Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn ffurfio barn ar Fil yr Amgylchedd (Cymru)

Cyhoeddwyd 12/10/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

12 Hydref 2015 Erthygl gan Nia Seaton, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_3883" align="alignnone" width="640"]Llun o lyn. Llun o Flickr gan Hefin Owen. Dan drwydded Creative Commons.[/caption] Mae'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd wedi cyhoeddi ei Adroddiad Cyfnod 1 ar Fil yr Amgylchedd (Cymru). Mae'r adroddiad hwn yn nodi barn y Pwyllgor ar egwyddorion cyffredinol y Bil a'i argymhellion ar gyfer newid. Mae’r Pwyllgor argymell fod y Cynulliad yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil ond yn gwneud 51 argymhelliad yn ei adroddiad. Mae rhai yn galw am wneud gwelliannau i'r Bil tra bod eraill yn galw am fwy o eglurder ar fwriadau Llywodraeth Cymru. Mae cofnod blaenorol yn amlinellu prif gynigion y Bil. Argymhellion a Barn y Pwyllgor Mae saith rhan benodol i'r Bil, gan gwmpasu Rheoli Adnoddau Naturiol, Newid yn yr Hinsawdd, Gwastraff, Pysgodfeydd ar gyfer Pysgod Cregyn, Trwyddedu Morol a Llifogydd ac Erydu Arfordirol. Yn ei adroddiad, mae'r Pwyllgor yn gofyn am fwy o eglurder ynghylch ystyr adnoddau naturiol cynaliadwy, sut y caiff term hwn ei ddiffinio, ac am gryfhau llawer o ddyletswyddau'r Bil, gan gynnwys y rhai ar fioamrywiaeth. O ran y ffaith bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi gwrthod rhoi cydsyniad i rai rannau o adran 6 y Bil (y ddyletswydd newydd ar fioamrywiaeth), mae’r Pwyllgor o’r farn, er ei bod yn destun siom bod hyn yn golygu na fydd y ddyletswydd yn berthnasol i Gymru gyfan, ond y dylai barhau i fod yn rhan o’r Bil mewn perthynas â gweddill Cymru. Mae'n galw am wella'r darpariaethau craffu a monitro yn yr adran newid yn yr hinsawdd drwy ei gwneud yn ofynnol i barhau i adolygu targed newid yn yr hinsawdd 2050, am gyhoeddi cyllidebau carbon yn gynt na'r hyn a gynigir, ac ar Weinidogion Cymru i adrodd yn flynyddol ar y cynnydd o ran lleihau allyriadau Cymru. O safbwynt gwastraff, mae'n galw am fwy o sicrwydd ynghylch effeithiau rhai darpariaethau ar fusnes ac am gyfeirio arian o unrhyw dâl newydd am fagiau siopa at achosion amgylcheddol. Mae'n ceisio sicrwydd i'r diwydiant pysgota ar sut y bydd y darpariaethau ynghylch pysgodfeydd pysgod cregyn yn cael eu gweithredu ac yn gofyn am gynnwys nifer o faterion mewn perthynas â thrwyddedu morol mewn ymgynghoriad pellach gyda'r diwydiant.   Mae rhai o argymhellion allweddol y Pwyllgor wedi'u nodi yn fanylach isod. Rhan 1: Rheoli Adnoddau Naturiol
  • Argymhellion 4 a 5: Dylai’r Bil gynnwys diffiniadau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Amrywiaeth Biolegol o ecosystemau a bioamrywiaeth.
  • Argymhelliad 6: Dylai amcan y Bil hwn adlewyrchu nod Cymru Gydnerth, fel y mae wedi’i nodi yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015.
  • Argymhelliad 9: Dylai’r Bil gynnwys darpariaethau ymgynghori penodol ynghylch llunio Adroddiadau ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol a Datganiadau Ardal.
  • Argymhelliad 10: Dylid cryfhau nifer o'r dyletswyddau yn Rhan 1.
  • Argymhellion 14-17: Dylid cryfhau'r ddyletswydd bioamrywiaeth newydd, dylai fod yn ofynnol i gyrff cyhoeddus, Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru bennu'r camau y maent wedi'u cymryd i warchod y cynefinoedd a'r rhywogaethau pwysicaf yng Nghymru, a dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi mwy o wybodaeth am y dangosyddion bioamrywiaeth a fydd yn cael eu datblygu o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Rhan 2: Newid yn yr Hinsawdd
  • Argymhellion 28 a 29: Dylai fod yn ofynnol i'r corff cynghori ar newid yn yr hinsawdd asesu pa mor ddigonol yw targed 2050 a dylai fod gan Weinidogion Cymru bwerau i addasu'r targed hwn os bydd angen.
  • Argymhelliad 33: Dylai Gweinidog Cymru gyhoeddi'r gyllideb garbon gyntaf yn gynt o lawer na diwedd 2018.
  • Argymhelliad 36: Dylai fod yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad blynyddol ar y cynnydd o ran lleihau allyriadau yng Nghymru.
Rhannau 3 a 4: Bagiau Siopa a Gwastraff
  • Argymhelliad 42: Dylai'r enillion o unrhyw dâl newydd am fagiau siopa, e.e. tâl am fagiau am oes, gael eu cyfeirio at elusennau amgylcheddol.
  • Argymhelliad 44: Dylai Llywodraeth Cymru ymgysylltu â'r busnesau a wnaeth sylwadau i'r Pwyllgor ynghylch effaith bosibl gwaharddiad ar wastraff bwyd ar eu cwmnïau a diwygio'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn unol â hynny.
  • Argymhelliad 48: Dylai Llywodraeth Cymru egluro pwy fydd yn gyfrifol am sicrhau nad yw sylweddau gwastraff sydd wedi'u gwahardd yn cael eu hanfon i losgyddion o dan unrhyw reoliadau newydd.
Rhannau 5 a 6 Pysgodfeydd ar gyfer Pysgod Cregyn a Thrwyddedu Morol
  • Argymhelliad 49: Dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi canllawiau sy'n nodi'n glir sut y bydd y darpariaethau newydd i bysgodfeydd cregyn yn cael eu dehongli a'u cymhwyso.
  • Argymhelliad 51: Dylai Llywodraeth Cymru, mewn unrhyw ddeddfwriaeth yn y dyfodol ar ffioedd trwyddedu morol, y dangosyddion perfformiad y mae CNC yn eu mabwysiadu, cyfraddau fesul awr ar gyfer ffioedd, trefniadau tryloyw ar gyfer gosod ffioedd a threfniadau i ganiatáu cyhoeddi mwy o ddata morol.
Y camau nesaf Bydd y Cynulliad yn trafod egwyddorion cyffredinol y Bil ac Adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor ar 20 Hydref. Bydd Cyfnodau 2 a 3 y Bil yn dilyn, gyda'r disgwyliad, os caiff y Bil ei basio, y bydd yn derbyn Cydsyniad Brenhinol ym mis Mawrth 2016. View this post in English. Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg.