyflawni drwy ddylunio system newydd, sef:
  • Bodloni gofynion rheoleiddio deddfwriaeth y Polisi Amaethyddol Cyffredin;
  • Talu ffermwyr cyn gynted â phosibl o fewn y ffenestr dalu yn 2015;
  • Symud pob hawliwr at gyfradd dalu gyffredin erbyn 2019;
  • Darparu cymaint o amser â phosibl i ffermwyr addasu i'r system newydd;
  • Lleihau'r aflonyddwch ariannol i'r diwydiant ffermio;
  • Caniatáu i ffermwyr newydd yn y diwydiant ffermio hawlio taliadau; a
  • Chydnabod efallai y bydd angen lefelau gwahanol o daliad ar wahanol fathau o ffermydd.
Cafodd nodau un a dau eu nodi fel y rhai pwysicaf. Oherwydd hyn, rhestrodd yr ymgynghoriad bedwar opsiwn craidd (Opsiynau A-D) a thri opsiwn ychwanegol (Opsiynau E-G). Roedd yr opsiynau ychwanegol yn fesurau ychwanegol a fyddai'n helpu i liniaru rhai o effeithiau negyddol posibl yr opsiynau craidd pan gânt eu cyfuno ag Opsiynau A-D. Roedd yr ymgynghoriad yn ystyried pob cyfuniad posibl ar gyfer yr opsiynau hyn ac yn eu hasesu mewn tabl cymharol yn ôl y saith nod polisi. Ni allai unrhyw un o'r opsiynau ddarparu'n unol â'r saith nod ond amlinellodd Llywodraeth Cymru y tri opsiwn a ffefrir ganddi.  Dywedodd fod y tri opsiwn hyn yn cynnig y rhagolwg mwyaf realistig ar gyfer cyflawni nodau polisi un a dau a chymaint â phosibl o'r saith arall. Ffeithiau a ffigurau am y Polisi Amaethyddol Cyffredin yng Nghymru
  • Bydd Cymru yn derbyn €322 miliwn y flwyddyn mewn cymorth taliad uniongyrchol i ffermwyr erbyn 2019.
  • Mae hyn gyfwerth ag 8.9 y cant o gyfran y DU o'r €25.1 biliwn dros gyfnod 2014-2020.
  • Bydd Cymru yn derbyn €355 miliwn ychwanegol i gefnogi ei chynllun datblygu gwledig ar gyfer 2014-2020.
  • Mae 16,958 o ffermwyr wedi cyflwyno cais i dderbyn taliad uniongyrchol a chymorth arall gan y Polisi Amaethyddol Cyffredin erbyn 9 Mehefin 2015.
  • Amcangyfrifwyd yn flaenorol gan Lywodraeth Cymru fod 80 i 90 y cant o incymau rhai ffermwyr yng Nghymru yn dod o gymorth taliad uniongyrchol o dan y Polisi Amaethyddol Cyffredin.

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru - amrywiol

Pam mae canlyniad yr ymgynghoriad yn bwysig? Ni waeth pa opsiwn a ddewisir, bydd newid i'r system dalu newydd yn golygu newid sylweddol i'r diwydiant ffermio yng Nghymru, gan fod y ffordd y mae'r system cynllun taliad sylfaenol yn gweithio yn penderfynu pa ffermwyr fydd yn cael y cymorth mwyaf. Bydd symud o'r model hanesyddol blaenorol o ddosbarthu taliadau uniongyrchol i opsiwn newydd, ni waeth beth yw'r dyluniad, yn golygu y bydd rhai ffermwyr yn cael llawer yn llai o gymorth na'r oeddent yn arfer ei gael a bydd ffermwyr eraill ar eu hennill. O ystyried lefelau cyfredol y cyfnewidioldeb ym marchnadoedd y byd, mae undebau amaethwyr wedi dadlau nad yw darparu sicrwydd i ffermwyr ynghylch faint o gymorth ariannol y gallant ddisgwyl ei gael dros y saith mlynedd nesaf erioed wedi bod mor bwysig. Mewn ymateb i alwad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i randdeiliaid nodi eu blaenoriaethau allweddol ar gyfer y diwydiant ffermio ar gyfer y 12 mis nesaf, nododd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU) Cymru ac Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) y gwaith o weinyddu'r Polisi Amaethyddol Cyffredin a thaliadau uniongyrchol i ffermwyr fel y flaenoriaeth allweddol. Gallwch ddarllen am eu blaenoriaethau eraill a blaenoriaethau rhanddeiliaid eraill ar wefan y Pwyllgor. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg