Sylwadau o adroddiad Flynn ar esgeuluso pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal yn ne Cymru

Cyhoeddwyd 28/07/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

28 Gorffennaf 2015 Erthygl gan Amy Clifton, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Flynn 2Ddydd Mawrth 14 Gorffennaf 2015, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yr adolygiad annibynnol a gomisiynodd i’r honiadau o pwysoesgeuluso pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal a archwiliwyd fel rhan o Ymgyrch Jasmine, sef adroddiad Margaret Flynn, Chwilio am atebolrwydd. Fel y nododd Aelodau’r Cynulliad yn y Cyfarfod Llawn, mae’r adroddiad yn destun gofid. Mae’n cynnwys disgrifiadau manwl gan berthnasau o’r modd roedd eu hanwyliaid wedi dioddef, a thystiolaeth ffotograffig o friwiau pwyso. Mae Flynn yn nodi bod profiadau rhai pobl hŷn yn erchyll ac, o ystyried y modd y cafodd eu hanwyliaid eu hesgeuluso, mae eu perthnasau a’u ffrindiau’n gofyn y cwestiwn gofidus, ‘Oni chawsant eu cyfrif yn fodau dynol hyd yn oed?’ ‘When she was at the Home she was sedated all day and every day. It was explained that since there were not enough staff it made handling and managing her easier. We didn’t want this. It appeared that they were treating her as though she was without significance, without a history…’ ‘In hospital a nurse asked us “Why have you let him go like that?” [He was emaciated.] We explained that the staff in the Home had said that there was nothing they could do – to which the nurse said that there was lots that could have been done…’ Briwiau pwyso Mae Flynn yn rhyfeddu nad oedd briwiau pwysedd dwfn hyd yn oed wedi effeithio ar ymddygiad rhai o berchnogion y cartrefi gofal.
Hilda Scase was a ‘self-funder’ and yet within 10 weeks of being a resident at Brithdir she had no back – such was the extent of her pressure ulcers. There was no redress for her in terms of consumer legislation and nor, apparently, was this even considered.
Daw Flynn i’r casgliad ei bod yn druenus o glir nad yw’r drefn ar gyfer rhoi gwybod i Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed (POVA), sef trefn y mae gan awdurdodau lleol gyfrifoldeb arweiniol drosti, am friwiau pwyso yn annigonol fel ymateb i anghenion gofal clinigol brys pobl hŷn fregus Mae’n credu bod lle i Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru ymgymryd â rôl arweiniol ochr yn ochr â Chanolfan Arloesi ym maes Gwella Clwyfau i herio’r duedd i oddef briwiau pwyso y gellid eu hatal. Mae’r adolygiad yn argymell bod Llywodraeth Cymru, ar y cyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn sicrhau bod briwiau pwyso dwfn yn cael eu hystyried yn gyflwr hysbysadwy. Hefyd, os yw Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cael gwybod am friwiau pwyso dwfn, dylent hysbysu Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru neu Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a’r awdurdodau comisiynu priodol yn ogystal â theuluoedd y bobl hŷn dan sylw. Dywedodd y Prif Weinidog yn y Cyfarfod Llawn  ei fod wedi gofyn i Dr Flynn arwain cyfres o weithdai drwy Gymru dros yr hydref gyda’r rhai sydd ynghlwm wrth y gwaith o ofalu am bobl hŷn, i drafod ei chasgliadau a’r gwersi sydd i’w dysgu. Dywedodd y byddai’n dychwelyd i’r Cynulliad ar ôl yr haf i nodi’n fanwl yr hyn y mae’r Llywodraeth wedi’i wneud, ac yn bwriadu ei wneud, fel ymateb i’r adolygiad. Dywedodd hefyd:
Nid wyf eisiau i’r rhai sy'n ystyried mynd i ofal preswyl feddwl mai dyma sydd i’w ddisgwyl. Mae'r digwyddiadau a ddisgrifir gan Dr Flynn yn wirioneddol ofnadwy, ond hoffwn ail-bwysleisio bod mwyafrif llethol y gofal ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru yn 'dda' neu'n 'rhagorol'. Dangosodd yr adolygiad blynyddol diweddaraf gan yr arolygiaeth fod 86 y cant o ofal i oedolion yn bodloni’r gofynion, ac, o'r rhai nad oeddent, y gwnaed gwelliannau yn y rhan fwyaf o achosion.
Y goblygiadau o ran y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru)   Mae’r Bil Rheoleiedio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) yn awr yng Nghyfnod 2 o’r broses graffu a gall Aelodau’r Cynulliad gynnig gwelliannau i destun y Bil i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol eu hystyried. Darllenwch ragor am adroddiad Cyfnod 1y Pwyllgor yn un o’n herthyglau blaenorol. Cyfrannodd yr adolygiad at y Bil Rheoleiddio ar Arolygu, a dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn y Cyfarfod Llawn  y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno ymateb manwl i holl argymhellion y Pwyllgor ac yn nodi sut y mae’n credu y bydd y Bil yn ymateb i argymehllion adolygiad Flynn. Mae Flynn yn dweud bod canlyniadau Ymgyrch Jasmine yn dangos bod y farchnad wedi methu fel dull o ddarparu gofal preswyl. Some older people were transferred from one failing care home to another. What was in place to prevent providers, who were impervious to rebuke, from providing care for frail older people at as low a cost as possible? Hyfforddi a chofrestru staff gofal Mae Flynn yn tynnu sylw at y ffaith nad oes angen i weithwyr gofal preswyl mewn cartrefi gofal i oedolion gofrestru:
The apparent fitness of owners and managers became a charade when undermined by the recruitment and appointment of unsupervised and inadequately trained staff – for whom there is no registration requirement.
Daeth y broblem hon i’r amlwg yng Nghyfnod 1 o’r broses o graffu ar y Bil ac, o ganlyniad, argymhellodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y dylid newid y Bil er mwyn ei gwneud yn ofynnol i weithwyr gofal cartref gofrestru â’r rheoleiddiwyr (argymhelliad 38). Dywedodd y Pwyllgor y dylai’r gweithwyr hyn gofrestru oherwydd eu bod yn darparu gofal personol i rai o bobl hŷn mwyaf agored i niwed yng Nghymru. Dywedodd y Farwnes Finlay wrth yr adolygiad ei bod wedi bod yn gofyn i nyrsys gofal lliniarol cymunedol, sy’n mynd i weithio mewn cartrefi nyrsio, sut y gellid gwella gwasanaethau gofal? Yr ateb a gafodd yn gyson oedd bod angen ‘hyfforddiant gorfodol’. Meddai Flynn:
It is remarkable that nursing homes supporting frail older people are not required to demonstrate sufficient numbers of trained and competent staff who are able to meet the overarching aims of the service.
Mae Flynn yn argymell y dylid datblygu polisïau i reoleiddio a chaniatáu ymyrraeth yn y farchnad gofal cymdeithasol i wella safon gofal drwy fynd i’r afael yn uniongyrchol â materion fel tâl ac amodau gwaith, lefelau staffio a gwybodaeth ac arbenigedd comisiynwyr gwasanaethau a ariennir yn gyhoeddus.  Atebolrwydd  Daeth yr adolygiad i’r casgliad mai busnesau yw cartrefi gofal preifat a bod gwendid yn y sefyllfa gyfreithiol bresennol o ran cwmnïau preifat, anrhestredig.
Businesses need be made accountable for their trading practices. Directors should be subject to the same rules and accountability framework as other sectors.
Mae Flynn yn bendant y dylid caniatáu i gwmnïau fethu os yw’n amlwg eu bod wedi methu gofalu am bobl hŷn, ac y dylid datgymhwyso’u cyfarwyddwyr. Dywedodd y Gweinidog yn y Cyfarfod Llawn y bydd y Bil yn dwyn pobl i gyfrif drwy ei gwneud yn ofynnol i sicrhau bod unigolyn cyfrifol ar gael a drwy’r dyletswyddau cyfreithiol a roddir yn awr ar yr unigolion cyfrifol hyn. Dywedodd hefyd:
Providers will no longer be able to move resources from one home to another, to shore up a failing service in order to escape the regulatory gaze. The Bill provides the flexibility for the regulator to take enforcement action against either individual services or across an organisation as a whole.
Daeth yr adolygiad i’r casgliad fod angen cymryd camau credadwy i gyd-fynd â’r rhethreg, a’i bod yn hanfodol darparu gofal ochr yn ochr â phrosesau amserol i nodi dulliau o atal niwed pellach – a rhaid i’r rhain gynnwys erlyniadau.