Lluoedd arfog yn recriwtio mewn ysgolion?

Cyhoeddwyd 29/09/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

29 Medi 2015 Erthygl gan Sian Hughes, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yfory (30 Medi), bydd y Cynulliad yn cynnal dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau, Atal Recriwtio i'r Fyddin mewn Ysgolion (pdf 368KB).

[caption id="attachment_3827" align="alignnone" width="640"]•Dyma lun o aelodau o’r lluoedd arfog Prydeinig yn Affganistan. Llun: o Flickr gan Ringyll y Fyddin Brydeinig Frenhinol Andy Cole. Dan drwydded Creative Commons.[/caption]

Mae pryderon am y lluoedd arfog yn recriwtio mewn ysgolion ac yn enwedig mewn ardaloedd o amddifadedd wedi'u codi o'r blaen. Er enghraifft:

Ystyriodd y Pwyllgor Deisebau y ddeiseb gan Gymdeithas y Cymod am y tro cyntaf yn ystod 2012. Cafodd y ddeiseb 374 o lofnodion gyda 700 pellach mewn deiseb all-lein gysylltiedig. Gofynnodd y ddeiseb am annog Llywodraeth Cymru i argymell na ddylai’r lluoedd arfog fynd i ysgolion i recriwtio. Honnodd y Deisebwyr y canlynol:

  • Prydain yw'r unig wlad yn yr Undeb Ewropeaidd sy’n caniatáu presenoldeb milwrol yn ei hysgolion.
  • O 27 gwlad yr Undeb Ewropeaidd, Prydain yw'r unig wlad sy'n recriwtio plant 16 oed i'r lluoedd arfog.
  • Mae'r lluoedd arfog yn targedu ysgolion yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru wrth recriwtio.

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth lafar gan y Deisebwyr, Forces Watch, Ban Schoolyard Recruitment (pdf 510KB) ac Ysgol Uwchradd Prestatyn (pdf 682KB) yn ogystal ag ymgymryd ag ymgynghoriad ysgrifenedig.

Cyngor gyrfaoedd neu recriwtio?

Awgrymodd y Deisebwyr fod y lluoedd arfog yn mynd i ysgolion er mwyn recriwtio. Roeddent hefyd yn dadlau pryd y mae'r lluoedd arfog yn gweithio mewn ysgolion, nid ydynt yn darparu cyngor gyrfaoedd cytbwys a chywir oherwydd nad ydynt yn siarad am yr hawl i adael, y cyfnod o wasanaeth, na graddau'r risg o anaf neu farwolaeth.

Mewn tystiolaeth lafar, clywodd y Pwyllgor gan y Deisebwyr a Forces Watch er y gellid ystyried gwaith y lluoedd arfog mewn ysgolion yn 'hyrwyddo' gallai hyn arwain at recriwtio - er nad yw disgyblion yn cael eu cofrestru yn yr ysgol, mae hyn i gyd yn rhan o'r broses. Fodd bynnag, nid oedd yn bosibl dweud a oedd gwaith y lluoedd mewn ysgolion yn arwain at fwy o recriwtio.

Ysgrifennodd y Gweinidog Personél Amddiffyn, Lles a Chyn-filwyr i'r Pwyllgor gan ailadrodd nad oedd y lluoedd arfog yn recriwtio mewn ysgolion a'u bod yn mynd i ymweld ag ysgolion dim ond ar ôl derbyn gwahoddiad gan yr ysgol ei hun. Canfu arolwg sampl (o 303 o ysgolion) a gymerwyd rhwng mis Mehefin a Gorffennaf 2013 fod 74 y cant o ysgolion yn credu bod y Fyddin yn rhoi cyngor diduedd am yrfaoedd. Teimlai chwe deg un y cant o'r rhai a oedd yn credu efallai na fyddai'r Fyddin yn ddiduedd y byddent yn dal i wahodd y Fyddin i ddarparu cyflwyniadau gyrfaoedd.

Teimlai disgyblion a staff yn Ysgol Uwchradd Prestatyn y dylai'r lluoedd arfog gyflwyno golwg realistig ar yrfa yn y lluoedd ac ni ddylid glamoreiddio'r swydd, ond y dylai pobl ifanc allu penderfynu drostynt eu hunain y manteision a'r anfanteision o gael gyrfa o'r fath. Awgrymwyd hefyd y gall gyrfa yn y lluoedd fod yn ddefnyddiol o ran cael cymwysterau. Clywodd y Pwyllgor hefyd er bod y fyddin yn fodlon ac yn awyddus i weithio gydag ysgolion, gall fod yn fwy anodd i ddod â busnesau eraill neu wasanaethau cyhoeddus i mewn i ysgolion i gynnig cyngor gyrfaoedd. Roedd yn amlwg y byddai arweiniad ynghylch pwy ddylai ddod i mewn i hyrwyddo eu dewisiadau gyrfa yn ddefnyddiol.

Clywodd y Pwyllgor farn gan y Weinyddiaeth Amddiffyn nad yw'n bosibl i gofrestru ar gyfer y Lluoedd Arfog y tu allan i swyddfa recriwtio. Mae recriwtio i'r Lluoedd Arfog yn y DU yn wirfoddol ac ni all unrhyw berson ifanc dan 18 oed ymuno â'r Lluoedd Arfog oni bai bod ei gais yn cynnwys caniatâd ysgrifenedig ffurfiol gan ei riant neu warcheidwad.

Awgrymodd ymatebion i ymgynghoriad y Pwyllgor y dylai'r Lluoedd Arfog gael yr un hawl i ddarparu cyngor gyrfaoedd â sefydliadau eraill, ac mae gwahaniaethu fyddai atal y Lluoedd Arfog rhag darparu cyngor o'r fath.

Wedi'i dargedu at ardaloedd o amddifadedd?

Mae'r Deisebwyr a Forces Watch yn credu bod y Lluoedd Arfog yn targedu eu hymdrechion yn benodol at ardaloedd o amddifadedd. Mae ymateb Forces Watch (pdf 286KB) i adroddiad y Pwyllgor Deisebau (Awst 2015) yn dweud bod mwy o ysgolion uwchradd y wladwriaeth nag ysgolion annibynnol yn cael ymweliad a bod ysgolion ym Mhen-y-bont, Castell-nedd Port Talbot, Abertawe a Rhondda Cynon Taf yn cael llawer mwy o ymweliadau nag ardaloedd eraill. Fodd bynnag, yn eu hymateb i'r ymgynghoriad, dywedodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful nad oedd unrhyw dystiolaeth yn lleol bod y lluoedd arfog yn targedu eu gweithgareddau mewn ysgolion mewn ardaloedd mwy difreintiedig.

Barn y Pwyllgor

Roedd rhai Aelodau o'r Pwyllgor yn rhannu'r pryderon bod y lluoedd arfog yn defnyddio ymweliadau ysgol fel offeryn recriwtio a bod eu hymweliadau yn cael eu targedu at ardaloedd o amddifadedd cymharol uchel. Fodd bynnag, nid oedd unrhyw dystiolaeth benodol sy'n dangos bod y lluoedd arfog yn targedu ysgolion yn yr ardaloedd hyn yn fwriadol. Argymhellodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru ystyried a oes angen ymchwilio ymhellach i'r rhesymau am y nifer o ymweliadau (sy'n ymddangos yn anghymesur) ag ysgolion mewn ardaloedd o amddifadedd cymharol uchel. Dywedodd Llywodraeth Cymru (pdf 140KB) nad oedd yn credu bod canfyddiadau'r Pwyllgor yn ddigon i arwain at ymgymryd ag ymchwil bellach ar frys. Gall ymgysylltiad ysgolion gyda'r lluoedd arfog ac ymweliadau gan y lluoedd ag ysgolion gael eu hystyried fel rhan o'r broses o gyflwyno'r prosiect Ymrwymiad Cyflogwr Gwell.

Daeth y Pwyllgor i'r casgliad er y gallai'r lluoedd arfog gyflwyno'u hunain fel sefydliadau sy'n darparu cyfleoedd gyrfa diddorol a hygyrch, roedd tystiolaeth yn awgrymu nad ydynt yn recriwtio'n weithgar mewn ysgolion. Ond roedd yn amlwg y byddai ysgolion yn croesawu mwy o arweiniad ar wahodd y lluoedd arfog i mewn i ysgolion i sicrhau bod ymweliadau yn gytbwys a phriodol. Argymhellodd y Pwyllgor y dylai Fframwaith y Cwricwlwm Gyrfaoedd a Byd Gwaith gael ei adolygu i sicrhau bod arweiniad mewn perthynas â gwahodd y lluoedd arfog i ysgolion yn ystyried eu natur unigryw fel gyrfa. Argymhellodd y Pwyllgor hefyd y dylid rhoi ystyriaeth bellach i sut y gall ysgolion, busnesau a chyflogwyr gael eu cefnogi orau i sicrhau bod ystod eang o fusnesau a chyflogwyr yn ymweld ag ysgolion i roi gwybodaeth i ddisgyblion am y cyfleoedd gyrfa y maent yn eu cynnig. Derbyniodd Llywodraeth Cymru y ddau argymhelliad hyn.

View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg