Ffeithlun wedi'i DDIWEDDARU: Bil yr Amgylchedd

Cyhoeddwyd 04/09/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

04 Medi 2015 Erthygl gan Nia Seaton a David Millet, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Ar ôl derbyn y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru, rydym wedi cyhoeddi fersiwn wedi'i diweddaru o'n ffeithlun er mwyn ceisio dangos sut y gallai'r gofynion newydd i gyflwyno adroddiadau yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, Deddf Cynllunio 2015 a Bil yr Amgylchedd gyd-fynd â'i gilydd o bosibl. Fel yr eglurwyd yn y ffeithlun, arweiniad yw'r llinell amser ac ni fwriedir iddo fod yn ddatganiad diffiniol. Y nod yw iddo helpu Aelodau a rhanddeiliaid i ystyried sut y gallai'r gwahanol ddyletswyddau yn y ddeddfwriaeth gyd-fynd â'i gilydd dros y deng mlynedd nesaf. Mae'n seiliedig ar y wybodaeth orau sydd ar gael inni ar hyn o bryd, a gallai newid eto wrth i benderfyniadau gael eu gwneud ynglŷn â gweithredu'r ddeddfwriaeth, ac wrth i Fil yr Amgylchedd barhau ar ei daith drwy'r Cynulliad. Environment Bill Plans and Reports (welsh) WG amendments-01Environment Bill Plans and Reports (welsh) WG amendments-02 View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg