Pris cynnyrch amaethyddol Cymru yn parhau i ostwng

Cyhoeddwyd 14/07/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

14 Gorffennaf 2015 Erthygl gan Katy Orford, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cendelaethol Cymru [caption id="attachment_3470" align="alignnone" width="640"]Llun du a gwyn o famog ac ŵyn Llun I Flickr gan philhearing: Dan drwydded Creative Commons.[/caption]   Mae prisiau a delir i ffermwyr Cymru am laeth a chig coch yn parhau i ostwng. Mae amrywiaeth o ffactorau wedi cyfrannu at storm berffaith sydd wedi arwain at brisiau llaeth wrth giât y fferm yn y DU yn sefyll ar 24.06 ceiniog y litr (ppl) (Mai 2015), y pris isaf ers mis Mai 2012. Pris y farchnad cyfartalog wythnosol ym Mhrydain Fawr am gig oen ar hyn o bryd yw 157.56 c/kg, sy'n cymharu â 199.21 c/kg yn yr un wythnos y llynedd (gostyngiad o 20%). Ddydd Mercher 15 Gorffennaf, bydd y Cynulliad yn trafod y materion sy'n wynebu'r sectorau llaeth a chig coch yng Nghymru. Y diwydiant llaeth Mae'r post hwn yn dilyn sawl post blaenorol ar anwadalrwydd y diwydiant llaeth a chynllun gweithredu arfaethedig Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector llaeth. Dros y pythefnos diwethaf, mae'r diwydiant llaeth wedi wynebu heriau pellach gyda First Milk ac Arla Foods yn cyhoeddi toriadau yn eu prisiau litr safonol a delir i ffermwyr. O 1 Gorffennaf 2015, mae First Milk wedi lleihau pris litr safonol gan 1 geiniog y litr. Mae Arla wedi cyhoeddi y bydd yn lleihau taliadau ar gyfer llaeth gan 1 geiniog y litr o 1 Awst 2015. Mae NFU Cymru wedi dweud y bydd y mwyafrif o ffermwyr llaeth Cymru, o ganlyniad, yn cael prisiau llaeth is na chostau cynhyrchu. Mae'r gostyngiad hwn mewn prisiau a delir gan broseswyr llaeth yn digwydd ar adeg pan mae llai o alw yn fyd-eang. Mae Rwsia yn bwriadu ymestyn gwaharddiad (a gyflwynwyd fis Awst diwethaf) ar fewnforion bwyd Ewropeaidd, gan gynnwys llaeth a chynnyrch llaeth, am flwyddyn arall. Rwsia oedd yn cyfrif am bron i chwarter allforion bwyd-amaeth yr UE yn 2013. Yn gyffredinol, mae allforion bwyd-amaeth yr UE wedi gostwng gan 40% rhwng mis Awst 2014, a mis Ebrill 2015. Mae'r galw am laeth powdr gan brynwyr mawr fel Tsieina hefyd wedi gostwng. Mae'r gostyngiad hwn yn y galw yn cyd-daro â diwedd cwotâu cynhyrchu llaeth yn yr UE ym mis Mawrth eleni, ar ôl dros 30 mlynedd o'u gweithredu. Nod y Comisiwn wrth ddod â chwotâu i ben yw rhoi hwb i allforion o Ewrop, ond mae ofnau y caiff hyn niwed anghymesur ar gynhyrchwyr sy'n agored i niwed, fel y rhai mewn ardaloedd anghysbell. Ymyrraeth Aelodau o Senedd Ewrop Mae Aelodau o Senedd Ewrop wedi galw ar y Comisiwn Ewropeaidd i ystyried gweithredu drwy nifer o ymyriadau, gan gynnwys codi'r pris ymyrraeth i gefnogi ffermwyr yn ystod yr argyfwng. Ymunodd grŵp lobïo ffermio yr UE, sef Copa-Cogeca, â galwad yr Aelodau o Senedd Ewrop, gan ddweud fod angen rhwydi diogelwch mwy realistig i roi gwaelod effeithiol i'r farchnad. Cafodd apêl yr Aelodau o Senedd Ewrop i godi pris ymyrraeth ei gwrthod gan Phil Hogan, Comisiynydd Ffermio'r UE, gan ddweud bod y dulliau cymorth presennol yn ddigonol. Dywedodd hefyd y byddai costau ymyrryd yn rhoi'r neges anghywir mewn ymgais i symud tuag at bolisi o lywio gan y farchnad. Dadl Hogan, yn hytrach, oedd y dylid rhoi blaenoriaeth i chwilio am ragor o gyfleoedd yn y farchnad dramor, gwella contractau ar gyfer ffermwyr ac, yn y tymor byr, cynorthwyo ffermydd a gaiff eu taro fwyaf gan waharddiad Rwsia ar fewnforio bwyd. Y diwydiant cig coch Pris cig oen Cymru ar hyn o bryd yw 157.56 c/kg, o'i gymharu â 199.21 c/kg yn yr un wythnos y llynedd. Mae cryfder sterling ac argyfwng Ardal yr Ewro wedi cael effaith negyddol ar farchnadoedd allforio'r DU. Mae NFU Cymru wedi codi'r cwestiwn ynghylch pwy sy'n elwa o gig oen. Mae'r English Agriculture and Horticulture Development Board (AHDB) yn dangos nad yw prisiau i ddefnyddwyr wedi gostwng gymaint â chyfran y ffermwr. Rhwng gwanwyn 2014 a 2015, mae rhan y ffermwyr o bris manwerthu cig oen wedi gostwng o tua 60% i 50%. Dywedodd Lyndon Edwards, aelod o Fwrdd Da Byw NFU Cymru:
Mae angen pris cynaliadwy ar ffermwyr am eu cynnyrch, sy'n eu hannog i fuddsoddi mewn cynhyrchu yn y dyfodol, mae'n rhaid i bawb trwy gydol y gadwyn gyflenwi elwa fel y gall y defnyddiwr barhau i fwynhau a blasu ccig oe Cymreig PGI mewn blynyddoedd i ddod.
Cyfartaledd Pris y Farchnad Wythnosol yn PF-terfynol Ffynhonnell: Hybu Cig Cymru Ardoll cig coch Cafwyd galwadau i gryfhau cadwyni cyflenwi domestig yng Nghymru drwy ddiwygio'r ardoll cig coch. Mae hwn yn ardoll a delir gan gynhyrchwyr a lladdwyr / allforwyr ar yr holl wartheg, defaid a moch a gigyddir ym Mhrydain Fawr i'r byrddau ardoll cig coch i dalu am hyrwyddo a marchnata cig coch. Cesglir yr a ardoll yng Nghymru gan Hybu Cig Cymru (HCC). Os caiff da byw Cymru ei anfon i'w lladd yn Lloegr, cesglir yr ardoll yn Lloegr a'i hanfon i AHDB Lloegr, yn hytrach na HCC. Mae rhai cynhyrchwyr a byrddau ardollau wedi datgan bod hyn yn annheg gan fod yr ardollau a delir gan gynhyrchwyr Cymru yn cael eu defnyddio i ariannu'r gwaith o hyrwyddo cig coch o Loegr, ac i'r gwrthwyneb. O ganlyniad, mae byrddau ardollau Cymru, Lloegr a'r Alban wedi ffurfio Fforwm Diwydiant Cig Coch i drafod y materion a gwneud awgrymiadau ar gyfer newidiadau i'r broses. Er mwyn hyrwyddo cynnyrch o Gymru ymhellach, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru'r Cynllun Gweithredu Bwyd a Diod y llynedd.   I gael rhagor o wybodaeth am y diwydiant cynhyrchu bwyd yng Nghymru, gweler cyhoeddiadau eraill y Gwasanaeth Ymchwil: Nodyn Ymchwil: Y Gadwyn Cyflenwi Bwyd (PDF, 274KB) Nodyn Ymchwil: Y Sector Llaeth (PDF, 566KB) Nodyn Ymchwil: Prisiau Cig Eidion o Gymru (PDF, 432KB)   View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg