Tlodi ac anghydraddoldeb yng Nghymru: beth sydd wedi newid?

Cyhoeddwyd 14/10/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

14 Hydref 2015 Erthygl gan Hannah Johnson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Ym mis Mehefin, cyhoeddodd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol adroddiad ar dlodi yng Nghymru. Fe'i disgrifiwyd gan un sylwebydd gwleidyddol fel yr hyn 'a allai fod yr ymchwiliad pwysicaf ers datganoli'. Ar 7 Hydref, ymatebodd Llywodraeth Cymru i argymhellion yr adroddiad. Ddydd Mercher 14 Hydref, bydd y Cynulliad yn trafod yr adroddiad yn y Cyfarfod Llawn. Mae'r gwaith hwn wedi'i rannu'n bum adran - cliciwch ar y testun i neidio i'r adran honno:   Diffyg cynnydd o ran lleihau tlodi Canfu adroddiad y Pwyllgor fod mwy nag un o bob pump o bobl yng Nghymru yn byw mewn tlodi, ac nad yw'r ffigur hwn wedi newid ers datganoli. Cymru sydd â'r gyfradd uchaf o dlodi namyn un o unrhyw ardal yn y DU, y tu ôl i Lundain yn unig. Mewn ymateb i hyn, amlygodd Llywodraeth Cymru 'ganlyniadau arwyddocaol' ei rhaglenni i fynd i'r afael â thlodi, megis:
  • 3,500 o bobl wedi cael 'cymorth i gael swydd';
  • dros 11,000 o blant wedi cael eu helpu i wella’u perfformiad academaidd trwy’r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn 2014-15;
  • dros 32,000 o blant wedi cael budd o'r cynllun Dechrau'n Deg y llynedd;
  • mwy na 2,700 o Gynlluniau Gweithredu Tîm o Amgylch y Teulu wedi cael eu dirwyn i ben 'yn llwyddiannus';
  • cynyddu'r cyllid ar gyfer y Grant Amddifadedd Disgyblion a'r Rhaglen Cefnogi Pobl - er bod Cartrefi Cymunedol Cymru a Chymorth Cymru yn honni bod y gyllideb Cefnogi Pobl wedi cael ei thorri gan £10m i £124.4m yn 2015-16, - 7.6% o gyfanswm cyllideb Cefnogi Pobl;
  • helpu dros 20,000 o unigolion i reoli eu harian 'a’u helpu i osgoi colli eu cartrefi', a
  • rhoi 'cymorth gwerthfawr arall sy’n gysylltiedig â thai' i dros 60,000 o bobl.
Nid yw'r canlyniadau hyn yn dangos a oedd yr allbynnau hyn mewn gwirionedd wedi lleihau tlodi ymhlith y bobl sy'n defnyddio'r rhaglenni hyn. Yn ystod yr ymchwiliad, bu'r Pwyllgor yn trafod adroddiad effaith a gyhoeddwyd yn 2013 wnaeth ganfod nad oedd unrhyw wahaniaeth ystadegol rhwng ardaloedd Dechrau'n Deg a rhai nad oeddent yn ardaloedd o'r fath o ran sgiliau gwybyddol ac ieithyddol plant, eu datblygiad cymdeithasol ac emosiynol a'u hannibyniaeth / hunan-reolaeth. Nid yw'r Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi yn defnyddio nifer y bobl neu'r ganran o bobl sydd mewn tlodi yng Nghymru fel dangosydd perfformiad. Arweinyddiaeth Roedd y diffyg cynnydd o ran lleihau tlodi yng Nghymru yn peri pryder mawr i'r Pwyllgor, ac roedd o'r farn bod angen i Lywodraeth Cymru fod yn fwy atebol o ran lleihau tlodi yng Nghymru. Wrth gydnabod nad yw rhai dulliau dylanwadol fel trethi a budd-daliadau wedi'u datganoli, roedd y Pwyllgor o'r farn bod angen mwy o gyfranogiad allanol wrth lunio polisi a chraffu arno gan y sector preifat, y trydydd sector a'r sector academaidd. Gwrthododd y Gweinidog argymhelliad y Pwyllgor i sefydlu 'Cynghrair Lleihau Tlodi Cymru, gan ei bod yn fodlon ar y lefel bresennol o ymgysylltiad, gan dynnu sylw at yr ystod o randdeiliaid y mae hi'n ymgysylltu â hwy, gan gynnwys: hyrwyddwyr gwrthdlodi awdurdod lleol, y Grŵp Cynghori Allanol ar Drechu Tlodi, y Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant a chyfarfodydd rheolaidd gyda'r trydydd sector. Nid oedd yn ystyried y dylid cyfuno'r grwpiau hyn. Deall tlodi Argymhellodd y Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu diffiniad clir o dlodi. Awgrymodd fod y diffiniad yn seiliedig ar fesur a yw adnoddau person yn ddigonol i ddiwallu ei anghenion dynol sylfaenol, ac i gael safon byw dderbyniol sy'n ei alluogi i gymryd rhan mewn cymdeithas. Argymhellodd y Pwyllgor hefyd fod Llywodraeth Cymru yn gwneud ymrwymiad yn ei strategaeth ar gyfer trechu tlodi i sicrhau bod gan bob person yng Nghymru fwyd, lloches a chynhesrwydd. Derbyniodd Llywodraeth Cymru y ddau argymhelliad hyn naill ai'n llawn neu mewn egwyddor. Dywedodd y Gweinidog fod Llywodraeth Cymru eisoes yn defnyddio diffiniad tebyg yn y Strategaeth Tlodi Plant. Nid yw'r diffiniad hwn wedi'i gynnwys yn y Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi trosfwaol, a dywedodd y Gweinidog 'nad oedd cynlluniau i ddiwygio’r Cynllun [...] yn y dyfodol agos'. Cytunodd â'r Pwyllgor:

"bod cyfrifoldeb ar Lywodraeth Cymru i wneud popeth yn ei gallu i sicrhau bod anghenion sylfaenol pobl yn cael eu diwallu, ac mae hon yn un o’n hegwyddorion sylfaenol fel Llywodraeth,

a hynny er gwaethaf y ffaith bod ffactorau pwysig sydd y tu hwnt i reolaeth Llywodraeth Cymru yn dylanwadu ar yr anghenion hynny."

Mae'r Gweinidog hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod 'gwaith yn mynd rhagddo i ddiffinio tlodi bwyd a sefydlu dangosyddion'. Mae hi'n dweud bod gan Lywodraeth Cymru 'dargedau o ran tlodi tanwydd, a ninnau wedi ymrwymo i ddileu tlodi tanwydd, i’r graddau y mae hynny’n rhesymol ymarferol, ym mhob aelwyd erbyn 2018.' Nid yw nifer neu ganran y bobl sydd mewn tlodi tanwydd yng Nghymru yn cael ei olrhain fel dangosydd perfformiad yn y Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi. Sail y dystiolaeth Roedd y Pwyllgor yn credu mai rhan bwysig o ddeall tlodi oedd trwy gael sail dystiolaeth gadarn. Argymhellodd y dylid comisiynu ymchwil er mwyn gwella'n sylweddol ansawdd, cwmpas a graddau'r data am dlodi yng Nghymru. Dylai'r ymchwil hon sefydlu pa grwpiau o bobl yng Nghymru sy'n debygol o fod yn byw'n anghymesur mewn tlodi, a nodi'r gyfres o ymyriadau sy'n gweithio orau i wahanol bobl. Derbyniodd y Gweinidog yr argymhelliad hwn mewn egwyddor, gan dynnu sylw at y canlynol:

"Mae swyddogion yn bwriadu cynnal dadansoddiad pellach o’r dangosyddion sy’n sail i Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru. Bydd hynny’n rhoi data ar lefel ardaloedd bychain am fathau gwahanol o amddifadedd ymhlith plant a phobl ifanc, a bydd data’n cael eu cyhoeddi hefyd ar gyfer ardaloedd daearyddol mwy, gan gynnwys Awdurdodau Lleol."

Dywedodd hefyd bod y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, mewn partneriaeth â’r Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru, wedi ariannu pedwar prosiect fel rhan o ganolfan What Works in Tackling Poverty. Cynyddu incwm y cartref Ystyriodd y Pwyllgor mai'r ffordd sylfaenol i leihau tlodi yng Nghymru oedd drwy gysylltu strategaethau ar gyfer trechu tlodi â chynllun economaidd clir ei fynegiant. Derbyniodd y Gweinidog yr argymhelliad hwn mewn egwyddor, drwy ddweud bod y "blaenoriaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u datgan yn glir ar gyfer datblygu economaidd yn amlinellu gweledigaeth strategol gref." Mae hi'n nodi:

"Rwy’n cydweithio’n agos â Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thechnoleg ac mae hi’n awyddus i sicrhau bod trechu tlodi’n rhan annatod o waith datblygu economaidd ei hadran.

[…]

Er mwyn pwysleisio ein hymrwymiad i gysylltu polisi economaidd a pholisi trechu tlodi, pan gyhoeddais ein Strategaeth Tlodi Plant ddiwygiedig ym mis Mawrth, cynhwysais amcan strategol newydd i “greu economi a marchnad lafur gref sy’n cefnogi’r agenda trechu tlodi ac yn lleihau tlodi mewn gwaith yng Nghymru"."

Nid yw ei hymateb yn nodi sut y caiff yr amcan hwn ei fesur yn y Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi, er enghraifft drwy fesur nifer y bobl mewn tlodi mewn gwaith. Mae'r Strategaeth Tlodi Plant yn mesur canran y plant sy'n byw mewn tlodi mewn gwaith, ond nid oedolion. Argymhellodd y Pwyllgor hefyd fod Llywodraeth Cymru yn defnyddio ei dylanwad ar y rhan honno o’r farchnad lafur lle mae’r sgiliau’n isel (yn enwedig y sectorau gofal, manwerthu a lletygarwch), drwy brosesau caffael ac amodau ar arian grant, er mwyn gwella ansawdd bywyd pobl sy’n dioddef tlodi mewn gwaith. Derbyniodd y Gweinidog hwn, gan ddweud:

"Mae offer caffael megis yr Asesiad Risg Cynaliadwy a Manteision Cymunedol wedi’u sefydlu er mwyn eu gwneud yn ofynnol i brynwyr ystyried holl effeithiau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol eu hymarfer caffael[...]

Mae Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth wedi sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen, a fydd yn cryfhau’r modd y cyflawnir Manteision Cymunedol."

Datblygiadau ac ymchwil diweddar Yn yr Adroddiad Blynyddol ar y Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi 2015, ychwanegodd Llywodraeth Cymru nifer o ymrwymiadau gan gynnwys:
  • buddsoddi cyllid yr UE i helpu dros 180,000 o oedolion cyflogedig i weithio tuag at gymwysterau swydd-benodol, technegol neu sgiliau hanfodol;
  • buddsoddi yn benodol i wella sefyllfa menywod yn y gweithlu, drwy anelu at helpu dros 5,000 o weithwyr benywaidd i weithio tuag at gymwysterau a marchnad lafur well ;
  • bydd y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi yn ymgysylltu’n uniongyrchol â chynrychiolwyr o’r sectorau preifat a busnes yng Nghymru i nodi cyfleoedd ar gyfer cydweithio;
  • gweithredu canfyddiadau ymchwil gan y Ganolfan What Works for Tackling Poverty, sy’n cynnwys ffocws ar dlodi mewn gwaith, a
  • buddsoddi cyllid yr UE i helpu 4,000 o oedolion cyflogedig â chyflyrau iechyd sy’n cyfyngu ar eu gallu i weithio i aros mewn gwaith.
Yn ogystal, ddoe (13 Hydref) cyhoeddodd y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi gyfanswm buddsoddiad o £41.1 miliwn o gronfeydd yr UE a Llywodraeth Cymru ar gyfer y rhaglen Cymunedau dros Waith. Yn ôl ei datganiad, rhaglen dair blynedd yw hon, a bydd yn helpu 8,000 o unigolion i gael gwaith. Dywedodd hefyd y bydd cymorth penodol i bobl economaidd anweithgar ac oedolion di-waith a phobl ifanc sy'n NEET, sydd â rhwystrau cymhleth sy’n eu hatal rhag cael gwaith i ail gydio yn y farchnad lafur yn y tymor hir. Ddoe, lansiodd y Gweinidog hefyd raglen rhieni, gofal plant a chyflogaeth (PACE) Llywodraeth Cymru i helpu rhieni sy'n economaidd anweithgar i gael hyfforddiant neu gyflogaeth lle mai gofal plant yw eu prif rwystr. Mae PACE yn cael ei ddarparu ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru a disgwylir iddo helpu 6,400 o rieni sy'n economaidd anweithgar, sydd dros 25 oed, i gael gwaith neu hyfforddiant dros y tair blynedd nesaf. [caption id="attachment_3915" align="aligncenter" width="682"]Nifer y bobl mewn tlodi yng Nghymru, 2002/03 – 2012/13 Ffynhonnell: JRF, Monitro tlodi ac allgau cymdeithasol yng Nghymru 2015 Nifer y bobl mewn tlodi yng Nghymru, 2002/03 – 2012/13 Ffynhonnell: JRF, Monitro tlodi ac allgáu cymdeithasol yng Nghymru 2015[/caption] Ym mis Medi 2015, cyhoeddodd Sefydliad Joseph Rowntree ei adroddiad dwy flynedd ar dlodi ac allgáu cymdeithasol yng Nghymru . Daeth i'r casgliad:
  • o'i gymharu â deng mlynedd yn gynharach, fod mwy o bobl o oedran gweithio (yn enwedig oedolion ifanc) mewn tlodi a llai o blant a phensiynwyr. Mae tlodi wedi codi ymhlith teuluoedd sy'n gweithio ac wedi cwympo ymhlith teuluoedd di-waith;
  • ni fu unrhyw ostyngiad yn nifer y cyflogau isel yng Nghymru ers degawd, gyda chyfran y swyddi sydd ar gyflog isel yn aros ar tua 25 y cant. Ar y cyfan, mae 270,000 o swyddi, rhai menywod yn bennaf, yn talu llai na dwy ran o dair o gyflog canolrif fesul awr y DU; a
  • bydd cyflwyno'r cyflog byw cenedlaethol ond yn gwneud iawn yn rhannol am y toriadau mewn credydau treth: bydd rhai teuluoedd sydd â phlant yn arbennig yn waeth eu byd. Bydd effaith anghymesur ar y Gymru wledig.
Mae trechu tlodi yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru. Gan nad yw'r prif ddulliau trethi a budd-daliadau wedi'u datganoli, mae'r mater o sut i leihau tlodi yng Nghymru yn debygol o barhau'n fater dadleuol yn ystod cyfnod cyn yr etholiad. View this post in English. Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg.