Lansio Papur Gwyrdd ar Fynediad i Gefn Gwlad yng Nghymru

Cyhoeddwyd 28/07/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

28 Gorffennaf 2015 Erthygl gan Katy Orford, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_3566" align="alignnone" width="640"]Arwydd llwybr cyhoeddus. Llun o Flickr gan Alexander Forst-Rakoczy. Dan drwydded Creative Commons.[/caption]   Ymrwymodd Llywodraeth Cymru i wella mynediad i dir a dŵr, gwella hawliau tramwy i feicwyr a cherddwyr a chreu Llwybr Arfordir Cymru yn ei Rhaglen Lywodraethu ar gyfer 2011-16. Mae’ r ddeddfwriaeth sy’ n ymwneud â mynediad i gefn gwlad yn gymhleth, a chaiff ei rhannu ar draws llawer o wahanol Ddeddfau gan gynnwys, ymhlith eraill, Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000,  Deddf y Môr a Mynediad i’ r Arfordir 2009,  Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, Deddf Priffyrdd 1980, Deddf Cefn Gwlad 1968,  Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949 a Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013. Mae nifer o randdeiliaid, gan gynnwys grwpiau defnyddwyr, tirfeddianwyr ac awdurdodau lleol yn galw am newid, gan ddweud nad yw’ r ddeddfwriaeth bresennol yn hwyluso gweithgareddau hamdden awyr agored yn effeithiol. Ym mis Gorffennaf 2013, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adolygiad o’ r ddeddfwriaeth a’ r canllawiau sy’ n ymwneud â mynediad a hamdden awyr agored. Gwahoddwyd grwpiau â diddordeb i roi eu barn ar faterion sy’ n cynnwys hawliau tramwy a mynediad i ddŵr. Yn dilyn yr adolygiad daeth Llywodraeth Cymru i’ r casgliad canlynol:
  • Ynglŷn â thir, mae angen gwella ein rhwydwaith hawliau tramwy a gwneud y fframwaith deddfwriaethol cysylltiedig ar fynediad yn fwy effeithiol;
  • Ynglŷn â dŵr, mae angen gweld cynnydd yn nifer y cytundebau mynediad gwirfoddol sy’ n darparu ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau hamdden.
  • Ymrwymodd Llywodraeth Cymru, felly, i gyhoeddi Papur Gwyrdd ar wella mynediad cyhoeddus i dir a cheisio hwyluso mynediad gwirfoddol i ddŵr yn well. Cafodd y Papur Gwyrdd y bu disgwyl mawr amdano ar Wella’ r cyfleoedd i gael mynediad i’ r awyr agored ar gyfer gweithgareddau hamdden cyfrifol ei gyhoeddi yn gynharach y mis hwn. Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg rhwng 10 Gorffennaf 2015 a 2 Hydref 2015. Barn Llywodraeth Cymru yw y dylai’ r amcan cyffredinol fod fel a ganlyn:
creu fframwaith sy’ n caniatáu defnydd synhwyrol a chyfrifol o dir a dŵr ar gyfer gweithgareddau hamdden difodur. Dylai hefyd gynnwys dulliau diogelu addas at y diben ar gyfer rheoli tir, gweithgareddau eraill a bywyd gwyllt. Mae’ r cynigion allweddol yn y Papur Gwyrdd yn cynnwys:
  1. Diwygio gweithdrefnau a dileu cyfyngiadau
  2. Mae hyn yn cynnwys cynigion i symleiddio a chysoni deddfwriaeth bresennol gyda’ r nod penodol o gael gwared â gweithdrefnau costus fel: cofnodi hawliau tramwy cyhoeddus; cynnal a chadw llwybrau, a chreu, dargyfeirio a diddymu llwybrau. Mae’ r cynigion yn cynnwys dileu rhai o’ r cyfyngiadau ar yr ystod o weithgareddau y gellir eu cynnal ar hawliau tramwy ac ar dir mynediad.
  3. Dull newydd a mwy caniataol i fynediad
  4. Mae cynigion wedi’ u cynnwys yn y Papur Gwyrdd i ymestyn y diffiniad o dir mynediad i gynnwys ardaloedd eraill fel coetir, llynnoedd a chlogwyni arfordirol, gan symud tuag at fodel mwy caniataol.
  5. Gwell mynediad i ddŵr
  6. Mae cynigion wedi’ u cynnwys i wella cyfleoedd o ran mynediad cyfrifol ar gyfer hamdden i ddyfroedd mewndirol, yr arfordir a’ r amgylchedd morol. Mae mynediad i ddŵr mewndirol wedi bod yn fater dadleuol ac mae’ r cynigion yn anelu at leihau tensiynau rhwng gweithgareddau sy’ n gwrthdaro.