Canlyniadau Safon Uwch (13/08/2015)

Cyhoeddwyd 13/08/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

13 Awst 2015 Erthygl gan Sian Hughes, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Mae myfyrwyr Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn cael eu canlyniadau Safon Uwch heddiw. Mae'r Cyd-gyngor Cymwysterau (sefydliad aelodaeth sy'n cynnwys y saith darparwr cymwysterau yn y DU) yn cyhoeddi crynodebau o'r canlyniadau. Mae data'r Cyd-gyngor Cymwysterau yn dangos canlyniadau cyfunol y rhai a gofrestrodd gyda'r cyrff dyfarnu sy'n aelodau. Mae'r canlyniadau a gyhoeddwyd gan y Cyd-gyngor Cymwysterau yn ymwneud â 'chofrestriadau' ac nid 'ymgeiswyr'. Felly, er enghraifft, gall y data ddangos bod lefel y perfformiad wedi cynyddu neu ostwng ar lefel Safon Uwch neu o fewn y graddau. Ni all ddangos a oes mwy o fechgyn neu o ferched yn cael pump neu ragor o raddau TGAU. Mae'r data yn ymwneud â chanlyniad y meysydd pwnc unigol ar gyfer pawb waeth beth fo'u hoedran. Mae'r data yn y tablau isod yn cymharu'r canlyniadau ar gyfer 2014 a 2015. Gwneir y gymhariaeth hon yn seiliedig ar y data a gyhoeddwyd gan y Cyd-gyngor Cymwysterau ar y diwrnod canlyniadau yn 2014. Mae'r data yn rhai dros dro ac yn dangos y sefyllfa adeg cyhoeddi'r canlyniadau. Caiff y data eu gwirio cyn i'r data terfynol gael eu cyhoeddi ar lefel genedlaethol (Cymru), ac ar lefel awdurdodau lleol ac ysgolion. Cafodd data dros dro Safon Uwch eu cyhoeddi ar 13 Awst 2015. Mae'r wybodaeth yn ymwneud â chofrestriadau ac nid ymgeiswyr. Cymharu 2014 a 2015
  • Yng Nghymru, gwelwyd y gyfradd lwyddo gyffredinol yn gostwng ychydig (0.2 y cant) i 97.3 y cant. Yn Lloegr bu cynnydd bach o 0.1 y cant;
  • Mae canran y rhai a enillodd raddau A*-C wedi gostwng 0.9 y cant yng Nghymru i 74.3 y cant, a bu cynnydd o 0.7 y cant yn Lloegr;
  • Yng Nghymru, bu gostyngiad o 0.2 y cant, i 23.1 y cant, yng nghanran y rhai a enillodd raddau A*-A. Yn Lloegr, bu gostyngiad o 0.1 y cant;
  • Yng Nghymru, mae canran y rhai a enillodd raddau A* wedi cynyddu 0.6 y cant, i 7.3 y cant. Ni welwyd unrhyw newid yn Lloegr.
Bechgyn a merched
  • Mae merched yn parhau i gael graddau gwell na bechgyn yng Nghymru a Lloegr, ac eithrio canran y rhai a enillodd radd A*. Yn achos gradd A* mae'r bwlch rhwng bechgyn a merched wedi cynyddu ychydig yng Nghymru;
  • Yn achos y graddau eraill, yng Nghymru, mae'r bwlch rhwng bechgyn a merched wedi lleihau ers y llynedd ar gyfer graddau A*-A, A*-C ac A*-E.
  • Cymru a Lloegr
  • Mae Lloegr yn parhau i gyflawni canlyniadau gwell na Chymru, gyda'r bwlch yn cynyddu ar gyfer pob gradd ac eithrio graddau A* lle mae'r bwlch wedi lleihau 0.6 y cant.
Mae tablau 1 a 2 yn dangos canrannau'r cofrestriadau yn yr holl bynciau fesul gradd ar gyfer Cymru a Lloegr, cofrestriadau merched a bechgyn, ac ar gyfer 2014 a 2015. table1-cy table2-cy Bagloriaeth Cymru Cafodd canlyniadau'r haf ar gyfer Diploma Uwch Bagloriaeth Cymru eu cyhoeddi heddiw hefyd. Mae Cymhwyster Bagloriaeth Cymru yn cael ei gyflwyno gan ysgolion, colegau a darparwyr hyfforddiant ledled Cymru. Mae dwy ran i gymhwyster Bagloriaeth Cymru, sef 'Opsiynau' a 'Rhaglen Graidd'. Rhaid i'r 'Opsiynau' gael eu cyflawni gan fyfyrwyr sy'n astudio ar gyfer Diploma Bagloriaeth Cymru ar bob lefel, ac maent yn opsiynau a ddewiswyd o gyrsiau neu raglenni sefydledig a chymeradwy (er enghraifft, TGAU, TGAU Galwedigaethol, Safon Uwch/Uwch Gyfrannol, Safon Uwch Galwedigaethol). Astudiaethau datblygiad personol yw'r 'Rhaglen Graidd' ac mae'n rhaid i fyfyrwyr eu cyflawni ynghyd â'r Opsiynau. Er mwyn ennill Diploma, rhaid i ymgeiswyr fodloni gofynion yr Opsiynau a'r Rhaglen Graidd. Caiff y Craidd ei raddio am y tro cyntaf eleni. Ar lefel Uwch:
  • Gwelwyd cynnydd bach yng nghanran yr ymgeiswyr a gafodd y Diploma Uwch, o 87.1 y cant yn 2014 i 87.4 y cant yn 2015;
  • Llwyddodd 92.2 y cant o'r ymgeiswyr i gyflawni'r Dystysgrif Graidd, o'i gymharu â 92.4 y cant yn 2014;
  • Enillodd 12.2 y cant radd A* ar gyfer y Craidd Enillodd 29.3 y cant radd A ar gyfer y Craidd Enillodd 30.3 y cant radd B ar gyfer y Craidd Enillodd 20.4 y cant radd C ar gyfer y Craidd
View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg