Band eang y genhedlaeth nesaf yng Nghymru: datblygiadau dros yr haf

Cyhoeddwyd 22/09/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

22 Medi 2015 Erthygl gan Robin Wilkinson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_3811" align="alignnone" width="640"]Peiriannydd yn gweithio ar Superfast Cymru Llun: Flikr gan btphotosbduk Dan drwydded Creative Commons[/caption] Beth yw rhaglen Cyflymu Cymru? Prosiect Llywodraeth Cymru a BT yw rhaglen Cyflymu Cymru. Ei nod yw cyflwyno band eang ffeibr y genhedlaeth nesaf (a fydd yn cynnig cyflymder o 24 megabit neu ragor yr eiliad) i 96 y cant o Gymru erbyn diwedd 2016. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio tuag at gysylltu'r 4 y cant sy'n weddill o'r adeiladau anodd eu cyrraedd erbyn diwedd 2016 hefyd, drwy ddefnyddio cynlluniau wedi'u targedu megis Allwedd Band Eang Cymru a phrosiectau "mewnlenwi". Beth mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi'i ddweud? Ym mis Mai 2015, cyhoeddodd Swyddfa Archwilio Cymru ei adroddiad ar Fuddsoddiad Llywodraeth Cymru yn seilwaith band eang y genhedlaeth nesaf. Daeth hwn i'r casgliad bod Llywodraeth Cymru "yn gwneud cynnydd rhesymol" wrth gyflwyno mynediad i wasanaethau band eang y genhedlaeth nesaf. Gwnaeth yr Archwilydd Cyffredinol argymhellion hefyd, gan gynnwys y canlynol:
  • Dylai Llywodraeth Cymru barhau i adolygu ei weithgareddau marchnata er mwyn gwella gwybodaeth am gyflwyno band eang y genhedlaeth nesaf yn lleol.
  • Dylai Llywodraeth Cymru bennu targed i ymgyrraedd ato ynglŷn â defnyddio gwasanaeth band eang y genhedlaeth nesaf (ar yr adeg hon nid oedd targed o'r fath yn bodoli). Dylai hefyd gasglu gwybodaeth i ddangos y defnydd gall busnesau ac unigolion ei wneud o fand eang y genhedlaeth nesaf.
  • Mae'r defnydd o Allwedd Band Eang Cymru wedi bod yn isel . Felly, dylai Llywodraeth Cymru adolygu gweithrediad y cynllun hwn.
  • Dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu strategaeth rheoli manteision i wneud y gorau o fuddiannau ehangach mynediad at fand eang y genhedlaeth nesaf ar gyfer unigolion, busnesau a'r sector cyhoeddus.
Beth mae'r Dirprwy Weinidog wedi'i ddweud? Ym mis Gorffennaf 2015 cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg ddatganiad am raglen Cyflymu Cymru lle bu'n trafod rhai o gasgliadau adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru. Roedd y pwyntiau a wnaed ganddi'n cynnwys:
  • Mae gwaith yn mynd rhagddo ar gynllun i olynu Allwedd Band Eang Cymru i alluogi safleoedd y tu allan i gwmpas rhaglen Cyflymu Cymru gael mynediad at fand eang y genhedlaeth nesaf. Trafododd hi'r cynllun hwn hefyd mewn datganiad ar 21 Mai 2015.
  • Mae Llywodraeth Cymru yn adolygu ei threfniadau cyfathrebu ynghylch rhaglen Cyflymu Cymru.
  • Mae Llywodraeth Cymru wedi pennu targed o 50 y cant ar gyfer y defnydd a wneir o'r rhaglen erbyn diwedd cyfnod gweithredol y contract yn 2024. Ar y pryd, roedd 22 y cant o safleoedd a oedd wedi gallu cael mynediad i raglen Cyflymu Cymru am dros flwyddyn wedi manteisio ar y gwasanaeth.
Beth mae Ofcom wedi'i ddweud? Bob blwyddyn, mae Ofcom yn cyhoeddi adroddiad sy'n edrych ar gyflwr y marchnadoedd cyfathrebu ym mhob un o wledydd y DU. Ym mis Awst 2015 daeth i'r casgliad mai o blith y gwledydd datganoledig Cymru sydd ar y blaen o ran y gwasanaethau band eang cyflym iawn sydd ar gael. Mae bron i bedwar o bob pump (79%) adeilad yng Nghymru yn gallu derbyn band eang cyflym iawn ar gyflymder o 30Mbit yr eiliad erbyn hyn, cynnydd o 24 pwynt canran ers 2014 ( 55%). Nododd Ofcom: Mae defnyddwyr yng Nghymru yn ymateb i'r cynnydd hwn ac mae'r nifer sydd â band eang sefydlog yng Nghymru yn uwch erbyn hyn ar 77% nag yn yr Alban (71%) a Gogledd Iwerddon (69%), ac wedi cynyddu o 69% yn ystod yr un cyfnod y llynedd. This increased from 69% a year ago. Beth mae'r Dirprwy Weinidog yn mynd i'w ddweud? Yn ddi-os, mae rhagor o argaeledd o wasanaethau band eang cyflym a'r defnydd a wneir ohonynt yn newyddion da i Gymru. Yr her o hyd, fel yr amlygwyd gan yr Archwilydd Cyffredinol, yw sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd economaidd a chymdeithasol sy'n codi o hyn. Mae datganiad y Dirprwy Weinidog y prynhawn yma yn canolbwyntio ar sut mae busnesau yn ymelwa o fand eang cyflym iawn . Yn ôl pob tebyg bydd yn ymdrin â sut y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd i fusnesau o ganlyniad i'r cynnydd mewn cysylltedd yng Nghymru. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg