Gweinidog yn defnyddio pwerau newydd i gysoni dyddiadau tymhorau ysgolion yn 2016/17

Cyhoeddwyd 09/09/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

9 Medi 2015 Erthygl gan Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_3738" align="alignnone" width="300"]This is a picture of an empty school playinmg field Llun: o Google Images. Dan drwydded Creative Commons.[/caption]

Wrth i’r flwyddyn ysgol newydd ddechrau, bydd nifer o rieni a staff ysgolion yn croesawu’r ffaith mai hon fydd y flwyddyn olaf pan fydd tymhorau ysgolion (ac, felly, gwyliau ysgolion) yn amrywio o’r naill awdurdod lleol a’r llall a hyd yn oed o’r naill ysgol a’r llall yn yr un ardal, ar wahân i rai eithriadau prin.

Yn gynharach yn yr haf, cyhoeddodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Huw Lewis, ei fod am ddefnyddio’r pwerau newydd a roddwyd iddo yn dilyn deddfwriaeth a wnaed gan y Cynulliad yn ddiweddar i roi cyfarwyddyd i awdurdodau lleol ac ysgolion ar ddyddiadau tymhorau 2016/17. Penderfynodd wneud hyn gan fod yr awdurdodau lleol eu hunain yn methu cytuno ar ddyddiadau cyffredin. Roedd hyn, ynddo’i hun, yn amlygu’r angen i roi pwerau o’r fath i’r Gweinidog er mwyn i Lywodraeth Cymru gyflawni’i nod o gysoni dyddiadau tymhorau ysgolion ledled Cymru.

Dim ond yn ddiweddar y rhoddwyd y pŵer cyfarwyddo hwn i’r Gweinidog a hynny drwy Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 (adran 42) a’r flwyddyn ysgol gyntaf y bydd y Ddeddf hon yn gymwys iddi yw 2016/17. Roedd Llywodraeth Cymru wedi dadlau bod yr amrywiaeth yn nyddiadau’r tymhorau’n creu anhwylustod a chostau gofal plant ychwanegol i deuluoedd os oedd ganddynt blant mewn gwahanol ysgolion a oedd â dyddiadau tymhorau gwahanol neu deuluoedd a oedd yn gweithio mewn ysgolion oedd â dyddiadau tymhorau gwahanol i ysgolion eu plant. Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad yn 2012 cyn cyflwyno’r ddeddfwriaeth.

Mae Lloegr yn dilyn trywydd arall, gan y bydd Deddf Dadreoleiddio 2015 yn trosglwyddo penderfyniadau ynghylch dyddiadau tymor ysgol o'r awdurdodau lleol i'r ysgolion unigol. O ganlyniad, bydd yr amrywiaeth yn fwy, nid llai, sef yr hyn a fydd yn digwydd yma. Mae papur briffio gan Lyfrgell Tŷ'r Cyffredin yn esbonio'r sefyllfa yn Lloegr ymhellach. Mae academïau ac ysgolion rhydd eisoes yn penderfynu drostynt eu hunain ynghylch tymhorau ysgol.

Ymateb yn ystod y gwaith o graffu ar y ddeddfwriaeth

Wrth iddo graffu ar y Ddeddf Addysg (Cymru), sylweddolodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg fod y cynnig i gysoni dyddiadau tymhorau ysgolion yn cael ei groesawu’n gyffredinol. Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) (pdf 722KB) fod sawl ymdrech wedi’i wneud i annog awdurdodau lleol i bennu dyddiadau safonol ond ofer fu’r ymdrechion hyn. Roedd CLlLC, felly, yn croesawu’r ddarpariaeth i’r Gweinidog ymyrryd pan fo angen.

Roedd yr ymatebion i’r holiadur ar-lein a drefnwyd gan dîm Allgymorth y Cynulliad (pdf 274KB) hefyd yn dangos cefnogaeth gref i gysoni dyddiadau tymhorau ysgolion. O’r 428 a atebodd y cwestiwn, byddai’n well gan 61 y cant pe bai’r dyddiadau’r un fath ar hyd a lled Cymru. Roedd 17 y cant yn anghytuno a 22 y cant yn ansicr.

Un eithriad oedd y pryder ymhlith cynrychiolwyr addysg ffydd. Dywedodd y Gwasanaeth Addysg Gatholig (pdf 549KB) ei bod yn hanfodol caniatáu i ysgolion Catholig bennu eu dyddiadau eu hunain er mwyn iddynt fedru glynu wrth ddysgeidiaeth yr Eglwys, yn enwedig yn ystod cyfnod y Pasg. Fel mae’n digwydd, yn ôl y dyddiadau a bennwyd gan y Gweinidog ar gyfer 2016/17, bydd ysgolion yn cau ar gyfer gwyliau’r Pasg cyn dechrau Wythnos y Pasg yn hytrach nag ar ddydd Iau Cablyd, pan fyddai’n well gan ysgolion Catholig gau. Mae rhagor o wybodaeth i’w chael am hyn yn ddiweddarach yn yr erthygl hon.

Y sefyllfa gyfreithiol newydd

Os yw ysgol yn ysgol sefydliedig neu’n ysgol wirfoddol a gynhelir, y corff llywodraethu sy’n pennu dyddiadau tymhorau’r ysgol. Yr awdurdod lleol sy’n pennu’r dyddiadau ar gyfer yr holl ysgolion eraill a gynhelir.

Fodd bynnag, yn ystod blwyddyn academaidd 2016/17, ac wedyn, os na all awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu gytuno ar ddyddiadau cyffredin, caiff Gweinidogion Cymru (sef y Gweinidog Addysg a Sgiliau yn yr achos hwn) roi cyfarwyddyd i’r awdurdodau a’r cyrff llywodraethu hynny bennu dyddiadau tymhorau penodol.

Ychwanegodd Deddf Addysg (Cymru) 2014 is-adrannau newydd at Ddeddf Addysg 2002 a oedd:

  • Yn gyntaf, yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu (os nhw sy’n gyfrifol) gydweithredu a chydgysylltu â’i gilydd i sicrhau bod dyddiadau tymhorau ysgolion a gynhelir yng Nghymru yr un fath â’i gilydd neu mor debyg â phosibl.
  • Yn ail, yn rhoi’r pŵer i’r Gweinidog roi cyfrwyddyd i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu bennu dyddiadau tymhorau penodol, os na allant gysoni’r dyddiadau eu hunain.

Ar ôl i’r Gweinidog ystyried y dyddiadau y bydd awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu’n bwriadu eu pennu, os bydd yn dymuno defnyddio’i bwerau i roi cyfarwyddyd iddynt bennu dyddiadau eraill, rhaid iddo gynnal ymgynghoriad ynghylch y dyddiadau hynny. Ar ôl hynny, caiff y Gweinidog rio cyfarwyddyd ynghylch pennu dyddiadau tymhorau ysgolion a gynhelir yng Nghymru, gan sicrhau eu bod yn cael eu cysoni.

Os yw’r Gweinidog yn ymyrryd, nid oes raid iddo bennu’r un dyddiadau ar gyfer tymhorau pob ysgol. Ar hyn, hyd yn oed os yw awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu wedi cytuno ar ddyddiadau cyffredin, caiff y Gweinidog bennu dyddiadau eraill os nad yw’n credu bod y dyddiadau y cytunwyd arnynt yn briodol.

Beth sydd wedi digwydd i ddyddiadau tymhorau ysgolion yn 2016/17?

Blwyddyn ysgol 2016/17 yw’r flwyddyn gyntaf y bydd y darpariaethau cyfreithiol yn gymwys iddi.

Mae dogfen sy’n dwyn y teitl Penderfyniad y Gweinidog ar ddyddiadau tymhorau ysgolion ar gyfer 2016/17 (pdf 1MB) ac sydd ar wefan Llywodraeth Cymru yn esbonio’r broses a ddilynodd Llywodraeth Cymru, gan gynnwys manylion y dyddiadau roedd yr awdurdodau lleol wedi bwriadu eu pennu, yr ymgynghoriad a gynhaliodd Llywodraeth Cymru ynghylch y dyddiadau cyffredin roedd yn bwriadu eu pennu, a phenderfyniad a chyfarwyddyd terfynol y Gweinidog.

Cafodd Llywodraeth Cymru wybodaeth gan bob awdurdod lleol ac eithrio Sir Gaerfyrddin am y dyddiadau roeddent yn bwriadu eu pennu. Fodd bynnag, er y gellir grwpio’r rhain i ryw raddau’n ôl ddyddiadau cyffredin, roedd amrywiaeth o hyd yn y Gogledd, a rhwng y De ar Gogledd.

Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ynghylch y dyddiadau arfaethedig rhwng 10 Tachwedd 2014 a 2 Chwefror 2015, (gan fod y Gweinidog wedi penderfynu, ar sail y dyddiadau arfaethedig a oedd wedi’u cyflwyno, fod angen rhoi cyfarwyddyd). Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru grynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad a gwelwyd bod tri chwarter o’r ysgolion Catholig a ymatebodd yn fodlon cyd-fynd â’u hawdurdodau lleol a dechrau gwyliau’r Pasg cyn dechrau Wythnos y Pasg. Roedd holl ysgolion yr Eglwys yng Nghymru a anfonodd eu dyddiadau’n fodlon i’w gwyliau Pasg ddechrau cyn Wythnos y Pasgd, fel yr ysgolion eraill yn eu hardal.

Yn ei ddatganiad ar 24 Mehefin 2015, cyhoeddodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau ei fod yn defnyddio’i bŵer cyfarwyddo ac yn pennu dyddiadau tymhorau ysgolion 2016/17 ei hun. Mae dyddiadau’r tymhorau ysgolion eu hunain wedi’u cynnwys yn y datganad hwnnw. O ran amseru gwyliau’r Pasg, dywedodd y Gweinidog ei fod yn sylweddoli bod rhai pryderon, ond credai bod y dyddiadau roedd wedi’u pennu’n adlewyrchu dymunidadau’r mwyafrif, gan gynnwys y rhan fwyaf o’r ysgolion ffydd.

Efallai mai’r hyn sy’n arwyddocaol yw’r ffaith bod y Gweinidog wedi gorfod defnyddio’i bŵer cyfarwyddo cyfreithiol i gysoni dyddiadau tymhorau a gwyliau ysgolion, y tro cyntaf y bu modd iddo wneud hynny.

View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg