Canlyniadau TGAU a Bagloriaeth Cymru

Cyhoeddwyd 21/08/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

21 Awst 2014 Erthygl gan Sian Hughes, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_1521" align="alignnone" width="300"]Llun: o Geograph gan David Hawgood.  Dan drwydded Creative Commons. Llun: o Geograph gan David Hawgood. Dan drwydded Creative Commons.[/caption] Heddiw yw'r diwrnod y mae myfyrwyr yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn cael eu canlyniadau TGAU. Yn yr un modd â chanlyniadau Safon Uwch, mae'r Cyd-gyngor Cymwysterau (sefydliad aelodaeth sy'n cynnwys saith darparwr cymwysterau'r DU) yn cyhoeddi crynodebau o'r canlyniadau. Dengys data'r Cyd-gyngor Cymwysterau ganlyniadau cyfunol y rhai a gofrestrodd gyda'r cyrff dyfarnu sy'n aelodau. Canlyniadau Mae'r data yn y tablau isod yn cymharu'r canlyniadau ar gyfer 2013 a 2014. Mae'r gymhariaeth hon yn seiliedig ar y data a gyhoeddwyd gan y Cyd-gyngor Cymwysterau ar y diwrnod canlyniadau yn 2013. Mae'r data yn rhai dros dro ac yn dangos y sefyllfa adeg cyhoeddi'r canlyniadau. Caiff y data eu gwirio cyn i'r data terfynol gael eu cyhoeddi ar lefel genedlaethol (Cymru), yr awdurdod lleol ac ar lefel ysgolion. Cymharu 2013 a 2014
  • Yng Nghymru, mae nifer y graddau A* wedi cynyddu ymhlith merched (0.2%) ac ymhlith pob disgybl (0.1%). Mae canran y bechgyn sy'n cyflawni gradd A* wedi aros yr un fath;
  • Cafwyd cynnydd bach yng nghanran y rhai sy'n cyflawni'r graddau uchaf sef A*–A;
  • Cafwyd ychydig yn fwy o gynnydd (o gymharu â'r cynnydd mewn graddau A*–A) yn nifer y rhai sy'n cyflawni graddau A*–C, gyda 0.9% o gynnydd ymhlith pob disgybl, 0.8% ymhlith bechgyn a 0.9% ymhlith merched;
  • Roedd gostyngiadau bach yn y gyfradd lwyddo gyffredinol (graddau A*–G);
  • Yn Lloegr, cafwyd cynnydd yng nghanran yr holl ddisgyblion, bechgyn a merched a gyflawnodd raddau A*–C (0.7%, 0.4% a 0.7% yn y drefn honno). Roedd gostyngiadau ar bob lefel ac eithrio ymhlith bechgyn sy'n cyflawni graddau A*–A, sy'n parhau i fod yr un fath â 2013.
Bechgyn a merched
  • Mae merched yn parhau i sicrhau canlyniadau gwell na bechgyn ar bob lefel yng Nghymru a Lloegr;
  • Yng Nghymru, mae'r bwlch wedi cynyddu ar bob lefel ers 2013.
Cymru a Lloegr
  • Ar raddau A*–G, perfformiodd y merched yng Nghymru ychydig yn well na'r rhai yn Lloegr (gan 0.1%). Roedd perfformiad yr holl ddisgyblion a bechgyn yr un fath yng Nghymru a Lloegr. Ar bob gradd arall, roedd cyflawniad yn uwch yn Lloegr na Chymru, ond mae'r bwlch yn parhau i leihau.
Mae tablau 1 a 2 yn dangos y ganran a gofrestrodd ym mhob pwnc fesul gradd ar gyfer Cymru a Lloegr yn 2014 a 2013. Table 1 Cym Ffynhonnell: Y Cyd-Gyngor Cymwysterau, Canlyniadau TGAU a Thystysgrif Lefel Mynediad Haf 2014 Table 2 Cym Ffynhonnell: Y Cyd-Gyngor Cymwysterau, Canlyniadau TGAU a Thystysgrif Lefel Mynediad Haf 2013 Bagloriaeth Cymru Cafodd canlyniadau Diploma Canolradd a Diploma Sylfaen Bagloriaeth Cymru eu cyhoeddi heddiw hefyd. Mae canran y disgyblion sy'n cyflawni'r Diploma a'r Dystysgrif Graidd ar y ddwy lefel wedi cynyddu. Roedd nifer yr ymgeiswyr a gwblhaodd y rhaglen lefel Sylfaen yn llai na'r llynedd. Table 3 Cym Table 4 Cym Ffynhonnell: Datganiad i'r wasg gan Lywodraeth Cymru Newidiadau i arholiadau Yn dilyn llawer o bryderon am ganlyniadau TGAU Iaith Saesneg yn ystod haf 2012, datblygodd Llywodraeth Cymru feini prawf pwnc diwygiedig ar gyfer y cymhwyster yng Nghymru.   Mis Ionawr 2014 oedd y cyfle cyntaf i asesu'r drefn hon, a mynegwyd pryderon am ganlyniadau is na'r disgwyl ymhlith disgyblion a gofrestrodd i sefyll yr arholiadau'n gynnar. Cynhaliwyd ymarfer i ganfod y ffeithiau am ganlyniadau Saesneg mis Ionawr 2014, a daethpwyd i'r casgliad nad oedd yr un ffactor unigol wedi arwain at ganlyniadau is na'r disgwyl ym mis Ionawr 2014. Daeth nifer o faterion i'r amlwg a allai fod wedi cael effaith, fel y nifer uwch o ddysgwyr a gofrestrodd i sefyll yr arholiadau hyn yn gynnar. Yn ôl yr adroddiad, disgwyliwyd i'r cohort o ddysgwyr a safodd eu harholiadau yn ystod haf 2014 gyflawni canlyniadau lled debyg, yn yr arholiad TGAU Iaith Saesneg, i'r grŵp oedran o ddysgwyr a safodd eu harholiadau yn ystod haf 2013. Mae data'r Cyd-gyngor Cymwysterau a gyhoeddwyd heddiw (sy'n darparu data ar gyfer pob oedran ar bob cam arholi) yn dangos rhywfaint o ostyngiad o ran cyflawniad mewn TGAU Saesneg yng Nghymru. Fodd bynnag, dywed y Gweinidog Addysg a Sgiliau fod canlyniadau A*–C ymhlith ymgeiswyr 16 oed 62.6% yn uwch, gan 0.6 pwynt canran, nag yr oeddent yn ystod haf 2013. Awgrymwyd y gallai ysgolion yn Lloegr weld rhywfaint o amrywiaeth yn eu canlyniadau yn dilyn y newidiadau i gymwysterau TGAU yn Lloegr a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2011, a oedd yn golygu y câi cymwysterau TGAU eu hasesu mewn ffordd unionlin (linear) yn hytrach na fesul modiwl, ac felly bod unrhyw asesiad yn digwydd ar ddiwedd y cwrs. Y canlyniadau heddiw yw'r cyntaf i'w cyhoeddi o dan y drefn unionlin.