Microsglodynnu gorfodol ar gyfer cŵn yng Nghymru - pryd a pham?

Cyhoeddwyd 03/08/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

03 Awst 2015 Erthygl gan Candice Boyes, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_3591" align="alignleft" width="682"]Llun o filfeddyg yn archwilio ci Mae'r llun ar gael i'r cyhoedd[/caption] Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno gofyniad cyfreithiol i berchnogion cŵn yng Nghymru microsglodynnu eu hanifeiliaid - caiff y ddeddfwriaeth ei gwneud o dan Adran 12 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006, gyda Gweinidogion Cymru yn cynnig bod pob ci yng Nghymru (gan gynnwys cŵn bach dros 56 diwrnod oed) yn cael eu microsglodynnu. Ar hyn o bryd, mae tua 8 miliwn o gŵn anwes yn y DU. Roedd arolwg Cymdeithas Gwneuthurwyr Bwyd Anifeiliaid Anwes, a gynhaliwyd yn 2014, yn amcangyfrif bod 690,000 o gŵn yng Nghymru, gyda 67 y cant (tua 460,000) wedi'u microsglodynnu'n barod. Eithriad i'r ddeddfwriaeth arfaethedig fyddai canolfannau ailgartrefu dielw, lle na fydd angen i gŵn yn eu gofal gael eu microsglodynnu gan nad ystyrir mai hwy yw perchnogion cyfreithiol yr anifeiliaid (nid yw'r cŵn yn “byw gyda hwy fel arfer”). Fodd bynnag, byddant yn gallu microsglodynnu unrhyw gŵn a ddaw i'w gofal gyda manylion perchennog newydd y ci. Mewn datganiad ysgrifenedig, cyhoeddodd Rebecca Evans AC, y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, y cyflwynir y ddeddfwriaeth ym mis Ebrill 2016. Bydd hyn yn cyd-fynd â'r dyddiadau a gyhoeddwyd ar gyfer Lloegr a'r Alban. Mae microsglodynnu eisoes yn ofyniad cyfreithiol yng Ngogledd Iwerddon o dan Reoliadau (Trwyddedu ac Adnabod) Cŵn (Gogledd Iwerddon) 2012. Dyma'r rhesymeg ar gyfer deddfwriaeth newydd Llywodraeth Cymru:
Prif fantais ei gwneud yn orfodol gosod microsglodyn ar bob ci yw y bydd yn gwella lles anifeiliaid. Dylai annog perchnogion i ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb am les ac ymddygiad eu cŵn, a gallai hefyd olygu bod modd olrhain cŵn er mwyn rheoli clefydau.
Disgwylir i ficrosglodynnu gorfodol hefyd gael effaith ar leihau nifer yr anifeiliaid crwydr yng Nghymru – sydd wedi bod yn cynyddu yn ôl arolwg (PDF, 396KB) 2014 yr Ymddiriedolaeth Gŵn, gydag 8,140 amcangyfrifedig o gŵn crwydr yng Nghymru. Cefndir Mae trafod wedi bod ers peth amser ynghylch ei gwneud yn orfodol microsglodynnu cŵn. Roedd Gorchymyn Rheoli Cŵn 1992 yn ei gwneud yn ofyniad cyfreithiol gallu adnabod cŵn mewn man cyhoeddus, naill ai drwy wisgo coler gyda manylion y perchennog, neu drwy datŵio – dull sy'n boblogaidd gyda pherchnogion cŵn gweithio. Fodd bynnag, mae problemau wedi bod gyda'r dulliau blaenorol hyn. Mae'n hawdd colli neu dynnu coleri, ac mae achosion wedi bod o gŵn yn cael eu hanffurfio er mwyn cael gwared ar olion tatŵ. Trafododd Llywodraeth Cymru y mater am y tro cyntaf ym mis Hydref 2009 pan gynhaliodd ddau arolwg i gasglu sylwadau awdurdodau lleol a gweithwyr milfeddygol proffesiynol. Yna, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad cyffredinol (PDF, 83.09KB) yn 2012 i asesu barn y cyhoedd ar gyflwyno microsglodynnu gorfodol. Cafwyd canran uwch o ymatebion ffafriol i'r ymgynghoriad hwn nag arolygon 2009, gydag 84 y cant o'r ymatebwyr o blaid cyflwyno'r ddeddfwriaeth. Yn 2014, drafftiwyd rheoliadau ar gyfer deddfwriaeth a chawsant eu gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Fodd bynnag, roedd amrywiaeth o faterion technegol (gan gynnwys safonau'r cyfarpar a'r dull mewnblannu) yn golygu bod yn rhaid tynnu'r fersiwn ddrafft yn ei hôl i'w hystyried ymhellach. Ymateb rhanddeiliaid Er gwaethaf cefnogaeth gan y mwyafrif, mae rhai grwpiau ac unigolion yn gwrthwynebu'r ddeddfwriaeth. Un rheswm a nodwyd yw'r pryder y gallai'r microsglodion achosi tiwmorau, gyda gwefannau sy'n gwrthwynebu yn cyfeirio at adroddiad CASPIAN, Microchip-Induced Tumors in Laboratory Rodents and Dogs: A Review of the Literature 1990–2006 (PDF, 1.74MB). Ar y llaw arall, mae'r RSPCA wedi bod yn ymgyrchu ar ficrosglodynnu gorfodol yng Nghymru am beth amser ac wedi croesawu'r cynnydd a wnaed yn yr ymgynghoriad. Dywedodd Claire Lawson, Pennaeth Materion Allanol RSPCA Cymru:
Microchipping is fantastic in many ways, not least in increasing the chance of reuniting lost or stolen dogs with their owners.
Mae Cymdeithas Milfeddygon Prydain hefyd wedi cefnogi'r cynigion yn ei ymateb (PDF, 78.3KB) i'r ymgynghoriad. Dywedodd Rob Davies, Llywydd Cangen Cymru o Gymdeithas Milfeddygon Cymru:
Our members across Wales will be very pleased that we have both a clear timetable and a clear commitment to getting the details of implementation right. We will work with Rebecca Evans and her team in the coming year to help get the message out to vets and their clients across Wales about the introduction of these important regulations in 2016, making sure that owners are well-prepared and know their responsibilities.
View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg