Ymchwiliad Newydd i Wasanaethau Bysiau a Thrafnidiaeth Gymunedol yng Nghymru

Cyhoeddwyd 20/08/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

20 Awst 2015 Erthygl gan Andrew Minnis, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Mae Pwyllgor Menter a Busnes Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad i Wasanaethau Bysiau a Thrafnidiaeth Gymunedol yng Nghymru. Mae'r blog-bost hwn yn gosod y cefndir i'r ymchwiliad gan fynd i'r afael â gostyngiad yn y ddarpariaeth o ran gwasanaethau bysiau a nifer y teithwyr yng Nghymru, newidiadau i bolisi bysiau, a chynigion ynghylch datganoli pwerau. Mae tudalen yr ymchwiliad gyda’r cylch gorchwyl, y dystiolaeth a ddaeth i law ac ati, ar gael drwy dudalen yr ymchwiliad. Gallwch hefyd ddilyn y Pwyllgor Menter a Busnes, gan gynnwys yr ymchwiliad hwn ar Twitter: @SeneddBusnes Gostyngiad yn y ddarpariaeth o ran gwasanaethau bysiau a nifer y teithwyr Mae'r ddarpariaeth o ran gwasanaethau bysiau a nifer y teithwyr sy'n eu defnyddio wedi gostwng yng Nghymru (Ffigur 1). Mae Adroddiadau Blynyddol y Comisiynwyr Traffig yn dangos bod nifer y gwasanaethau bysiau oedd wedi'u cofrestru yng Nghymru wedi gostwng tua 25 y cant rhwng mis Mawrth 2005 a Mawrth 2014. Mae ystadegau chwarterol yr Adran Drafnidiaeth o ran bysiau yn dangos bod teithiau teithwyr bysiau hefyd wedi gostwng erbyn mis Mawrth 2015, tua 18 y cant o gymharu â'u nifer uchaf yn 2008-09. Mae'r gostyngiad hwn yn nifer y teithwyr yn fwy yng Nghymru nag yn unrhyw ran arall o Brydain. O’i gymharu, mae teithiau bws yn Lloegr y tu allan i Lundain wedi gostwng ychydig dros 6% yn yr un cyfnod, ac ychydig o dan 16% yn yr Alban. Yn ystod ei ymchwiliad, mae'r Pwyllgor Menter a Busnes yn bwriadu edrych i mewn i sefyllfa bresennol y sector bysiau a thrafnidiaeth gymunedol yng Nghymru, gan gynnwys y rhesymau dros y gostyngiad diweddar mewn gwasanaethau bysiau cofrestredig a nifer y teithwyr bysiau fel ei gilydd. Bydd hefyd yn edrych ar effaith gymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd y gostyngiad diweddar mewn gwasanaethau bysiau a nifer y teithwyr.   Bus Cym Ffigur 1: Teithiau teithwyr ym Mhrydain ar wasanaethau bysiau lleol yn ôl gwlad (Mynegai: 2004-05 = 100). Ffynhonnell: Cyfres Ystadegau Bysiau Yr Adran Drafnidiaeth,  niferoedd teithwyr yn BUS0106 (nodiadau a diffiniadau o'r ystadegau hyn) Polisi bysiau yng Nghymru Mae'r polisi bysiau yng Nghymru wedi newid yn sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf, gyda newidiadau i fecanweithiau a lefelau ariannu Llywodraeth Cymru. Er enghraifft, ym mis Ionawr 2014, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth y byddai'n disodli'r Grant Gwasanaethau Trafnidiaeth Rhanbarthol ac yn ei le yn rhoi Grant Cymorth Gwasanaethau Bysiau a fyddai wedi'i ddyrannu'n uniongyrchol i awdurdodau lleol. Mewn termau real arweiniodd hyn at doriadau yn yr arian. Am ragor o fanylion, gweler yr erthyglau blaenorol ar Ariannu gwasanaethau bysiau a Newidiadau i gynllunio ac ariannu trafnidiaeth yng Nghymru. Yn ogystal â hyn, diddymwyd y Consortia Trafnidiaeth Rhanbarthol y llynedd. Comisiynodd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth adolygiad o'r polisi bysiau a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2014. Roedd yr adolygiad yn canolbwyntio ar; fesurau i wella perfformiad masnachol gweithredwyr i leihau eu dibyniaeth ar gymhorthdal ​​cyhoeddus; hygyrchedd ar gyfer teithwyr anabl; ac opsiynau i gefnogi anghenion cludiant pobl ifanc. Mae'r adroddiad yn gwneud 29 o argymhellion, gan gynnwys argymhellion ar gyfer gweithredu gan awdurdodau lleol, gweithredwyr bysiau, Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill er mwyn cydweithio'n agosach i drefnu ac integreiddio gwasanaethau bysiau yn fwy effeithiol. Yn dilyn hyn mae'r Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol newydd yn ymrwymo i weithredu'r 'ymatebion i'r argymhellion sy'n codi o'r adolygiad polisi bysiau'. Yn ystod ei ymchwiliad bydd y Pwyllgor Menter a Busnes yn ymchwilio i'r camau y dylid eu cymryd i sicrhau bod gwasanaethau bysiau a thrafnidiaeth gymunedol yn diwallu anghenion Cymru. Datganoli pwerau Er mai Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am gyllid a pholisïau bysiau yng Nghymru, cafodd y diwydiant bysiau ei ddadreoleiddio yn ystod yr 80au ac ni all y Cynulliad ddeddfu ar hyn o bryd i newid y trefniadau rheoleiddio bysiau yng Nghymru. Gosododd Llywodraeth y DU gynigion i ddatganoli pwerau dros gofrestru bysiau yn ei Phapur Gorchymyn - 'Powers for a Purpose: Towards a Lasting Devolution Settlement' ym mis Chwefror 2015. Fodd bynnag, nid oes unrhyw gynigion i ddatganoli pwerau ehangach o ran rheoleiddio bysiau wedi’u gosod hyd yma, ond mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y cred fod angen datganoli’r pwerau hyn. Yn ystod ei ymchwiliad mae'r Pwyllgor Menter a Busnes yn bwriadu edrych ar fanteision posibl neu fel arall datganoli pwerau cofrestru bysiau, ac a fyddai pwerau pellach i reoleiddio'r diwydiant bysiau yn ddymunol. Bydd y Pwyllgor Menter a Busnes yn cymryd tystiolaeth gan randdeiliaid yn ystod y misoedd nesaf wrth i'r ymchwiliad fynd yn ei flaen.