Bil yr Amgylchedd: Y trydydd darn yn y jig-so?

Cyhoeddwyd 07/07/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

07 Gorffennaf 2015 Erthygl gan Nia Seaton, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_3424" align="alignright" width="400"]Delwedd o ddarnau pos jig-so ar ffurf marc cwestiwn Horia Varlan – Trwyddedwyd o dan Creative Commons[/caption] Mae Bil yr Amgylchedd y trydydd yn y rhes o ddarnau strategol allweddol o ddeddfwriaeth a gyflwynwyd gan yr Adran Adnoddau Naturiol yn Llywodraeth Cymru. Y cyntaf oedd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a'r ail oedd Deddf Cynllunio (Cymru) 2015. Yn siarad â'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar 24 Mehefin 2015, disgrifiodd Carl Sargeant, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Fil yr Amgylchedd fel y trydydd darn yn jig-so deddfwriaethol ei adran. Yn gronnol o fewn y tri Bil bydd tua 26 o adroddiadau, cynlluniau neu ddatganiadau newydd yn cael eu llunio gan Lywodraeth Cymru a/neu gyrff cyhoeddus gwahanol yng Nghymru dros y deng mlynedd nesaf. Nid yw'r ddeddfwriaeth yn nodi sawl cynllun datblygu strategol y gellid eu cyflwyno o dan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 na faint o ddatganiadau ardal y gallai fod o dan Fil yr Amgylchedd, ac felly gallai'r nifer hwn gynyddu neu ostwng yn dibynnu ar y penderfyniadau hyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi efallai y gall cyrff cyhoeddus lunio un adroddiad i gwmpasu nifer o'r dyletswyddau gwahanol ym Mil yr Amgylchedd, ond ni chaiff hyn ei nodi yn y ddeddfwriaeth eto. O ystyried nifer yr adroddiadau a'r dyletswyddau newydd, mae rhanddeiliaid, fel awdurdodau lleol, wedi bod yn galw am wneud cysylltiadau clir rhwng y tri darn o ddeddfwriaeth. Ceir rhai cyfeiriadau yn y tri Bil, ond mae'r dystiolaeth a gafodd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn awgrymu bod rhanddeiliaid yn ansicr o hyd ynghylch sut y bydd hyn yn gweithio'n ymarferol. Y cysylltiadau sy'n bodoli Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud  yn ofynnol i Gynlluniau Datblygu Lleol ystyried Cynlluniau Llesiant Lleol. O dan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015, rhaid i'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol, unrhyw Gynlluniau Datblygu Strategol a Chynlluniau Datblygu Lleol gael eu darparu'n unol â diffiniad Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 o Ddatblygu Cynaliadwy. Yn ôl Bil yr Amgylchedd, rhaid i gynlluniau llesiant lleol a gyhoeddir o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ystyried unrhyw ddatganiadau ardal a gynhyrchir o dan Fil yr Amgylchedd a byddai unrhyw Baneli Cynllunio Strategol a sefydlir o dan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 yn ddarostyngedig i'r ddyletswydd fioamrywiaeth newydd ym Mil yr Amgylchedd. Beth yw'r cysylltiadau coll? Mae rhanddeiliaid wedi nodi nifer o feysydd lle credant bod cysylltiadau coll neu ddarnau coll o'r jig-so o hyd. Mae eu tystiolaeth i'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn awgrymu y byddent yn hoffi gweld y bylchau hyn yn cael eu llenwi gan Fil yr Amgylchedd. Maent yn cynnwys:
  • Yr angen i gysylltu'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn y Ddeddf Cynllunio â'r Polisi Adnoddau Naturiol Cenedlaethol ym Mil yr Amgylchedd;
  • Yr angen i gysylltu'r Adroddiad ar Gyflwr Adnoddau Naturiol o dan Fil yr Amgylchedd â'r Adroddiad ar Dueddiadau'r Dyfodol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol;
  • Yr angen i gysylltu unrhyw Gynlluniau Datblygu Strategol a Chynlluniau Datblygu Lleol â'r Adroddiad ar Adnoddau Naturiol Cenedlaethol ac unrhyw Ddatganiadau Ardal a gyhoeddir o dan Fil yr Amgylchedd.
Yn ei thystiolaeth i'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd, roedd Cymdeithas Cyfraith Amgylcheddol y DU yn annog y Cynulliad i beidio â cholli'r cyfle a gyflwynir gan Fil yr Amgylchedd i sicrhau naratif cydlynol yn y tri darn o ddeddfwriaeth. Sut y bydd y jig-so terfynol yn edrych? Bydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn parhau i gasglu tystiolaeth hyd at fis Medi 2015 gydag Aelodau'r Cynulliad yn cael cyfleoedd i ddiwygio Bil yr Amgylchedd yn ystod Cyfnod 2 a Chyfnod 3 y broses ddeddfwriaethol. Felly, ni fyddwn yn gwybod sut y bydd y jig-so terfynol yn edrych tan ddechrau'r flwyddyn nesaf. Yn y cyfamser, er mwyn helpu i nodi sut y gallai'r adroddiadau, y cynlluniau a'r datganiadau gwahanol hyn ffitio gyda'i gilydd dros y deng mlynedd nesaf, mae'r Gwasanaeth Ymchwil wedi llunio ffeithlun i roi syniad o'r gofynion adrodd newydd hyn. inffograffeg yn dangos amserlen ddangosol yr Amgylchedd Bil cynlluniau ac adroddiadau View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg