Cefnogaeth ar gyfer cymunedau gwledig Cymru; lansio cynlluniau newydd o dan y Rhaglen Datblygu Gwledig

Cyhoeddwyd 11/08/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

11 Awst 2015 Erthygl gan Katy Orford, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_3636" align="alignnone" width="640"]Ffotograff o gymuned wledig Llun o Flickr gan 'Hefin Owen'. Trwydded Creative Commons.[/caption] Mabwysiadwyd Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 (y Rhaglen) gan y Comisiwn Ewropeaidd ar 26 Mai 2015. Rhaglen 7 mlynedd yw hon, a chaiff ei hariannu gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru o dan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Ar ddiwedd mis Gorffennaf 2015 lansiodd y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd bedwar cynllun allweddol o dan y Rhaglen newydd. Gyda'i gilydd mae'r mentrau hyn yn werth bron £30 miliwn. Y Rhaglen Datblygu Gwledig Rhaglen fuddsoddi 7 mlynedd o dan y Polisi Amaethyddol Cyffredin yw'r Rhaglen Datblygu Gwledig, a'i nod yw gwella cydnerthedd mewn amaethyddiaeth, coedwigaeth a chymunedau gwledig. Nod y grant £900 miliwn yw:
  • cynorthwyo'r sector amaethyddiaeth a choedwigaeth i ddod yn fwy cystadleuol;
  • diogelu a gwella'r amgylchedd gwledig; a
  • meithrin busnesau gwledig cystadleuol a chynaliadwy, a chymunedau gwledig ffyniannus.
Y Cynlluniau Dyma bedwar cynllun a lansiwyd yn ddiweddar o dan y Rhaglen newydd:
  • Y Gronfa Datblygu Cymunedau Gwledig sy'n ceisio gwella cydlyniant cymunedol trwy fesurau fel cludiant cymunedol a chysylltedd e.e. drwy ddarparu cyswllt rhyngrwyd;
  • Y Grant Cynhyrchu Cynaliadwy sy'n ceisio gwella cydnerthedd busnesau amaethyddol;
  • Y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd sy'n canolbwyntio ar swyddi yn y sector bwyd; a
  • Rhan o'r Rhaglen gydweithredu a fydd yn dechrau ar y broses o greu cynhyrchion arloesol a phrosiectau i sefydlu mentrau strategol lleol sy'n gynaliadwy a chydweithredol mewn meysydd fel coetiroedd, arloesi ym maes bwyd a'r sector cig coch.
Mae rowndiau cychwynnol Datganiadau o Ddiddordeb yn y cynlluniau bellach wedi cychwyn (Tabl 1). Wedi hyn, bydd prosiectau'n cael eu rhestru yn ôl blaenoriaeth o'u cymharu â phrosiectau eraill ac, os byddant yn llwyddiannus, gwahoddir ymgeiswyr i gyflwyno cais llawn gyda'r holl ddogfennau ategol. Disgwylir i ragor o rowndiau gael eu cyhoeddi cyn bo hir. Tabl 1: Cynlluniau sy'n agor am rownd gyntaf o Ddatganiadau o Ddiddordeb. Y Gronfa Datblygu Cymunedau Gwledig O dan y Gronfa bydd Llywodraeth Cymru yn cynnig grantiau, wedi'u hanelu'n bennaf at Grwpiau Gweithredu Lleol LEADER a sefydliadau eraill yn y gymuned ar gyfer cyllid buddsoddi ar draws ystod o ymyriadau. Mae'r rhain wedi'u cynllunio i helpu i drechu tlodi a lleihau effaith tlodi mewn cymunedau gwledig er mwyn gwella amgylchiadau gan arwain at greu twf a swyddi yn y dyfodol. Bydd yr ymyriadau'n cynnwys:
  • helpu pobl i gael gwaith;
  • cefnogi pobl i ennill mwy ar ôl cael gwaith (trwy weithio mwy o oriau a gwella sgiliau); a
  • chanolbwyntio ar wella blynyddoedd cynnar bywydau pobl.
  • Mae agweddau ar dlodi yng nghefn gwlad y nodwyd gan Lywodraeth Cymru bod arnynt angen sylw yn cynnwys:
  • mynediad at wasanaethau;
  • tlodi tanwydd;
  • tlodi mewn gwaith; ac
  • allgáu digidol.
Y Grant Cynhyrchu Cynaliadwy Amcanion y cynllun yw cynyddu buddsoddiad ar y fferm, gwella perfformiad technegol, cynyddu lefelau cynhyrchu ar y fferm a sicrhau arbedion effeithlonrwydd o ran adnoddau. Mae'r Grant Cynhyrchu Cynaliadwy yn cwmpasu buddsoddiadau cyfalaf mewn offer a pheiriannau, ac yn cefnogi prosiectau sy'n cynnig manteision i wella perfformiad cyffredinol y daliad amaethyddol a'i wneud yn fwy cynaliadwy. Uchafswm y grant fesul menter ar gyfer unrhyw brosiect buddsoddi unigol yw £400,000, a'r isafswm yw £16,000. Y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd Cynlluniwyd y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd i helpu cynhyrchwyr cynradd cynhyrchion amaethyddol yng Nghymru i ychwanegu gwerth at eu cynnyrch trwy ddarparu cefnogaeth i'r busnesau hynny sy'n cynnal gweithgareddau prosesu cam cyntaf a/neu ail gam. Mae hefyd wedi'i gynllunio i wella perfformiad eu busnesau a'u gwneud yn fwy cystadleuol; i ymateb i'r galw gan ddefnyddwyr; i annog busnesau i arallgyfeirio ac i nodi, datblygu a gwasanaethu marchnadoedd newydd a rhai presennol. Mae'r cynllun yn cwmpasu buddsoddiadau cyfalaf mewn offer prosesu ac yn cefnogi prosiectau sy'n cynnig manteision, uniongyrchol neu anuniongyrchol, i gynhyrchwyr cynradd yn y sectorau amaeth sy'n darparu'r deunyddiau crai. Rhoddir blaenoriaeth i fusnesau micro, a busnesau bach a chanolig (BBaCh). Uchafswm y grant fesul menter ar gyfer unrhyw brosiect buddsoddi unigol yw £5,000,000, a'r isafswm yw £2,400. Y Rhaglen gydweithredu Rhoddir cymorth ar ffurf cyfuniad o grantiau i grwpiau cydweithredol a chyllid i animeiddwyr / hwyluswyr sy'n brocera a hwyluso prosiectau cydweithredol. Bydd hefyd yn cynnwys cynnal astudiaethau dichonoldeb, mapio'r gadwyn gyflenwi a dadansoddi bylchau.