Rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru

Cyhoeddwyd 02/10/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

2 Hydref 2015 Erthygl gan Elfyn Henderson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_3843" align="alignnone" width="682"]'Dengys y darlun hwn ton yn torri dros y wal môr Llun: o Flickr gan Ben Salter. Dan drwydded Creative Commons.[/caption] Ddydd Mawrth 6 Hydref, bydd Carl Sargeant, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, yn gwneud datganiad yn y Cyfarfod Llawn ar y 'Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol'. Diben yr erthygl hon yw rhoi peth gwybodaeth am yr ymgynghoriad a gynhaliwyd yn ddiweddar ar y rhaglen, ac mae'n rhoi peth cefndir ar y gwaith cyffredinol i reoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru. Y Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar ei chynigion i sefydlu Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol newydd rhwng mis Rhagfyr 2014 a mis Mawrth 2015. Yr enw arall ar y rhaglen hon yw'r 'Rhaglen Fuddsoddi mewn Llifogydd ac Erydu Arfordirol' neu 'FaCIP'. Mae'r cynigion yn canolbwyntio ar ffordd newydd o ddyrannu cyllid er mwyn sicrhau ei fod yn cyrraedd y mannau lle mae'r perygl mwyaf. Byddai hyn yn cynnwys creu 'Mynegai Perygl Llifogydd' cenedlaethol i gymharu'r perygl mewn gwahanol ardaloedd. Byddai'r Mynegai Perygl Llifogydd yn ystyried y tebygolrwydd o lifogydd a'r sgil-effeithiau pe bai hyn yn digwydd; byddai hefyd yn ystyried y tri phrif ffynhonnell o lifogydd – y môr, afonydd a dŵr wyneb. Mae'r cynigion llawn i'w gweld yn Nogfen Ymgynghori y Rhaglen Fuddsoddi mewn Llifogydd ac Erydu Arfordirol (FaCIP). Dywedodd Llywodraeth Cymru fod yr ymatebwyr i'r ymgynghoriad wedi mynegi 'cefnogaeth dda yn gyffredinol' i'w chynigion. Yn benodol mewn perthynas â'r Mynegai Perygl Llifogydd, gwnaeth yr ymatebwyr y pwyntiau canlynol:
  • Pryder y gallai mynegai sy'n cyfuno llifogydd y môr, afonydd a dŵr wyneb wyro buddsoddiad tuag at awdurdodau lleol arfordirol lle mae perygl posibl o'r tair ffynhonnell, gan roi awdurdodau lleol mewndirol o dan anfantais.
  • Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr yn credu na ddylid trin erydu arfordirol a pherygl llifogydd gyda'i gilydd. Gallai cyfuno'r ddau fath o berygl wyro pethau yn bellach o blaid ardaloedd arfordirol.
  • Dylid cynnwys data am amddiffynfeydd presennol yn y mynegai er mwyn osgoi targedu buddsoddiad at ardaloedd sydd eisoes yn elwa o fod ag amddiffynfeydd.
  • Dylai'r mynegai ystyried crebwyll lleol.
  • Rhai pryderon y gallai rhai cynlluniau lleol bach gael eu rhoi i'r neilltu o blaid cynlluniau mawr o bwysigrwydd rhanbarthol neu genedlaethol.
  • Mae angen esbonio a chyfleu'r meini prawf ar gyfer asesu perygl i'r cyhoedd mewn ffordd eglur.
Gweler dogfen Llywodraeth Cymru Ymgynghoriad y Rhaglen Fuddsoddi mewn Llifogydd ac Erydu Arfordirol – crynodeb o'r ymatebion am fwy o wybodaeth. Cefndir Polisi a chyllid Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am ddatblygu polisi rheoli perygl llifogydd ac erydiad arfordirol i Gymru ac mae'n ariannu'n bennaf y gweithgareddau llifogydd ac erydu arfordirol y mae 'awdurdodau gweithredol' yn gyfrifol amdanynt, sef Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac awdurdodau lleol yn bennaf yng Nghymru. Mae'r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru yn darparu fframwaith cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi oddeutu £245 miliwn i reoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yn ystod y Cynulliad hwn. Ym mis Rhagfyr 2014, cyhoeddodd ei bwriad i fuddsoddi £150 miliwn pellach mewn cynlluniau allweddol o 2018. Mae Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i CNC gyflwyno adroddiad i'r Gweinidog ar y cynnydd o ran rhoi'r strategaeth ar waith. Mae adroddiad CNC Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru, 2011-2014, yn nodi:
  • Buddsoddwyd £165 miliwn mewn cynlluniau llifogydd ac amddiffyn arfordirol yng Nghymru rhwng mis Tachwedd 2011 a mis Mawrth 2014.
  • Er gwaethaf hyn, amcangyfrifir bod llifogydd wedi achosi difrod o fwy na £71 miliwn ers mis Tachwedd 2011, gan effeithio ar gymunedau, yr economi a seilwaith trafnidiaeth.
  • Gwnaed cynnydd mewn nifer o feysydd o ran rheoli llifogydd ac erydu arfordirol. Mae hyn yn cynnwys nodi perygl llifogydd, ymdrin â digwyddiadau wrth iddynt godi a chodi ymwybyddiaeth cymunedau am faterion llifogydd.
Mae mwy o wybodaeth gefndirol ar gael yn Nodyn Ymchwil Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu ArfordiroL (PDF 231KB) y Gwasanaeth Ymchwil. Stormydd gaeaf 2013 - 2014 Mae llifogydd yn fygythiad parhaol i lawer o gymunedau ledled Cymru. Cafodd stormydd mis Rhagfyr 2013 a mis Ionawr 2014 effaith ofnadwy ar nifer o rannau o arfordir Cymru a byddant yn byw yn hir yng nghof y bobl sy'n byw yn y cymunedau a ddioddefodd waethaf. Cafodd oddeutu 315 o gartrefi eu taro gan lifogydd ac amcangyfrifwyd difrod o £8.1 miliwn i amddiffynfeydd llifogydd ac arfordirol. Fodd bynnag, mae CNC yn amcangyfrif, na fu llifogydd mewn oddeutu 24,000 a 50,000 o eiddo a oedd mewn perygl o lifogydd ym mis Rhagfyr 2013 a mis Ionawr 2014 yn y drefn honno, sy'n golygu mai llai nag 1% o'r eiddo oedd mewn perygl a gafodd eu taro gan lifogydd mewn gwirionedd. Mae CNC yn nodi mai buddsoddiad dros nifer o flynyddoedd yn yr amddiffynfeydd arfordirol a'r gwaith cynnal a chadw arnynt oedd yn gyfrifol am hyn. Adolygiad llifogydd arfordirol 2014 Yn dilyn y stormydd, gofynnodd Alun Davies, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd ar y pryd, i CNC gynnal adolygiad mawr o amddiffynfeydd arfordirol. Roedd dau gam i'r adolygiad - roedd y cam cyntaf yn asesu effaith y llifogydd, a'r ail yn gwneud cyfres o argymhellion i wella gallu Cymru i wrthsefyll llifogydd arfordirol. Roedd yr ail adroddiad yn argymell camau i'w cymryd mewn chwe maes:
  • Buddsoddiad parhaus mewn rheoli perygl erydu arfordirol.
  • Gwybodaeth well am systemau amddiffynfeydd llifogydd arfordirol.
  • Mwy o eglurder ynghylch rolau a chyfrifoldebau asiantaethau ac awdurdodau.
  • Asesu sgiliau a chapasiti.
  • Mwy o gymorth i helpu cymunedau i wrthsefyll llifogydd yn well.
  • Datblygu a chyflwyno cynlluniau lleol ar gyfer cymunedau arfordirol.
Gallwch weld adroddiadau adolygu llawn CNC yma: Adroddiad Cam 1 Adolygu Llifogydd Arfordirol Cymru Adroddiad Cam 2 Adolygu Llifogydd Arfordirol Cymru View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg