Pam mae argyfwng ffermio Ewropeaidd a beth mae’r Comiswin Ewropeaidd yn wneud i ymateb iddo?

Cyhoeddwyd 13/08/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

8 Hydref 2015 Erthygl gan Nia Seaton Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_3871" align="alignnone" width="640"]Darlun o fuwch Llun o Flickr gan Smudge 9000. Dan drwydded Creative Commons.[/caption] Ers dechrau’r flwyddyn hon mae’r prisiau a gaiff ffermwyr am eu cynnyrch wedi bod yn dirywio. Yn y sector llaeth, mae’r prisiau a gaiff rhai ffermwyr wedi gostwng yn is na chostau cynhyrchu. Mae’r blog hwn yn trafod sefyllfa’r farchnad sy’n wynebu ffermwyr Ewrop a’r pecyn cymorth a gyflwynwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd yn hytrach nag unrhyw gamau penodol sy’n cael eu cymryd yng Nghymru i gefnogi’r sector hwn. Pam mae prisiau yn disgyn nawr? Mae nifer o ffactorau wedi cyfrannu at y gostyngiad parhaus mewn prisiau. Ar lefel fyd-eang, mae gwaharddiad parhaus gan Rwsia ar fewnforio cynnyrch yr UE, er mwyn dial am sancsiynau’r UE dros ei gweithredoedd yn Wcrain wedi cael effaith sylweddol. Er, efallai nad yw Cymru yn cyflenwi swm sylweddol o gynnyrch yn uniongyrchol i farchnad Rwsia, mae’r mewnlifiad o gynnyrch o aelod-wladwriaethau eraill a fyddai fel arfer yn gwerthu i Rwsia wedi difetha marchnad yr UE. Mewn datganiad i’r wasg ar 15 Medi roedd Copa-Cogeca, y glymblaid Ewropeaidd o sefydliadau ffermio, yn amcangyfrifir bod marchnad Rwsia yn werth €5.5 biliwn i’r UE. Yn ychwanegol, ar lefel fyd-eang, mae galw rhai o farchnadoedd allweddol yr UE am gynnyrch llaeth gan rai o farchnadoedd allweddol yr UE fel Tsieina wedi gostwng. Bu hefyd orgyflenwad cyffredinol o laeth ar y farchnad, nid yn unig o’r UE ond gan rai o wledydd cynhyrchu llaeth mwyaf y byd, fel Seland Newydd a’r Unol Daleithiau. Mae sychder mewn rhai o wledydd yr UE hefyd wedi effeithio ar y cyflenwad ac felly ar bris porthiant anifeiliaid, fel india-corn. Ym mis Mawrth 2015, daeth system cwotâu llaeth i ben yn yr UE. Roedd y system yn rhoi cwota ar gyfer faint o laeth y caniatawyd i bob gwlad ei gynhyrchu. Diben y system oedd rheoli prisiau drwy gyfyngu ar y cyflenwad i’r farchnad. Mae cael gwared ar y rheolaeth hon ar gyflenwad hefyd wedi ychwanegu at faint o laeth sy’n cyrraedd marchnad yr UE. Ar draws yr UE, yn ogystal ag yn y DU a Chymru, mae ffermwyr wedi bod yn cyfeirio at anghyfartaledd yn y gadwyn gyflenwi. Maent yn amlinellu mai hwy sydd wedi ysgwyddo baich y prisiau sy’n disgyn gan fanwerthwyr a ‘rhyfeloedd’ yr archfarchnadoedd. Pa gamau sy’n cael eu cymryd i helpu ffermwyr? Ar 7 Medi 2015, cynhaliwyd Cyngor Eithriadol o Weinidogion Amaethyddiaeth ym Mrwsel i drafod yr argyfwng. Yn y cyfarfod hwn, datgelodd y Comisiwn Ewropeaidd becyn cymorth newydd i helpu ffermwyr ac sydd, yn ôl pob sôn, yn werth €500 miliwn. Elfen ganolog y pecyn fydd cronfa cymorth uniongyrchol o €420 miliwn ar gyfer ffermwyr llaeth a da byw. Bydd Aelod-wladwriaethau a rhanbarthau yn cael defnyddio’u disgresiwn o ran sut y maent am ddosbarthu’r gronfa rhwng ffermwyr ac, os ydynt yn dymuno, caniateir iddynt roi arian cyfatebol tuag at y cymorth. Bydd y DU yn cael £26. 2 miliwn, a bydd Cymru yn cael £3.2 miliwn o’r gronfa hon. Yng Nghymru, dyrennir taliadau i ffermwyr llaeth ar sail faint o laeth a gynhyrchwyd ganddynt yn 2014-15. Mae’r Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd wedi datgan y bydd hyn yn golygu taliad cyfartalog o £1,800 i ffermydd llaeth Cymru. Bydd y Comisiwn Ewropeaidd hefyd yn caniatáu i aelod-wladwriaethau wneud taliadau Polisi Amaethyddol Cyffredin (CAP) uwch i ffermwyr o 16 Hydref ac mae wedi llacio rhai o’r rheolau cydymffurfio i alluogi hyn i ddigwydd yn gynnar. Mewn llythyr at holl Aelodau’r Cynulliad ar 29 Medi, dywedodd y Dirprwy Weinidog, oherwydd y cymhlethdodau sy’n gysylltiedig â chyhoeddi taliadau ym mlwyddyn gyntaf y PAC newydd hwn, ni fydd Llywodraeth Cymru yn gallu gwneud taliadau cynnar. Yn lle hynny, bydd yn canolbwyntio ar allu talu cymaint â phosibl o daliadau sy’n ddyledus i ffermwyr pan fydd y cyfnod talu arferol yn agor ar 1 Rhagfyr. Mae mesurau eraill a gynigir fel rhan o’r pecyn cymorth yn cynnwys:
  • Ymestyn a Gwella Cymorth Storio Preifat: bydd hyn yn cynnwys ymestyn cymorth storio preifat a chyfnodau ymyrraeth gyhoeddus ar gyfer menyn a phowdr llaeth sgim a chynllun storio cymorth preifat newydd ar gyfer cig moch.
  • Rhaglenni Hyrwyddo: cynyddu’r gyllideb sydd ar gael i hyrwyddo cynnyrch Ewropeaidd a gwell ymdrech gan y Comisiwn Ewropeaidd i agor marchnadoedd newydd a lleihau rhwystrau masnach.
  • Creu Grŵp Lefel Uchel newydd: gwaith y grŵp hwn fydd ystyried materion fel credyd i ffermwyr, offerynnau diogelu rhag risg a rôl ffermwyr yn y gadwyn gyflenwi.
Beth yw’r rhagolygon hirdymor? Yn ei araith i Gyfarfod Eithriadol y Cyngor ar 15 Medi, casglodd Jyrki Katainen, Is-lywydd y Comisiwn Ewropeaidd, mai ychydig iawn o obaith sydd o wella yn y sectorau llaeth a chig moch yn y tymor byr, ond mae rhai arwyddion o adferiad yn y prisiau a delir am gig eidion. Ym mis Rhagfyr 2014, cyhoeddodd y Comisiwn Ewropeaidd ei ragolygon tymor canolig ar gyfer y sector amaethyddol ar gyfer y cyfnod 2014-2024. Mae rhagolygon y farchnad yn cyflwyno darlun cymysg ar gyfer y diwydiant. Daw’r adroddiad i’r casgliad y bydd y rhagolygon ar gyfer cynnyrch llaeth yr UE yn ‘ffafriol’ yn y tymor hir gan y bydd y galw byd-eang yn cynyddu. Disgwylir i’r galw am gig moch a dofednod godi, a disgwylir i’r sector cig defaid sefydlogi. Er gwaethaf cynnydd tymor byr, disgwylir i’r diwydiant cig eidion barhau i ostwng yn y tymor canolig.