RSPCA Cymru yn cyhoeddi nifer uwch nag erioed o enillwyr y cynllun Ôl Troed Lles Anifeiliaid Cymunedol yng Nghymru

Cyhoeddwyd 14/10/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

14 Hydref 2015 Erthygl gan Candice Boyes, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_3878" align="aligncenter" width="500"]RSPCA Cymru logo Llun RSPCA Cymru[/caption] Mae 11 o awdurdodau lleol yng Nghymru, sef y nifer fwyaf erioed, wedi cael tystysgrif o dan y cynllun Ôl Troed Lles Anifeiliaid Cymunedol ar gyfer 2015. Sefydlwyd y cynllun Ôl troed Lles Anifeiliaid Cymunedol yn 2008, wedi'i dargedu at awdurdodau lleol, y rhai sy'n creu cynlluniau wrth gefn a darparwyr tai ledled Cymru a Lloegr. Mae'r cynllun yn cydnabod sefydliadau sy'n dangos ymrwymiad i fodloni safonau lles anifeiliaid mewn pedwar maes:
  • Darpariaeth cŵn strae;
  • Cynllunio wrth gefn;
  • Darpariaeth tai;
  • Egwyddorion lles anifeiliaid.
Mae tair gwobr wahanol, sef Aur, Arian ac Efydd, sy'n seiliedig ar y lefel o wasanaeth sy'n cael ei chyflawni yn erbyn meini prawf yr RSPCA. Mae pedwar o'r sefydliadau buddugol yng Nghymru wedi cyflawni'r safon Aur: Cartref Cŵn Caerdydd, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Dinas Casnewydd a Chyngor Sir Fynwy. Dyma a ddywedodd Claire Lawson, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cysylltiadau Allanol - Cymru:
Rydym ni wrth ein bodd yn gweld 11 o sefydliadau yn cael cydnabyddiaeth, a phedwar ohonynt yn cael gwobr aur. Er gwaetha'r hinsawdd economaidd anodd, mae'n dangos, unwaith eto, pa mor bwysig yw anifeiliaid a'u lles ym marn llawer o asiantaethau rheng flaen ledled Cymru.
Mae'r cynllun wedi denu llawer o gefnogwyr yng Nghymru ers iddo gael ei lansio saith mlynedd yn ôl, gan gynnwys Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd a'r Sefydliad Safonau Masnach. Mae wedi sicrhau cefnogaeth Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru hefyd, yn ogystal â chefnogaeth y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews AC, a ddywedodd y canlynol am y cynllun:
Rwy'n falch o gefnogi Gwobrau Ôl Troed Lles Anifeiliaid Cymunedol RSPCA Cymru. Mae dathlu llwyddiant yn y sector cyhoeddus yn ffordd dda o hyrwyddo gwell safonau gwasanaeth ac o ddarparu enghreifftiau o arfer da. Mae partneriaethau gwasanaethau cyhoeddus sy'n cymryd rhan yn y cynllun yn cael cydnabyddiaeth am eu gwaith a'u hymrwymiad i les anifeiliaid, sy'n flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Mae gwobrau'r RSPCA yn ategu'r ymrwymiad hwn drwy gydnabod darparwyr gwasanaethau arloesol sy'n cyflawni canlyniadau ardderchog.
Dyma a ddywedodd y Cynghorydd Neil Moore, llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar Wasanaethau Rheoleiddiol a Rheng Flaen:
Mae awdurdodau lleol yn gwneud llawer o waith pwysig i helpu i sicrhau lles anifeiliaid Cymru. Mae cynllun Ôl Troed Lles Anifeiliaid Cymunedol RSPCA Cymru yn sicrhau bod y cynghorau hynny sy'n benderfynol o fynd gam ymhellach yn cael y gydnabyddiaeth y maen nhw'n ei haeddu. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn annog awdurdodau lleol i fod yn rhan o gynllun RSPCA Cymru er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau a ddarperir ganddyn nhw - p'un a ydynt yn ymwneud â chŵn strae, tai, cynlluniau wrth gefn neu rywbeth arall - yn cael y gydnabyddiaeth y maent yn eu haeddu.
Dyma'r rhestr lawn o enillwyr 2015 a'r categorïau: Gwobr Cŵn Strae
  • Cartref Cŵn Caerdydd (Aur)
  • Cyngor Sir Ddinbych (Aur)
  • Cyngor Dinas Casnewydd (Aur)
  • Cyngor Sir Penfro (Arian)
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (Efydd)
  • Cyngor Sir Ynys Môn (Efydd)
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam (Efydd)
Gwobr Cynllunio Wrth Gefn
  • Cyngor Sir Fynwy (Aur)
  • Cyngor Dinas Caerdydd (Efydd)
Gwobr Tai
  • Cymdeithas Dai Merthyr Tudful
  • Cartrefi Cwm Merthyr (Efydd)
Gwobr Arloeswr Cymru yr RSPCA Yn ogystal â'r categorïau a nodir uchod, mae'r cynllun hefyd yn gwobrwyo sefydliadau am wneud camau arloesol tuag at wella lles anifeiliaid. Cafodd enillwyr y wobr nodedig hon eu cyhoeddi heddiw, gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn ennill gwobr Arloeswr Cymru ar gyfer 2015, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cael cymeradwyaeth uchel yn y categori. Cyflwynwyd tystysgrifau i gynrychiolwyr y sefydliadau buddugol gan Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, mewn derbyniad arbennig heddiw. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg