Bil Rheoli a Chasglu Trethi (Cymru)

Cyhoeddwyd 13/07/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

13 Gorffennaf 2015 Erthygl gan Richard Bettley, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_3450" align="alignnone" width="682"]Llun o arian Llun: Flikr gan National Assembly for Wales. Dan drwydded Creative Commons[/caption] Cyflwyniad Cafodd Bil Rheoli a Chasglu Trethi (Cymru) (PDF, 383.74KB) i osod gerbron y Cynulliad ar 13 Gorffennaf, 2015. Y Bil hwn yw'r cyntaf mewn cyfres o dri bil disgwyliedig yn ymwneud â datganoli'r pwerau'n ymwneud â threthi yn Neddf Cymru 2014.  Bydd y Bil hwn yn cael ei ddilyn gan ddeddfwriaeth ar gyfer trethi penodol yn y Cynulliad nesaf a fydd yn sefydlu'r ddwy dreth Gymreig newydd - Treth Trafodiadau Tir a Threth Gwarediadau Tirlenwi.  Disgwylir i'r trethi ddod i rym o 1 Ebrill 2018 ymlaen. Crynodeb o'r Bil Amcanion Polisi'r Bil Mae'r Memorandwm Esboniadol (PDF, 1,19MB) sy'n cyd-fynd â'r Bil yn nodi'r amcanion polisi canlynol ar gyfer y ddeddfwriaeth:
  • Darparu fframwaith llywodraethu clir a chryf yng Nghymru a fydd yn cefnogi casglu a rheoli trethi datganoledig Cymru mewn modd effeithiol ac effeithlon.
  • Sefydlu corff corfforaethol (Awdurdod Cyllid Cymru - ACC) a fydd yn gyfrifol am gasglu a rheoli trethi datganoledig yng Nghymru.
  • Rhoi pwerau a dyletswyddau priodol i ACC (a threthdalwyr ac eraill) mewn perthynas â chyflwyno ffurflenni treth a chynnal ymholiadau ac asesiadau.
  • Ymchwiliad sifil a phwerau gorfodi
  • Dyletswyddau ar drethdalwyr i dalu cosbau a llog
  • Hawliau i drethdalwyr ofyn am adolygiadau mewnol o benderfyniadau penodol ACC neu i apelio drwy dribiwnlysoedd
  • Pwerau gorfodi troseddol
  • Er bod y Bil yn cynnwys ystod o bwerau gorfodi, yn seiliedig ar dystiolaeth gyfredol ni ddisgwylir y bydd angen i'r rhain gael eu defnyddio'n aml. Yn bwysicach, mae gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi yr un pwerau gorfodi yng Nghymru eisoes, ac mae'r Bil yn ceisio sicrhau cysondeb ar gyfer ACC.
Cyd-destun y Bil Datganoli pwerau'n ymwneud â threthi Er y bydd Deddf Cymru hefyd yn datganoli elfen o dreth incwm i Gymru, yn amodol ar refferendwm, bydd Llywodraeth y DU yn parhau i fod yn gyfrifol am y system dreth incwm ehangach a bydd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn casglu'r elfen Gymreig ddatganoledig o dreth incwm yng Nghymru.  Mae Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) felly ond yn ymwneud â chasglu a rheoli y ddwy dreth sydd wedi'u datganoli'n llawn, sef Treth Dir y Dreth Stamp (bydd y dreth a fydd yn disodli hon yng Nghymru yn cael ei galw'n Dreth Trafodiadau Tir) a'r Dreth Tirlenwi. Efallai y bydd y Bil hefyd yn berthnasol i unrhyw drethi Cymreig newydd sy'n cael eu creu yn y dyfodol, ond mae Papur Gorchymyn Bil Cymru yn nodi y byddai angen i'r Senedd gytuno i'r trethi hyn.  Cyhoeddodd Sefydliad Bevan ym mis Mehefin 2015 y byddai'n dechrau prosiect naw mis i ystyried pa drethi newydd posibl y gellid eu cyflwyno yng Nghymru. Ar sail data Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, mae swyddogaeth Trysorlys Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif (PDF, 295.0KB) bod Treth Dir y Dreth Stamp wedi codi rhwng £100 miliwn a £236 miliwn y flwyddyn yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'r Dreth Tirlenwi wedi bod yn fwy sefydlog ar £50 miliwn y flwyddyn yng Nghymru. Mae hyn yn tuag 1-2% o grant bloc Llywodraeth Cymru, sy'n gyfanswm o £15 biliwn, a bydd y grant bloc yn cael ei leihau i adlewyrchu maint y refeniw a gynhyrchir gan y trethi datganoledig.  Felly, nid prif bwrpas datganoli elfen o drethiant i Gymru yw codi incwm ychwanegol, ond yn hytrach gwella atebolrwydd drwy gysylltu elfen dybiannol o wariant cyhoeddus a refeniw treth. Ymgynghoriadau a phenderfyniadau Llywodraeth Cymru I gyd-fynd â'r Papur Gwyn a gyhoeddwyd ym mis Medi 2014: Casglu a rheoli trethi datganoledig yng Nghymru, lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2014.  Caiff yr ymatebion i'r ymgynghoriad eu crynhoi yn y Memorandwm Esboniadol ac ar wefan Llywodraeth Cymru.  Roedd cefnogaeth gyffredinol i:
  • sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) a fyddai'n gweithredu'n annibynnol ar Weinidogion Cymru;
  • cyflwyno Siarter i Drethdalwyr;
  • y set graidd arfaethedig o ddyletswyddau'r ACC;
  • y rhwymedigaethau arfaethedig ar drethdalwyr;
  • cytundeb cyffredinol y byddai angen i bwerau tebyg i'r rhai sydd ar gael i awdurdod treth y DU fod ar gael i ACC.
Lansiwyd dau ymgynghoriad ar y Dreth Trafodiadau Tir a'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi, a daeth y ddau i ben ym mis Mai 2015, ond nid oes unrhyw ymatebion wedi'u rhyddhau eto.  Er bod yr ymgynghoriadau hyn yn ymchwilio i amrywiol bolisïau amgen nid ydynt yn cynnwys manylion cynigion na chostau. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg