Sut y bydd argyfwng y ffoaduriaid o Syria yn effeithio ar Gymru?

30 Medi 2015

Erthygl gan Hannah Johnson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Wrth i argyfwng Syria ddwysáu, mae pwysau cynyddol ar y DU i gymryd rhagor y o ffoaduriaid, ac mae rhai’n debygol o gael eu hadsefydlu yng Nghymru.

Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi amcangyfrif bod angen cymorth ar dros 12 miliwn o ffoaduriaid o Syria, a bod 4.1 miliwn (bron un o bob pump o’r boblogaeth) wedi ffoi dramor, yn bennaf i wledydd cyfagos.

Diffiniadau
Ffoaduriaid : pobl sydd wedi ffoi rhag gwrthdaro arfog neu erledigaeth. Cydnabyddir bod angen diogelwch rhyngwladol arnynt gan ei bod yn rhy beryglus iddynt ddychwelyd adref. Cânt eu diogelu o dan gyfraith ryngwladol o dan Gonfensiwn Ffoaduriaid 1951 y Cenhedloedd Unedig.
Ceiswyr lloches: pobl sydd wedi cyflwyno cais am ddiogelwch ar sail Confensiwn Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig neu Erthygl 3 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.
Mudwyr: pobl sy’n symud i fyw i wlad arall am dros flwyddyn – i chwilio am waith neu fywyd gwell, i astudio neu am resymau eraill.

 

Yn ôl Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid (UNHCR), mae tua 10 y cant o’r Syriaid sydd wedi ffoi rhag y gwrthdaro wedi dod i Ewrop i chwilio am gymorth; cafwyd bron 350,000 o geisiadau am loches rhwng mis Ebrill 2011 a Gorffennaf 2015. Ers dechrau’r argyfwng dyngarol yn gynnar yn 2011, mae bron 5,000 o Syriaid wedi cael caniatâd i aros yn y DU am resymau dyngarol, a chafodd 87 y cant o’r Syriaid a wnaeth gais cychwynnol am loches ganiatâd i aros.

Erbyn diwedd mis Mehefin, roedd 2,355 o geiswyr lloches (at ei gilydd, o bob gwlad) yng Nghymru (tua 8 y cant o’r cyfanswm yn y DU), yn cael y cymorth y mae ganddynt hawl iddo os ydynt yn pasio ‘prawf amddifadrwydd’. Roedd y mwyafrif helaeth yn ardaloedd gwasgaru dynodedig Caerdydd (1,041), Abertawe (773), Casnewydd (459) a Wrecsam (68).

Mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru wedi awgrymu y gallai Cymru gymryd 1,600 o ffoaduriaid – 8 y cant o’r 20,000 y mae’r Prif Weinidog wedi ymrwymo i’w cymryd.

Llun: o Flickr gan Ringyll y Fyddin Brydeinig Frenhinol Andy Cole. Dan drwydded Creative Commons.

Ymateb y DU

Ym mis Ionawr 2014, gwrthododd Llywodraeth y DU gymryd rhan yn rhaglen adsefydlu UNHCR ar gyfer Syria, gan ddadlau mai symboleiddiaeth yn unig ydoedd, o ystyried nifer y ffoaduriaid. Y ffordd orau o ymdrin â’r argyfwng, meddent, oedd drwy ddarparu cymorth dyngarol. Fodd bynnag, cyhoeddodd Llywodraeth y DU Cynllun Adleoli Pobl sy’n Agored i Niwed (VPRS), gan gynnig adsefydlu rhai o’r ffoaduriaid mwyaf agored i niwed o Syria, a fyddai’n rhedeg ochr yn ochr â rhaglen adsefydlu UNHCR.

Ym mis Medi 2015, yn dilyn beirniadaeth am nifer y ffoaduriaid roedd y DU yn fodlon eu hadsefydlu, a chan gydnabod bod argyfwng y ffoaduriaid yn rhanbarth Syria ac ar hyd a lled y DU yn gwaethygu, cyhoeddodd y Prif Weinidog estyniad sylweddol i’r Cynllun Adleoli. Cadarnhaodd y canlynol:

  • bydd hyd at 20,000 o ffoaduriaid o Syria yn cael eu hadsefydlu yn y DU yn ystod y Senedd hon. Cynigir adsefydlu ffoaduriaid o Syria sydd wedi ffoi i Dwrci, Gwlad yr Iorddonen a Libanus, yn hytrach na’r rhai sydd eisoes wedi teithio i Ewrop;
  • bydd y meini prawf ar gyfer adsefydlu ffoaduriaid o dan y cynllun yn cael eu hehangu’n sylweddol, gan gynnwys cydnabod anghenion plant yn arbennig (gan gynnwys plant amddifad);
  • mae’n bosibl y bydd rhai ffoaduriaid o’r cymunedau Yazidi a Christnogol yn cael eu cynnwys yn y diffiniad o ‘agored i niwed’ (er na fydd y cynllun yn gwahaniaethu ar sail crefydd);
  • defnyddir y gyllideb cymorth rhyngwladol i dalu costau llawn y broses adsefydlu yn ystod y flwyddyn gyntaf, er mwyn lleddfu’r pwysau ar awdurdodau lleol.

Rhoddir Diogelwch Dyngarol i’r rhai sy’n dod i Brydain fel rhan o’r Cynllun Adsefydlu. Dyma’r statws a roddir fel arfer i’r rhai “nad ydynt yn gymwys i gael lloches” ond y byddai “perygl gwirioneddol iddynt ddioddef niwed difrifol” yn eu mamwlad. Gallant aros am bum mlynedd, mae ganddynt yr hawl i weithio a chael manteisio ar arian cyhoeddus. Mae Llywodraeth y DU wedi nodi y byddant yn gymwys i wneud cais i gael aros yn barhaol yn y DU ar ddiwedd y pum mlynedd.

Mae rhagor o wybodaeth am statws y ffoaduriaid o Syria ar gael yn y papur hwn o Lyfrgell Tŷ’r Cyffredin.

Yr Undeb Ewropeaidd;

Mae’r argyfwng hefyd wedi bod yn flaenllaw yn nhrafodaethau sefydliadau’r UE.

Ar 22 Medi, cytunodd y Cyngor Cyfiawnder a Materion Cartref ar fesurau brys i adleoli 20,000 o ffoaduriaid ychwanegol o’r Eidal, Gwlad Groeg a Hwngari yn aelod-wladwriaethau eraill yr UE (y cyfanswm ers mis Mai felly yw 160,000).

Bydd yr aelod-wladwriaethau hyn yn cael €6,000 am bob un a gaiff ei adleoli. Mae’r DU a Denmarc wedi penderfynu peidio â chymryd rhan yn y cynllun hwn: yn ôl telerau eu haelodaeth benodol nhw o’r UE nid oes unrhyw orfodaeth arnynt i wneud hynny. Er nad yw Iwerddon wedi ymrwymo i delerau’r cytundeb hwn, maent wedi dweud eu bod yn bwriadu cymryd rhan.

Daeth y Cyngor i’r penderfyniad hwn dair wythnos wedi i’r Comisiwn Ewropeaidd gynnig y mesurau – cyfnod neilltuol o fyr o safbwynt yr UE.

Ar 23 Medi, cynhaliodd y Cyngor Ewropeaidd (penaethiaid llywodraethau Aelod-wladwriaethau) gyfarfod anffurfiol i drafod yr argyfwng. Prif ganlyniad hyn oedd galw am ragor o gyllid i’r asiantaethau sy’n ceisio mynd i’r afael â’r argyfwng.

Ymateb Llywodraeth Cymru:

Nid oes gan Lywodraeth Cymru bŵer dros fewnfudo, ond y mae wedi ymateb i’r argyfwng. Ar 17 Medi, cynhaliodd Prif Weinidog Cymru uwchgynhadledd i drafod yr argyfwng. Yn y datganiad a gyhoeddodd Llywodraeth Cymru yn dilyn yr uwchgynhadledd, tynnwyd sylw at y canlynol:

  • y pryderon am hyd a lled y cymorth roedd Llywodraeth y DU yn ei gynnig i ffoaduriaid, a pha mor gyflym roedd am ei ddarparu;
  • byddai’n sefydlu Tasglu Ffoaduriaid Syria i gydgysylltu gwasanaethau cyhoeddus a’r sector gwirfoddol, a byddai’r Tasglu’n cynnwys Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, awdurdodau lleol a’r trydydd sector;
  • yr angen i asesu’r cymorth a roddir i awdurdodau lleol ar gyfer ffoaduriaid; ac
  • ymrwymiad i gydnabod cymwysterau a sgiliau ffoaduriaid.

Ar yr un diwrnod ag y cynhaliwyd yr uwchgynhadledd, cyhoeddodd y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi ymgynghoriad ynghylch Cynllun cyflenwi drafft Llywodraeth Cymru ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Caiff y Cynllun diwygiedig ei gyhoeddi erbyn diwedd mis Ionawr 2016.

Roedd y Cynllun cyflenwi blaenorol ar Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches yn ymdrin â’r cyfnod rhwng 2011 a 2014. Mae’r ddogfen ymgynghori yn nodi “y bu llawer o newidiadau yn ystod y blynyddoedd diwethaf i bolisïau’r llywodraeth [Cymru a’r DU]”, a chynhaliwyd digwyddiad cyn dechrau’r ymgynghoriad ym mis Rhagfyr 2014 i gasglu sylwadau ar y materion sy’n wynebu ceiswyr lloches a ffoaduriaid ar hyn o bryd.

Nid yw’r cynllun cyflenwi drafft yn cyfeirio’n benodol ar yr argyfwng presennol yn Syria nac at faint o le y gallai Cymru ei gynnig. Nid yw ychwaith yn cynnwys unrhyw ddangosyddion perfformiad, ond mae’r ddogfen ymgynghori’n nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn gofyn i randdeiliaid sut y gall fonitro’r cynllun cyflenwi.

Yn y Cyfarfod Llawn ar 15 Medi, dywedodd Prif Weinidog Cymru ei fod, o ran egwyddor, o blaid cael system gwota ar gyfer pob gwlad. Nododd hefyd:

Nid wyf yn credu y bydd [yr uwchgynhadledd ffoaduriaid ar 17 Medi]        yn ymwneud cymaint â cheisio cytuno ar nifer y bobl y dylem ni eu cymryd. Rwy’n credu bod honno’n lefel artiffisial, yn enwedig o ystyried yr hyn sydd wedi digwydd yn ystod yr wythnos neu ddwy ddiwethaf. Ond rwyf yn meddwl ei bod yn bwysig ein bod yn barod ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru i allu adsefydlu pobl pan ddaw’r amser hwnnw.

Bydd y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi yn gwneud datganiad am yr argyfwng yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 6 Hydref.

View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg