Y wybodaeth ddiweddaraf am Gynllun Buddsoddi'r UE: Banc Buddsoddi Ewrop yn barod i gynyddu'r buddsoddiad yn yr UE

Cyhoeddwyd 03/08/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

03 Awst 2015 Erthygl gan Robin Wilkinson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_3599" align="alignright" width="335"]Baneri Ewropeaidd yn chwifio o flaen Adeilad Berlaymont ym Mrwsel Llun: Flikr gan Xavier Häpe. Dan drwydded Creative Commons[/caption] Ym mis Mehefin 2015, pleidleisiodd Senedd Ewrop drwy Reoliadau ar gyfer Cronfa Ewropeaidd ar gyfer Buddsoddiadau Strategol (EFSI), un o brif elfennau cynllun Llywydd Comisiwn yr UE, Llywydd Juncker, i ysgogi buddsoddiad yn Ewrop (i gael gwybodaeth gefndir am y Cynllun Buddsoddi, gan gynnwys y meini prawf cymhwysedd cyffredinol ar gyfer y Gronfa, darllenwch y blog-bost blaenorol, 05 Rhagfyr, 2014). Ar ôl cytuno ar becyn arall o fesurau ym mis Gorffennaf, mae'r Comisiwn yn gobeithio y bydd y Gronfa ar waith o fewn Banc Buddsoddi Ewrop ac yn rhoi arian i brosiectau erbyn mis Medi, fel y bwriadwyd yn wreiddiol. Beth yw cytundeb y Gronfa Ewropeaidd ar gyfer Buddsoddiadau Strategol? Yn wreiddiol, cyhoeddodd y Comisiwn Ewropeaidd gynnig deddfwriaethol i greu'r Gronfa ym mis Ionawr. Mae'r cynigion hyn wedi mynd drwy'r broses ddeddfwriaethol arferol sy'n gofyn am gytundeb rhwng y Cyngor Ewropeaidd a Senedd Ewrop. Pleidleisiodd y Senedd o blaid y cytundeb cyfaddawdu ar 24 Mehefin 2015, ac yna cafodd ei fabwysiadu gan Gyngor yr Undeb Ewropeaidd y diwrnod canlynol. Roedd y Comisiwn wedi cynnig yn wreiddiol y byddai cyllid yr UE yn dod yn bennaf o adleoli grantiau o raglen Horizon 2020 (ymchwil ac arloesedd) a Chyfleuster Cysylltu Ewrop (trafnidiaeth, ynni a rhwydweithiau digidol), yn ogystal ag elw heb ei ddefnyddio yn y gyllideb. Roedd hwn yn faes dadleuol mewn trafodaethau. Fel rhan o'r fargen, cytunodd y Cyngor a'r Senedd gynyddu cyfran yr arian o elw heb ei ddefnyddio, o gymharu â'r hyn a gynigiwyd gan y Comisiwn, er mwyn lleihau'r cyfraniadau o Horizon 2020 a Chyfleuster Cysylltu Ewrop. Yn ystod y broses drafod, sicrhaodd Aelodau o Senedd Ewrop rôl well i Senedd Ewrop, a fydd bellach yn rhan o'r broses o benodi pobl allweddol i redeg y Gronfa Ewropeaidd ar gyfer Buddsoddiadau Strategol, ac er mwyn monitro llwyddiant y Gronfa. Mae'r testun cyfaddawdu hefyd yn cynnwys mwy o fanylion am y meini prawf cymhwysedd y dylai prosiectau eu bodloni er mwyn cael cymorth y Gronfa, a'r meysydd a gaiff eu blaenoriaethu ar gyfer cymorth. Mae'r Comisiwn wedi nodi erioed y dylai unrhyw fuddsoddiad o dan y Gronfa Ewropeaidd ar gyfer Buddsoddiadau Strategol fod yn ychwanegol at weithgarwch arferol Banc Buddsoddi Ewrop, ond ychwanegir llawer at y cysyniad hwn yn y testun terfynol. Mae'r testun terfynol hefyd yn nodi y dylai Bwrdd Llywio'r Gronfa “adjust the project mix as regards sectors and countries, on the basis of an ongoing monitoring of the developments of market conditions in the Member States and of the investment environment”. Er bod y Comisiwn wedi nodi'n flaenorol na fydd cymorth y Gronfa yn amodol ar unrhyw gwotâu adrannol neu ddaearyddol, mae'r testun hwn yn awgrymu y bydd y ffactorau hyn, i ryw raddau, yn cael effaith pan fydd y Gronfa yn gwneud penderfyniadau mewn perthynas â buddsoddiadau. Beth arall y mae'r Comisiwn wedi'i wneud i weithredu'r Cynllun Buddsoddi? Ym mis Gorffennaf, cyhoeddodd y Comisiwn becyn arall o fesurau er mwyn gweithredu'r Cynllun Buddsoddi. Roedd y rhain yn cynnwys:
  • Cyhoeddi Communication on the role of National Promotional Banks (NPBs) i gefnogi'r Cynllun Buddsoddi. Mae'r Banciau hyn yn cynnal datblygiadau neu weithgareddau hyrwyddo o dan fandad gan aelod-wladwriaeth.
  • Cadarnhau y bydd y prosiectau sydd eisoes wedi cael arian o'r Gronfa Ewropeaidd ar gyfer Buddsoddiadau Strategol yn cael cefnogaeth gwarant y Gronfa. Ym mis Rhagfyr y llynedd, estynnodd y Cyngor Ewropeaidd wahoddiad i'r Gronfa ddechrau gweithgareddau drwy ddefnyddio ei arian ei hun o fis Ionawr 2015 ymlaen, hyd nes y byddai Rheoliad y Gronfa yn cael ei fabwysiadu. Nid oes unrhyw un o'r prosiectau hyn sydd eisoes wedi cael arian yn y DU.
  • Y trefniadau terfynol i lansio'r Awdurdod Cynghori ar Fuddsoddiadau Ewropeaidd (EIAH). Bydd yr Awdurdod yn rhoi cyngor i bobl sydd am ddatblygu prosiectau ar gyfer buddsoddiad yn yr UE.
  • Penderfynu ar brif elfennau'r Porth Prosiect Buddsoddi Ewropeaidd (EIPP). Bydd y Porth yn borth ar y we lle gall noddwyr prosiect yn yr UE sy'n chwilio am gyllid hyrwyddo eu prosiectau i fuddsoddwyr posibl.
  • Y ddeddf ddirprwyedig ar gyfer Bwrdd Sgorio o ddangosyddion y bydd y Pwyllgor Buddsoddi annibynnol yn ei defnyddio wrth benderfynu a yw cynnig prosiect yn bodloni'r meini prawf i gael cymorth gan y Gronfa Ewropeaidd ar gyfer Buddsoddiadau Strategol.
Faint mae Llywodraeth y DU wedi'i gyfrannu? Ers lansio'r Cynllun Buddsoddi, mae nifer o aelod-wladwriaethau wedi cyhoeddi cyfraniadau i'r Gronfa. Y diweddaraf oedd y Deyrnas Unedig, a gyhoeddodd yn ddiwedddar ei bwriad o ryddhau £6 biliwn (neu €8.5 biliwn) o warantau'r DU er mwyn ariannu prosiectau seilwaith y Gronfa Ewropeaidd ar gyfer Buddsoddiadau Strategol yn y DU ar y cyd. Dyma'r cyfraniad mwyaf hyd yma i'w gyhoeddi gan aelod-wladwriaeth. Hyd yma, mae cyfraniadau eraill wedi'u cyhoeddi gan yr Almaen (€8 biliwn), Sbaen (€1.5 biliwn), Ffrainc (€8 biliwn), yr Eidal (€8 biliwn), Lwcsembwrg (€80 miliwn), Gwlad Pwyl (€8 biliwn), Slofacia (€400 miliwn) a Bwlgaria (€100 miliwn). Sut y gall prosiectau yng Nghymru gael cyllid? Ym mis Mehefin 2015, aeth aelodau o'r Pwyllgor Menter a Busnes i Frwsel a Lwcsembwrg i drafod cyfleoedd i brosiectau yng Nghymru o dan Gynllun Buddsoddi'r UE. Cyfarfu'r aelodau â swyddogion o'r Comisiwn Ewropeaidd, Llywodraeth y DU a Banc Buddsoddi Ewrop. Pwysleisiodd swyddogion y Banc Buddsoddi nad oes angen i bobl sydd â chynigion prosiect fynd drwy lywodraeth gyfryngol, a gallant gysylltu'n uniongyrchol â Banc Buddsoddi Ewrop i drafod yr opsiynau cyllid. Nid oes angen i brosiectau “wneud cais” yn benodol am gymorth y Gronfa Ewropeaidd ar gyfer Buddsoddiadau Strategol, mae'n syml yn opsiwn cyllid ychwanegol sy'n rhoi mwy o hyblygrwydd i Fanc Buddsoddi Ewrop wrth weithio gyda noddwyr prosiect. Gwnaeth swyddogion y Comisiwn a Llywodraeth y DU yn glir i'r Pwyllgor bod dymuniad gwleidyddol cryf i'r Banc Buddsoddi Ewrop fod yn llai gwrth-risg a chynyddu ei fuddsoddiadau ledled Ewrop. Mae'r Gronfa Ewropeaidd ar gyfer Buddsoddiadau Strategol yn enghraifft o'r dymuniad hwn yn cael ei roi ar waith. Fodd bynnag, ymhlith yr heriau bydd angen i Fanc Buddsoddi Ewrop weithredu ar y dymuniad hwn heb golli'r sgôr credyd AAA sy'n hanfodol er mwyn iddo weithredu. Ym mis Gorffennaf 2015, cyfarfu'r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth ag Is-lywydd Banc Buddsoddi Ewrop yn Lwcsembwrg i drafod sut y gall Cymru gael budd o'r Cynllun Buddsoddi, drwy gyllid gan y Gronfa Ewropeaidd ar gyfer Buddsoddiadau Strategol ar gyfer prosiectau yng Nghymru a chyngor arbenigol ar gyfer noddwyr prosiect gan Awdurdod Cynghori'r Undeb Ewropeaidd. Fel y nodwyd uchod, mae Banc Buddsoddi Ewrop eisoes wedi ariannu nifer o broisectau o fath Cronfa Ewropeaidd ar gyfer Buddsoddiadau Strategol, heb aros i sefydliadau eraill yr UE gytuno'n ffurfiol ar y Gronfa.  Y brif neges a gafodd y Pwyllgor gan swyddogion Banc Buddsoddi Ewrop oedd y dylai pobl sydd â chynigion prosiect siarad gyda hwy nawr. Mae Banc Buddsoddi Ewrop wedi derbyn y cyfeiriad gwleidyddol, ac mae'r camau gweinyddol amrywiol yn cael eu cymryd i sefydlu'r Gronfa Ewropeaidd ar gyfer Buddsoddiadau Strategol yn ffurfiol. Mae Banc Buddsoddi Ewrop yn barod ac yn fodlon helpu rhoi Cynllun Buddsoddi Juncker ar waith. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg