Pwy fydd â hawl i gael gofal a chymorth yng Nghymru?

Cyhoeddwyd 10/07/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

10 Gorffennaf 2015

Erthygl gan Amy Clifton, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bydd Aelodau'r Cynulliad yn trafod ac yn pleidleisio ar gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer y meini prawf cymhwysedd cenedlaethol newydd ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol ddydd Mawrth 14 Mehefin 2015. Cafodd y rheoliadau a'r cod ymarfer newydd eu datblygu yn dilyn pasio Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Cefndir

[caption id="attachment_3442" align="alignright" width="161"]Llun o Flickr gan Alan Cleaver. Dan drwydded Creative Commons Llun o Flickr gan Alan Cleaver. Dan drwydded Creative Commons[/caption]

I lawer o bobl, cymhwysedd yw un o elfennau pwysicaf y ddeddfwriaeth. Bydd y meini prawf yn penderfynu pryd fydd gan unigolyn yr hawl gorfodadwy i gael gofal a chymorth wedi'u darparu neu eu trefnu gan yr awdurdod lleol drwy gynllun gofal a chymorth. Mewn geiriau eraill, dyma'r prawf a ddefnyddir gan awdurdodau lleol i benderfynu a oes dyletswydd gyfreithiol arnynt i ddiwallu anghenion gofal a chymorth unigolyn ai peidio.

Dywedodd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad yn ei adroddiad Cyfnod 1 ar Ddeddf 2014 bod cymhwysedd yn ganolog i lwyddiant y Bil , gan nodi awydd i graffu ar y rheoliadau cymhwysedd a'r cod ymarfer ar ôl iddynt gael eu datblygu.

Ym mis Tachwedd 2014, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar y rheoliadau a'r cod ymarfer drafft, a ddaeth i ben ym mis Chwefror 2015. Ar 8 Mai 2015 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ail ddrafft y rheoliadau (PDF, 102KB), a chod ymarfer (PDF, 707KB) i Aelodau graffu arnynt am gyfnod o 60 diwrnod o dan y weithdrefn uwchgadarnhaol (y lefel uchaf posibl o graffu).

Casglodd y Pwyllgor dystiolaeth ysgrifenedig a llafar gan amrywiaeth o randdeiliaid. Mynegwyd pryderon sylweddol ynghylch nifer o faterion, ac fe ysgrifennodd y Pwyllgor at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (PDF, 331KB), gan argymell newidiadau i'r cod ymarfer sy'n ymwneud â chymhwysedd (Rhan 4 o'r Ddeddf).

Beth yw'r cynigion?

Yr egwyddor yw y bydd asesiad yn edrych ar amgylchiadau'r unigolyn, ac yn barnu a yw anghenion yr unigolyn a'u deilliannau lles 'yn gallu, a dim ond yn gallu' cael eu bodloni drwy gynllun gofal a chymorth a ddarperir neu a drefnir gan yr awdurdod lleol. Felly, os bydd yr asesiad yn penderfynu y gallai anghenion a deilliannau lles yr unigolyn gael eu bodloni gan y person eu hunain, eu teulu neu eu gofalwr, neu unrhyw un arall; gan wasanaethau sydd ar gael yn eu cymuned, neu drwy unrhyw ddull arall, yna ni fyddent yn gymwys i dderbyn gofal a chefnogaeth statudol bersonol.

Mae sefydliadau sy'n cynrychioli defnyddwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol wedi mynegi pryderon am y cynigion ac wedi amlygu'r risg y gallai'r prawf 'yn gallu, a dim ond yn gallu' rwystro mynediad at wasanaethau.

Adnoddau cymunedol

Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan bwriad y bydd y dull newydd o bennu cymhwysedd yn lleihau nifer y bobl sydd angen gwasanaethau gofal a chymorth ffurfiol (a chynllun gofal a chymorth), am y bydd mwy o bobl yn cael eu cyfeirio at wasanaethau ataliol yn y gymuned.

Cododd rhanddeiliaid bryderon gyda'r Pwyllgor am y bwriad hwn, a chwestiynu digonolrwydd ac argaeledd gwasanaethau cymunedol o'r fath (yn enwedig mewn cyfnod o gyni) i ddiwallu anghenion gofal a chymorth personol unigolion. Dywedodd Cynghrair Cynhalwyr Cymru wrth y Pwyllgor mai dim ond dyletswydd gyffredinol sydd ar awdurdodau lleol i gynllunio a darparu gwasanaethau ataliol yn y gymuned, tra bo'r rheoliadau hyn yn ymdrin â phenderfyniadau sy'n ymwneud â hawliau cyfreithiol unigol. Mae'n credu bod posibilrwydd ar gyfer anghydfodau sylweddol, lle gall awdurdodau lleol ystyried bod gwasanaeth neu weithgarwch cymunedol penodol yn ddigonol i ddiwallu anghenion person (ac felly, eu bod yn 'anghymwys'), ond bod y person hwnnw yn anghytuno.

Y prawf 'yn gallu, a dim ond yn gallu'

Amlygodd rhanddeiliaid y risg y gallai'r prawf 'yn gallu, a dim ond yn gallu' arwain at oedi yng ngallu unigolyn i gael mynediad at y gofal a'r cymorth sydd eu hangen arnynt, a phenderfyniadau'n cael eu gwneud nad ydynt er lles gorau'r unigolyn.

Nododd rhanddeiliaid, gan gynnwys Cynghrair Cymru ar gyfer Cymorth a Gyfarwyddir gan Ddinasyddion, eu bod yn pryderu y gallai rhai awdurdodau lleol ddehongli'r prawf 'yn gallu, a dim ond yn gallu' i olygu y byddai disgwyl i bobl sy'n cysylltu â hwy am gymorth 'brofi' eu bod wedi gwneud pob ymdrech i oresgyn y rhwystrau sy'n eu hwynebu, o ran sicrhau eu canlyniadau llesiant o fewn y teulu neu gydag adnoddau cymunedol, cyn gwrando arnynt. Dywedodd sawl sefydliad, pe bai'n ofynnol i unigolion ddangos eu bod wedi trio pob opsiwn posibl ar gyfer cymorth cyn eu bod yn gymwys ar gyfer gwasanaethau statudol, y byddai hyn yn creu oedi diangen a niweidiol i unigolion, ac o bosibl yn achosi dirywiad yn eu hiechyd a'u lles. Dywedodd y Gymdeithas Clefyd Niwronau Motor y gallai'r prawf greu: 'serious risk that people with a rapidly progressive condition could face unnecessary delays in accessing services’.

Cytunodd y Pwyllgor â barn rhanddeiliaid na ddylai unigolion brofi oedi wrth gael mynediad at wasanaethau na theimlo o dan bwysau diangen i ddangos nad ydynt yn gallu bodloni eu deilliannau lles eu hunain heb y gofal a'r gefnogaeth a drefnir gan yr awdurdod lleol. Mae'r Pwyllgor yn credu'n gryf y dylai'r cod ymarfer nodi'n glir bod y cyfrifoldeb am ddangos y gall anghenion unigolyn a'u deilliannau lles gael eu diwallu drwy wasanaethau cymunedol yn cael ei roi ar yr awdurdod lleol yn hytrach nag ar yr unigolyn. Mae'n argymell y dylid diwygio'r cod ymarfer i adlewyrchu hyn, er mwyn egluro'n glir beth yw cyfrifoldebau awdurdodau lleol.

Effaith ar ofalwyr di-dâl

Cododd rhanddeiliaid gan gynnwys Age Cymru a Chynghrair Cynhalwyr Cymru bryderon y gallai'r fframwaith newydd yn hawdd arwain at alw ychwanegol a disgwyliadau yn cael eu rhoi ar ofalwyr di-dâl i gwrdd ag anghenion gofal a chymorth eu hanwyliaid gan ymgymryd â mwy o dasgau gofal eu hunain.

Dywedodd y Pwyllgor wrth y Gweinidog y byddai'n bryderus iawn os byddai'r rheoliadau newydd yn arwain at fwy o bwysau ar ofalwyr di-dâl i fodloni anghenion gofal eu teulu a ffrindiau, yn lle bod yr awdurdod lleol yn darparu gofal. Mae'n argymell diwygio'r cod ymarfer er mwyn:

  • ei gwneud yn glir na ddylid gorddibynnu ar drefniadau gofal gwirfoddol; a
  • chynnwys gofyniad ynghylch parodrwydd a gallu'r gofalwr i ddarparu gofal, ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, a bod hynny'n cael ei gofnodi fel rhan o'r broses meini prawf cymhwysedd.

Adolygu penderfyniadau cymhwysedd

Yn wahanol i Ddeddf Gofal Lloegr, nid yw Deddf 2014 Cymru yn cynnwys proses apelio i unigolion herio penderfyniadau awdurdodau lleol ar gymhwysedd. Dywedodd rhanddeiliaid wrth y Pwyllgor nad yw'n glir pa atebolrwydd, os oes yna o gwbl, sydd gan berson os ydynt yn anghytuno â phenderfyniad yr awdurdod lleol.

Mae'r Pwyllgor yn credu'n gryf y dylai defnyddwyr gwasanaeth deimlo'n hyderus yn eu gallu i unioni camweddau os ydynt o'r farn nad yw, neu na fydd, yr ateb a ddarparwyd gan yr awdurdod lleol yn diwallu eu hanghenion a'u deilliannau lles. Mae hefyd yn credu, wrth holi am ailasesiad, na ddylai defnyddwyr gwasanaeth orfod dangos bod eu hamgylchiadau wedi newid yn sylweddol. Mae eisiau i'r cod ymarfer amlinellu dull rhagnodedig sy'n galluogi unigolyn i herio penderfyniadau ar gymhwysedd mewn modd ffurfiol.

Cytunodd y Pwyllgor hefyd gyda rhanddeiliaid y dylai cael mynediad at eiriolaeth annibynnol fod ar gael fel mater o drefn i bawb sydd ei angen, ac felly mae'n argymell bod y darpariaethau eiriolaeth yn y cod ymarfer yn cael eu cryfhau.

A fydd y system newydd yn darparu'r lefel gywir o fynediad at ofal a chymorth i'r rhai hynny sydd ei angen? Dyma sy'n rhaid i Aelodau'r Cynulliad benderfynu wrth bleidleisio ar 14 Mehefin.

 View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg