Y Gyllideb - yr hyn y mae’n ei olygu ar gyfer lles yng Nghymru

Cyhoeddwyd 20/07/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

20 Gorffennaf 2015 Erthygl gan Hannah Johnson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Ar 8 Gorffennaf, cyhoeddodd y Canghellor gyfres o ddiwygiadau newydd i’r system les, fel rhan o ymdrechion Llywodraeth y DU i leihau’r bil lles gan £12 biliwn arall erbyn 2020. Ochr yn ochr â chyflwyno Cyflog Byw Cenedlaethol, bydd toriadau i fudd-dal tai ar gyfer pobl ifanc, gostyngiad yn y cap ar fudd-daliadau, a thoriadau i Lwfans Cyflogaeth a Chymorth a chredydau treth. 6736158045_6eb22f6d83_z Gan fod Cymru yn fwy dibynnol ar les, a chanddi gyfradd uwch o dlodi o’i chymharu â gwledydd eraill y DU, bydd effaith y newidiadau hyn yn uchel ar agenda wleidyddol y Cynulliad. Fodd bynnag, mae’r toriad unigol mwyaf i wariant lles yn mynd i ddod o ymestyn y rhewi o ran budd-daliadau oedran gweithio, credydau treth a’r lwfans tai lleol tan 2020. Mae’r Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn amcangyfrif y bydd yn effeithio ar 13 miliwn o deuluoedd yn y DU, a fydd yn colli cyfartaledd o £260 y flwyddyn o ganlyniad i’r mesur unigol hwn. Mae crynodeb o’r prif newidiadau a dadansoddiad o’u heffaith ar Gymru isod. Mae’n werth nodi y bydd y rhan fwyaf o’r mesurau hyn yn effeithio ar hawlwyr newydd yn unig:
  • Bydd hawl awtomatig i fudd-dal tai ar gyfer pobl rhwng 18 a 21 mlwydd oed yn cael ei dorri o fis Ebrill 2017. Mae Llywodraeth Cymru yn honni y gallai’r newid hwn effeithio ar 1,200 o hawlwyr yng Nghymru (heb yr eithriadau), gyda cholled gyfartalog fesul hawliwr o tua £90 yr wythnos, gan arbed tua £6 miliwn y flwyddyn. Mae tua 55 y cant o’r hawlwyr yr effeithir arnynt yn y sector rhentu cymdeithasol yng Nghymru.
  • Bydd y cap ar fudd-daliadau yn cael ei leihau o £26,000 i £20,000 yng Nghymru, y mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif y bydd yn effeithio ar 5,000 o gartrefi yng Nghymru. Fodd bynnag, dyfynnodd y BBC Cartrefi Cymunedol Cymru gan ddweud ei fod yn amcangyfrif y bydd yn effeithio ar 7,000 o gartrefi;
  • Mae’r cyfraddau ar gyfer y Grŵp Gweithgareddau Cysylltiedig â Gwaith (y Grŵp) o fewn Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (LCC) yn cael eu halinio â’r Lwfans Ceisio Gwaith (LCG), a fydd yn golygu toriad o £29.05 yr wythnos.
Yn ôl ystadegau’r Adran Gwaith a Phensiynau, ym mis Tachwedd 2014 roedd 36,530 o bobl yn y Grŵp yn LCC yng Nghymru, sy’n cynrychioli tua chwarter o’r holl hawlwyr.
  • Bydd credydau treth plant wedi’u cyfyngu i ddau o blant o fis Ebrill 2017 ar gyfer unrhyw hawlwyr newydd a hawlwyr presennol sy’n cael mwy o blant ar ôl 2017. Mae Cartrefi Cymunedol Cymru yn amcangyfrif bod gan 51,000 deuluoedd sy’n gweithio yng Nghymru eisoes ddau o blant a byddant felly yn teimlo effaith y newid os ydynt yn cael rhagor o blant [ffynhonnell].
Mae newidiadau eraill yn cynnwys:
  • Gostyngiad o ran faint y gall teuluoedd ennill cyn i gredydau treth/credyd cynhwysol (CC) ddechrau cael ei dynnu’n ôl:
    • Bydd credydau treth yn dechrau cael eu tynnu’n ôl unwaith y bydd enillion y teulu yn uwch na £3,850 yn hytrach na £6,420;
    • Bydd Credyd Cynhwysol hefyd yn cael ei dynnu’n ôl yn llawer cynharach (ar unwaith i gartrefi lle nad oes pobl anabl ac nad oes ganddynt blant);
  • Bydd modd ôl-ddyddio Budd-dal Tai am uchafswm o 4 wythnos yn unig;
  • Bydd hawl premiwm teulu i fudd-dal tai yn cael ei dynnu ar gyfer hawliadau a wneir ar ôl mis Ebrill 2016;
  • Bydd y cymorth ar gyfer llog ar forgeisi yn newid o fudd-dal i fenthyciad.
Mae Sefydliad Bevan hefyd wedi cyhoeddi blog-bost ar y Cyflog Byw Cenedlaethol newydd.