Pwyllgor yn galw am gryfhau'r Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru)

Cyhoeddwyd 06/07/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

6 Gorffennaf 2015 Erthygl gan Amy Clifton, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Dyma'r neges o adroddiad Cyfnod 1 (PDF, 1MB) y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar Fil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru). Mae'r Bil yn ceisio gwella ansawdd y gofal a'r cymorth y mae pobl yn eu cael yng Nghymru drwy ddiwygio'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer rheoleiddio ac arolygu gwasanaethau gofal cymdeithasol a'r gweithlu gofal cymdeithasol. [caption id="attachment_3400" align="alignright" width="300"]Llun: Wikimedia Commons. Dan drwydded Creative Commons Llun: Wikimedia Commons. Dan drwydded Creative Commons[/caption] Un o amcanion y Bil yw dysgu gwersi o Operation Jasmine, yr ymchwiliad i gamdriniaeth ac esgeulustod honedig mewn cartrefi gofal yn ne Cymru. Yn ystod craffu Cyfnod 1 clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan aelodau teuluoedd rhai o'r dioddefwyr, sy'n cynrychioli'r grŵp ymgyrchu 'Cyfiawnder i Jasmine'. Mewn llythyr dilynol i'r Pwyllgor, dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y bydd yr adolygiad annibynnol o Operation Jasmine o dan arweiniad Dr Margaret Flynn yn cael ei gyhoeddi yn ystod 'hanner cyntaf mis Gorffennaf'. Mae'r Pwyllgor yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil, ond mae'n credu bod meysydd allweddol lle mae angen ei gryfhau, gan gynnwys cofrestru'r gweithlu, cynnwys y cyhoedd yn y drefn arolygu a rheoleiddio, a goruchwylio swyddogaethau comisiynu.  Mae'r adroddiad yn cynnwys 46 o argymhellion, yn cynnwys y rhai a ganlyn: Ymestyn cofrestru'r gweithlu Daeth y Pwyllgor i'r casgliad y dylai gweithwyr gofal preswyl i oedolion a gweithwyr gofal cartref gael eu cofrestru, oherwydd eu bod yn darparu gofal personol agos i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru. Clywodd y Pwyllgor bryderon gan dystion nad oes dull ar waith i eithrio'r rhai sy'n anaddas i weithio yn y  rolau pwysig hyn a nodwyd bod gweithwyr gofal cartref yn cyflawni eu rolau heb oruchwyliaeth yng nghartrefi pobl. Mae'r Pwyllgor yn cydnabod bod cost yn gysylltiedig ag ymestyn cofrestru, ond mae'n credu wrth asesu a yw'r costau hyn yn cynrychioli gwerth am arian, mae'n rhaid ystyried yr effaith ar ddefnyddwyr gwasanaethau o ran amddiffyn rhag niwed, a hyder y cyhoedd yn y gweithlu.
  • Mae'r Pwyllgor yn argymell bod y Gweinidog yn ymestyn y gofynion ar wyneb y Bil i gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru gynnwys gweithwyr gofal cartref a gweithwyr gofal preswyl i oedolion.
Comisiynu gwasanaethau gofal cymdeithasol Dywedodd llawer o randdeiliaid wrth y Pwyllgor fod comisiynu gwasanaethau gofal cymdeithasol yn effeithiol, gan ganolbwyntio ar ganlyniadau llesiant yn hytrach na chostau, yn hanfodol i wella ansawdd y gwasanaethau y mae unigolion yn eu cael. Roeddent yn teimlo bod safonau comisiynu ar goll o'r Bil fel y'i drafftiwyd, a bod yn rhaid rhoi sylw i hyn i gyflawni nodau'r Bil, sef sicrhau llesiant i ddinasyddion a gwella ansawdd y gofal a'r cymorth yng Nghymru.
  • Cytunodd y Pwyllgor fod angen cryfhau'r Bil i gynnwys safonau comisiynu. Mae'n argymell bod y Bil yn cael ei ddiwygio i roi dyletswydd ar Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) adolygu'r ffordd y mae awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn comisiynu gwasanaethau gofal cymdeithasol yn erbyn canlyniadau ansawdd bywyd.
Dull seiliedig ar hawliau Un thema gref yn y dystiolaeth a gafodd y Pwyllgor oedd yr angen i'r drefn rheoleiddio ac archwilio gael ei hategu gan ddull seiliedig ar hawliau dynol. Cytunodd y Pwyllgor gyda rhanddeiliaid y byddai'r gallu i gynnal hawliau pobl yn cael ei gryfhau drwy osod dyletswydd sylw dyledus ar wyneb y Bil.
  • Mae'r Pwyllgor yn argymell bod y Bil yn cael ei ddiwygio i'w wneud yn ofynnol i bawb sy'n arfer swyddogaethau o dan y Bil roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl, ac Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn.
Arolygwyr lleyg Mynegodd llawer o randdeiliaid siom ynghylch y diffyg cyfeiriad at arolygwyr lleyg yn y Bil. Pwysleisiwyd pwysigrwydd cynnwys llais arolygwyr lleyg sy'n ofalwyr ac yn ddefnyddwyr gwasanaethau yn rhan o dimau gyda gweithwyr proffesiynol sydd ag arbenigedd yn y gwasanaeth perthnasol. Cytunodd y Pwyllgor y gall defnyddio arolygwyr lleyg gyfoethogi'r wybodaeth sydd ar gael am ansawdd bywyd defnyddwyr gwasanaeth a'u profiad o ofal, ac felly dylai fod yn rhan annatod o'r broses arolygu.
  • Mae'r Pwyllgor yn argymell bod y Bil yn cael ei ddiwygio i osod gofyniad ar wyneb y Bil i Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru gynnwys y defnydd o arolygwyr lleyg yn rhan annatod o'i hymagwedd at reoleiddio ac arolygu.
Cydnabod gofalwyr Amlygodd llawer o randdeiliaid bryderon ynghylch diffyg cydnabyddiaeth drwyddi draw yn y Bil o rôl gofalwyr di-dâl, a chytunodd y Pwyllgor fod hwn yn fater y dylid rhoi sylw iddo. Er enghraifft, adroddodd rhanddeiliaid nad oes unrhyw ddarpariaeth i arolygwyr siarad yn breifat gyda theulu neu ofalwyr di-dâl y rheini sy'n cael gofal, ac nad yw'r adrannau ar ymgysylltu â'r cyhoedd yn cyfeirio at ofalwyr.
  • Mae'r Pwyllgor yn argymell bod y Bil yn cael ei ddiwygio i sicrhau bod gofalwyr yn cael eu cydnabod drwyddi draw yn y Bil.
Chwythu'r Chwiban Dywedodd llawer o randdeiliaid wrth y Pwyllgor eu bod am weld darpariaethau chwythu'r chwiban yn cael eu cynnwys yn y Bil yn rhan o newidiadau ehangach i'r ethos a'r diwylliant o fewn y sector gofal cymdeithasol. Clywodd y Pwyllgor fod angen cael diwylliant lle mae pawb yn teimlo y gallant siarad am arfer gwael, a lle mae rheoleiddwyr, darparwyr a chomisiynwyr yn gweithredu ar y pryderon hynny.
  • Mae'r Pwyllgor yn argymell bod y Bil yn cael ei ddiwygio i'w wneud yn ofynnol bod rheoliadau a chanllawiau yn cynnwys gofynion i ddarparwyr gwasanaethau fod â pholisïau a gweithdrefnau chwythu'r chwiban priodol ar waith.
Rheoleiddio gwasanaethau eiriolaeth Mae adroddiad y Pwyllgor yn cydnabod bod achos cryf wedi'i wneud gan randdeiliaid ar gyfer rheoleiddio eiriolaeth, yn enwedig gwasanaethau eiriolaeth i blant. Mae'n datgan bod eiriolwyr yn darparu cefnogaeth hanfodol i ddefnyddwyr gwasanaethau sy'n agored i niwed, y dylent fod yn hyderus bod y cymorth a geir o'r ansawdd cywir. Felly, mae'r Pwyllgor yn credu y dylai rheoleiddio gwasanaethau eiriolaeth gael ei gynnwys ar wyneb y Bil, yn hytrach nac mewn rheoliadau (fel y nodir gan y Gweinidog).
  • Mae'r Pwyllgor yn argymell bod y Bil yn cael ei ddiwygio i gynnwys gofyniad ar wyneb y Bil i wasanaethau eiriolaeth gofrestru gydag AGGCC.
Diffiniad o ofal Mae'r Pwyllgor yn rhannu pryderon rhanddeiliaid bod y diffiniad o ofal yn y Bil yn canolbwyntio gormod ar dasgau, ac nid yw'n rhoi digon o ystyriaeth i anghenion cyfannol unigolion.
  • Felly, mae'n argymell bod y diffiniad o ofal yn adran 3 y Bil yn cael ei ddiwygio i sicrhau ei fod yn ystyried y diffiniad o lesiant yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Bydd dadl Cyfnod 1 a'r pleidleisio ar y Bil yn cael ei gynnal ar 14 Gorffennaf 2015. Bydd y wybodaeth ddiweddaraf am y Bil yn cael ei chyhoeddi ar dudalen we y Bil. Gallwch hefyd ddilyn y Pwyllgor ar Twitter yn@iechydsenedd, neu'r hashnod #RICareBill.