A ddylai enwau ymgeiswyr rhanbarthol gael eu rhestru ar y papur pleidleisio?

Cyhoeddwyd 07/07/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

7 Gorffennaf 2015 Erthygl gan Aled McKenzie, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_3433" align="alignnone" width="293"]This is a picture of a ballot box. Llun: o Wikimedia Commons[/caption]

Y system etholiadol

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnwys 40 o Aelodau Cynulliad etholaethol wedi'u hethol drwy'r system 'y cyntaf i'r felin', ac 20 o Aelodau rhanbarthol. Mae Aelodau rhanbarthol yn cael eu hethol trwy system rhestr plaid gaeëdig wedi'i haddasu. Mae etholiadau i Senedd yr Alban a Senedd yr Undeb Ewropeaidd yn y DU (ac eithrio Gogledd Iwerddon) yn defnyddio system debyg.

Gall plaid wleidyddol enwi hyd at 12 o ymgeiswyr i sefyll ar gyfer pob un o'r pedair sedd sydd ar gael ar bob un o'r pum rhestr ranbarthol. Cyn etholiadau'r Cynulliad yn 2011 cafodd enwau'r ymgeiswyr rhanbarthol eu rhestru ar y papur pleidleisio a ddefnyddir ar gyfer seddi'r rhestr ranbarthol. Ar gyfer etholiad 2011 ni chafodd enwau'r ymgeiswyr eu cynnwys ar y papur pleidleisio, ac o ganlyniad mynegodd sawl plaid eu gwrthwynebiad i'r newid. Cyhoeddodd y Comisiwn Etholiadol Adroddiad ar hyn yn ystod hydref 2014, a oedd yn gwneud argymhellion i Ysgrifennydd Gwladol Cymru (gweler isod). Byddai unrhyw newid yn golygu bod angen diwygio Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007.

O blaid rhestru enwau'r ymgeiswyr

Mae llawer o'r prif bleidiau yng Nghymru am weld hyn yn cael ei newid yn ôl. Mae'r Ceidwadwyr, Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a UKIP i gyd wedi siarad â'r Comisiwn Etholiadol o blaid adfer yr enwau ar y papur. Dywedodd Aelod rhanbarthol Plaid Cymru wrth y Comisiwn Etholiadol: "Rwyf o'r farn y dylai pleidleiswyr wybod dros bwy y maent yn pleidleisio." Mae Aelod rhanbarthol dros y Democratiaid Rhyddfrydol hefyd wedi tynnu sylw'r Comisiwn Etholiadol at y canlynol: "mae'n bosib iawn...i etholwr bleidleisio dros ymgeisydd am resymau heblaw tueddfryd gwleidyddol. Ni ddylai'r broses etholiadol fygu'r posibiliad hwnnw."

Mae'r Ceidwadwyr wedi awgrymu cyfaddawd rhwng nifer yr ymgeiswyr posibl ar y bleidlais a hyd y bleidlais, sef rhestru'r pedwar ymgeisydd cyntaf sy'n sefyll ym mhob rhanbarth yn unig. Dim ond pedwar ymgeisydd y gellir eu hethol i'r Cynulliad o'r rhestr ranbarthol fesul rhanbarth felly gallai hyn ymddangos yn opsiwn teg. Fodd bynnag, o dan Ddeddf Cymru 2014 mae'n bosibl unwaith eto i ymgeiswyr sefyll mewn etholaeth ac ar y rhestr ar yr un pryd, yn yr hyn a elwir yn "ymgeisyddiaeth ddeuol". Dywedodd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wrth y Comisiwn Etholiadol "mae wedi digwydd ym mhob Cynulliad ers 1999 bod aelod rhestr wedi'u hailosod gan aelod ymhellach i lawr y rhestr." Mae'r Arglwydd German, cyn arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi awgrymu mynd gam ymhellach, trwy dorri uchafswm nifer yr ymgeiswyr o 12 i 6 . Byddai hyn yn arbed lle ar y papur pleidleisio. Cynigiwyd hyn gan y Comisiwn Etholiadol yn 2008.

Yn erbyn rhestru enwau'r ymgeiswyr

Yn etholiadau'r Alban nid yw enwau'r ymgeiswyr rhanbarthol erioed wedi cael eu cynnwys ar y bleidlais, yn hytrach mae rhestr o'r holl ymgeiswyr rhanbarthol yn cael ei harddangos ym mhob gorsaf bleidleisio a'i hanfon yn rhan o'r pecyn pleidleisio drwy'r post. Mae'n werth nodi bod mwy o aelodau yn cael eu hethol drwy'r rhestr ranbarthol yn yr Alban, gyda saith yn cael eu hethol ym mhob rhanbarth yn hytrach na phedwar. Rheswm arall a nodwyd dros beidio â rhoi'r enwau ar y papur yw y bydd pobl yn pleidleisio dros blaid yn hytrach nag unrhyw ymgeisydd penodol. Mynegodd grŵp Llafur Cymru yn y Cynulliad Cenedlaethol yr un ddadl â'r Comisiwn Etholiadol. Roeddent yn dadlau "y byddai cynnwys rhestr o enwau ymgeiswyr yn gallu gwneud y gwahaniaeth pwysig rhwng pleidlais dros ymgeisydd unigol ar y papur pleidleisio etholaeth a phleidlais dros blaid ar y papur pleidleisio rhanbarthol yn aneglur."

Nid yw Llafur am fynd yn ôl i sefyllfa lle mae enwau'r ymgeiswyr yn cael eu cynnwys ar y papur ar gyfer y rhestr ranbarthol. Ym marn y Blaid Lafur, roedd yn ddryslyd i rai pleidleiswyr gan fod enghreifftiau niferus o "geisio rhifo ymgeiswyr yn ôl eu dewis" gan fod rhai yn tybio bod system rhestr agored yn cael ei defnyddio yn hytrach na rhestr gaeedig.

Yn 2011 mabwysiadwyd dull tebyg i'r un a ddefnyddir yn yr Alban ar bapurau pleidleisio yng Nghymru, ac eto ni chafodd pob pleidlais bost gopi o'r rhestr o ymgeiswyr rhanbarthol ac ni osododd pob gorsaf bleidleisio gopi mewn lle amlwg. Mae'r Comisiwn Etholiadol yn dweud nad hwn oedd y norm fodd bynnag, a bu'r Comisiwn Etholiadol yn dadlau ei fod ar y cyfan yn llwyddiant.

Argymhellion y Comisiwn Etholiadol

Yn dilyn yr adolygiad ym mis Medi 2014, penderfynodd y Comisiwn Etholiadol argymell i'r Ysgrifennydd Gwladol fod enwau'r ymgeiswyr rhanbarthol yn parhau i beidio ag ymddangos ar y papur pleidleisio ond y dylai rhestr o enwau gael ei harddangos mewn gorsafoedd pleidleisio a chael ei hanfon at bleidleiswyr drwy'r post. Dywedodd gweinyddwr etholiadol wrth y Comisiwn Etholiadol "byddai mynd yn ôl i ddyluniad y papur pleidleisio a ddefnyddiwyd yn etholiadau 2007 eto yn golygu papur pleidleisio mawr, cymhleth a dryslyd i etholwyr". Cytunodd y Comisiwn Etholiadol â'r pryderon hyn, gan ganolbwyntio ar hyd y papur pleidleisio. Roedd yn dadlau y gall hyd y papur pleidleisio fod yn anghyfleus i rai pleidleiswyr oherwydd ei fod yn anhylaw. Gall hefyd arafu'r broses o gyfrif y pleidleisiau. Mae'r Comisiwn Etholiadol am weld y bleidlais yn cael ei newid mewn etholiadau Ewropeaidd am yr un rhesymau.

At hyn, mae'n debygol y bydd etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (PCCs) yn cael eu cynnal ar yr un diwrnod ag etholiadau'r Cynulliad. Byddai hyn yn golygu y byddai gan bob etholwr dair pleidlais wahanol yn defnyddio tair system bleidleisio wahanol (mae etholiadau PCC yn defnyddio pleidlais atodol). Mae'r Comisiwn Etholiadol yn dadlau y bydd hyn yn peri "risgiau" sylweddol ac y byddai angen "gwybodaeth glir wedi'i theilwra" i roi eglurder i bleidleiswyr. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg