Cyfeiriad newydd o ran teithio ar gyfer Cymru?

21 Medi 2015

Erthygl gan Andrew Minnis, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cendelaethol 2015 - Clawr Adroddiad

Bydd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth y Llywodraeth yn gwneud datganiad am y Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol newydd 2015 ddydd Mawrth 22 Medi.

Paratowyd y blog hwn i roi ychydig o wybodaeth gefndir am ddatblygiad a diben y cynllun, a’r hyn y mae Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth wedi’i ddweud amdano hyd yma.

Cefndir

Cyhoeddwyd y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol cyntaf yn 2010, a daeth i ben ym mis Ebrill 2015.

Cyhoeddwyd drafft ymgynghorol ar y cynllun newydd, y cyfeirir ato yn syml fel y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol drafft, ar gyfer ymgynghori arno rhwng mis Rhagfyr 2014 a mis Mawrth 2015.

Ar ôl ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad cyhoeddwyd y cynllun terfynol, (a ailenwyd) y Cynllun Ariannu Trafnidiaeth Cenedlaethol 2015 ar 16 Gorffennaf 2015.

Mae’r cynllun yn ei gwneud yn glir “nad dogfen bolisi” mohoni. Yn hytrach Strategaeth Drafnidiaeth Cymru (y strategaeth) “sy’n nodi’r fframwaith polisi”, tra bod y cynllun ei hun yn rhestru’r “cynlluniau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu darparu ar draws y gwahanol feysydd polisi trafnidiaeth y mae’n gyfrifol amdanynt”.

Wedi’i chyhoeddi yn 2008, mae’r strategaeth statudol hon yn nodi sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflawni ei hamcanion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol drwy ddilyn pum blaenoriaeth strategol (llai o effeithiau nwyon tŷ gwydr / effeithiau amgylcheddol, integreiddio trafnidiaeth, gwell mynediad at aneddiadau a safleoedd allweddol, gwell cysylltedd rhyngwladol, a gwell diogelwch).

Ymgynghori ar y cynllun drafft

Cafodd Llywodraeth Cymru 161 o ymatebion i’r ymgynghoriad, a chyhoeddodd grynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad.

Dywed y crynodeb bod yr ymatebwyr ar y cyfan yn gefnogol i’w gynnwys. Fodd bynnag, codwyd nifer sylweddol o faterion, yn amrywio o gyflwyniad y cynllun (ei strwythur / ei hyd), i faterion yn ymwneud â sylwedd y cynllun, gan gynnwys:

  • Yr angen am gysylltiadau cliriach rhwng y cynllun a’r strategaeth, yn enwedig ar yr amgylchedd;
  • Gwahanol safbwyntiau ar y blaenoriaethau ar gyfer ymyriadau (er enghraifft, ffyrdd o’u cymharu â rheilffyrdd); a
  • Phryderon am amserlenni a’r cyllid sydd ar gael.

Mae manylion llawn am y materion a godwyd, ac ymateb Llywodraeth Cymru, wedi’u cynnwys yn y crynodeb.

Y Cynllun Terfynol.

Cyhoeddwyd y cynllun terfynol mewn dwy ddogfen (y cynllun ei hun a dogfen ar wahân sy’n cynnwys gwybodaeth am y cyd-destun a’r dystiolaeth sylfaenol).

Noda’r cynllun mai ei bwrpas yw:

Darparu’r amserlen ar gyfer cynlluniau cyllido yr ymgymerir â hwy gan Lywodraeth Cymru;

Darparu’r amserlen ar gyfer darparu’r cynlluniau hyn a manylion y gwariant amcangyfrifedig a fydd ei angen i ddarparu’r cynlluniau;

Nodi’r ffynhonnell ariannu debygol a fydd yn caniatáu i’r cynlluniau gael eu darparu.

Mae Atodiad A yn cynnwys amserlen ar gyfer darparu oddeutu 110 o fentrau refeniw a chyfalaf, y mae rhai ohonynt wedi’u hisrannu’n rannau lluosog. Mae’r cynlluniau wedi’u nodi ar gyfer dwy amserlen wahanol:

  • Cynlluniau i’w darparu rhwng mis Ebrill 2015 a mis Mawrth 2020; a
  • Chynlluniau i’w darparu “yn y tymor canolig” (ar ôl Ebrill 2020).Mae Rhan 4 yn disgrifio’r ffynonellau cyllid sydd ar gael ar gyfer eu darparu. Mae amrywiaeth o ffynonellau cyllid cyhoeddus a phreifat yn cael eu nodi. Fodd bynnag, ar wahân i brosiectau Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, ni nodir manylion y cyllid a ddarperir i gynlluniau unigol.

Mae Atodiad B yn rhoi manylion am y cynlluniau hynny sydd i gael eu hariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF), gyda’r costau dangosol a ffynonellau o arian cyfatebol.

Mae crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad yn cyfeirio at y ffaith y bydd:

y Cynllun terfynol yn cynnwys ymrwymiad i fonitro a gwerthuso’n ystyrlon, a bydd yr amserlen cyflenwi yn cael ei hadolygu’n rheolaidd er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i sicrhau’r canlyniadau gorau a gwerth am arian i gefnogi dyheadau’r Cynllun terfynol.

Fodd bynnag, er bod y drafft ar gyfer ymgynghori arno yn cynnwys adran ar fonitro a gwerthuso, mae hon wedi’i hepgor o’r cynllun terfynol.

Yr hyn a ddywedodd y Gweinidog am y Cynllun

Dywed datganiad ysgrifenedig y Gweinidog, a gyhoeddwyd gyda’r Cynllun, ei fod “yn cadw’r ddysgl yn wastad rhwng buddsoddiadau mawr yn y ffyrdd, gwelliannau i’r system drafnidiaeth gyhoeddus ac annog teithio cynaliadwy”.

Mae’n dweud nad oedd y proffil darparu yn sefydlog:

gallai proffil cyflenwi pob cynllun fod yn agored i’w newid am amryw o resymau megis o ganlyniad i’r prosesau statudol a ddilynir, setliadau cyllidebol yn y dyfodol neu newidiadau o ran arloesi. Bydd angen inni ymateb i amgylchiadau sy’n newid, ac felly bydd y cynllun yn cael ei adolygu’n rheolaidd a’i gyhoeddi fel y bo pawb yn gallu gweld cynnydd ein rhaglen.

Mae hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod y cynllun yn cynnwys rhaglen ar gyfer gweithredu mewn meysydd heb eu datganoli, a hefyd mewn meysydd lle mae cytundeb ar ddatganoli pellach wedi bod â Llywodraeth y DU, ond nad yw’r pwerau wedi’u trosglwyddo i’r Cynulliad na Gweinidogion Cymru hyd yma:

Gan nad yw’r cyfrifoldeb am seilwaith y rheilffyrdd yng Nghymru wedi cael ei ddatganoli, mae’r Cynllun yn cynnwys ymrwymiadau i barhau i bwyso ar Lywodraeth y DU a Network Rail i fuddsoddi yn rhwydwaith y rheilffyrdd. Bydd trydaneiddio a moderneiddio rhwydwaith y rheilffyrdd yn creu potensial sylweddol i weddnewid y system drafnidiaeth yng Nghymru.

Yn ogystal â thargedu gwelliannau i’r seilwaith, mae’r Cynllun yn cynnwys cynigion i fraenaru’r tir ar gyfer cymryd cyfrifoldeb am bennu a dyfarnu’r fasnachfraint nesaf ar gyfer Cymru a’r Gororau.