Cyhoeddi Cynllun Gweithredu cyntaf Fframwaith Cymru ar Iechyd a Lles Anifeiliaid

Cyhoeddwyd 01/09/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

01 Medi 2015 Erthygl gan Candice Boyes, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_3709" align="alignnone" width="682"]goats-191788_1280 Llun o Pixabay gan JamesDeMers, Trwyddedwyd o dan Creative Commons[/caption] Cefndir Ar 17 Gorffennaf 2015, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, Rebecca Evans, fod Cynllun Gweithredu cyntaf Fframwaith Cymru ar Iechyd a Lles Anifeiliaid (PDF, 655.9KB) wedi cael ei gyhoeddi. Mae'r Cynllun yn nodi blaenoriaethau'r Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid a Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16. Boxed text-cy Blaenoriaethau ar gyfer 2015-16 Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru Mae'r Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid yn rhestru nifer o flaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn, gyda phwyslais cryf ar wella bioddiogelwch. Dywedodd Cadeirydd y grŵp, Peredur Hughes, yn y Cynllun Gweithredu:
Ein prif neges ar gyfer 2015/16 yw ein bod yn rhoi safonau bioddiogelwch uchel wrth wraidd popeth a wnawn, a'n bod yn annog eraill i wneud yr un fath. Bydd y Grŵp yn gweithio'n galed dros y misoedd nesaf i godi ymwybyddiaeth a hefyd i sicrhau y caiff negeseuon eu cynnwys mewn cynigion, er enghraifft trwy Gynllun Datblygu Gwledig Cymru. Trwy arferion hwsmonaeth da, mabwysiadu safonau lles uchel a mesurau atal clefydau, gallwn leihau'r tebygolrwydd o dda byw yn cael clefyd, neu'n ei ledaenu.
Mae'r blaenoriaethau eraill a amlinellwyd gan y Grŵp yn y Cynllun yn cynnwys:
  • Ymwrthedd i gyffuriau;
  • Dolur rhydd feirysol buchol;
  • Ymgysylltu â'r sector lles (ceffylau ac anifeiliaid anwes)
  • Y clafr; a
  • Chyfrannu at y Cynllun Gweithredu ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod 2014-20.
Llywodraeth Cymru Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn rhestru bioddiogelwch fel maes i roi pwyslais allweddol arno ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod - yn arbennig o ran rheoli TB buchol yng Nghymru. Dywed yr Athro Christianne Glossop , Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, yn adran Llywodraeth Cymru o'r Cynllun:
Rydym yn parhau'n gwbl ymrwymedig i'n hymdrechion i ddileu TB buchol yng Nghymru. Mae ein dull yn dangos buddion gweithio mewn partneriaeth trwy'r Byrddau Dileu TB a symud mentrau ymlaen megis Cymorth TB. Mae hefyd yn dangos y cyfleoedd i uno ein hymdrechion i helpu i fynd i'r afael â chlefydau anifeiliaid yn ehangach.
Mae meysydd blaenoriaeth eraill a nodwyd yn cynnwys:
  • Iechyd gwenyn;
  • Enseffalopathi Sbyngffurf Buchol (BSE);
  • Cynllunio wrth gefn;
  • Perchenogaeth gyfrifol ar gŵn;
  • Salmonela;
  • Clefyd y crafu;
  • Cadw Gwyliadwriaeth 2014;
  • Lles anifeiliaid adeg eu lladd; a'r
  • Gwaharddiad symud chwe diwrnod.
Ymateb rhanddeiliaid Mae RSPCA Cymru wedi croesawu'r ymrwymiadau a wnaed yn y cynllun gweithredu, gan nodi bod llawer o'r materion a amlinellwyd yn cyd-fynd â chamau y mae'r sefydliad wedi bod yn ymgyrchu drostynt. Meddai Claire Lawson o RSPCA Cymru:
We welcome the many commitments that have been laid out in the new Wales Animal Health and Welfare Framework plan for 2015/2016. There are two new areas in the plan that we are pleased to see due to our current activities and campaigning work on these issues. The commitments to establish a working group and investigate standards at slaughter are particularly welcome given our high profile campaign on ending the practice of non-stunned slaughter. We also welcome work to investigate the role of animal welfare in influencing purchasing decisions given our initiatives on food assurance and campaigns for higher welfare labelling. It is also very pleasing to see several commitments on dog welfare, given the work that we are currently leading as part of the Review on Responsible Dog Ownership in Wales. We look forward to engaging in further discussions around dog breeding, shock collars and the code of practice for dogs.
View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg