Y Pwyllgor i graffu ar y Bil ADY drafft cyn y broses ddeddfu

Cyhoeddwyd 14/10/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

14 Hydref 2015 Erthygl gan Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Committee room CR-AS0126New build Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad wedi penderfynu ystyried cynlluniau Llywodraeth Cymru i greu fframwaith cyfreithiol newydd ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Bydd y fframwaith hwn yn disodli'r system Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) bresennol; system y mae Llywodraeth Cymru yn ei hun yn cydnabod ‘nad yw bellach yn addas i'r diben'. Bydd y Pwyllgor yn craffu rhywfaint ar y Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) cyn y broses ddeddfu. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y Bil hwn ym mis Gorffennaf i ymgynghori yn ei gylch. Bydd y Pwyllgor wedyn yn ymateb yn ffurfiol, gan gyflwyno’i sylwadau i Lywodraeth Cymru, ar sail y dystiolaeth y bydd yn ei chael. Mae Memorandwm Esboniadol (PDF 1.3MB) yn cyd-fynd â’r  Bil drafft (PDF 263KB), ac mae hwn yn esbonio pwrpas y ddeddfwriaeth arfaethedig a’r effaith y bwriedir iddi’i chael. Hefyd,  mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi  Cod gweithredol drafft [Saesneg yn unig] (PDF 990KB),  sy’n esbonio sut y bydd y system newydd yn gweithio, gan gynnwys y dyletswyddau gorfodol  ar y rhai a fydd yn ei rhoi ar waith. Dywedodd Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, ei fod am sicrhau y bydd y rhai a fydd yn ymateb i'r ymgynghoriad ynghylch y Bil drafft yn gallu manteisio ar wybodaeth a allai fod yn ddefnyddiol iddynt wrth ffurfio barn am ei ddarpariaethau a’i effaith ymarferol. Felly, beth yn union sydd yn y Bil drafft?  Wel mae tri amcan polisi cyffredinol:
  • Fframwaith deddfwriaethol unedig i gynorthwyo plant a phobl ifanc rhwng 0 a 25 oed sydd ag ADY (Yn hytrach na'r system AAA bresennol ar gyfer plant a phobl ifanc hyd at 16 oed a’r system Anableddau Dysgu a / neu Anableddau (AAD) ar gyfer pobl ifanc dros 16 oed. Mae deddfwriaeth wahanol ar gyfer y ddwy system ar hyn o bryd);
  • Proses integredig a chydweithredol o asesu, cynllunio a monitro ac ymyriadau cynnar, amserol ac effeithiol (gan gynnwys dyletswyddau ar fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol i gydweithio â’i gilydd i ddiwallu anghenion pob plentyn a person ifanc sydd ag ADY drwy baratoi Cynllun Datblygu Unigol);
  • System deg a thryloyw o ddarparu gwybodaeth a chyngor, ac o ymdrin â phryderon ac achosion o apêl (trawsnewid system y mae’r Gweinidog yn ei disgrifio fel system  'gymhleth, ddryslyd a gwrthwynebol' – mae’r Bil drafft hefyd yn ehangu’r Tribiwnlys AAA presennol ac yn rhoi enw newydd arno, sef 'Tribiwnlys Addysg Cymru').
Mae Llywodraeth Cymru wedi seilio’r gwaith o baratoi’r Bil drafft ar ddeg o amcanion craidd.  Mae’r Memorandwm Esboniadol yn disgrifio’r rhain ac yn ymhelaethu arnynt. Roedd Llywodraeth Cymru wedi bwriadu cyflwyno deddfwriaeth yn ystod yr haf ond penderfynodd y Gweinidog ohirio hyn er mwyn ymgynghori ynghylch y Mesur drafft a gohirio’r diwygiadau tan ddechrau’r Cynulliad nesaf. Wrth esbonio’r rhesymau dros ei benderfyniad ym mis Mehefin 2015, dywedodd y Gweinidog ei bod yn hanfodol cynllunio diwygiadau ar y cyd â'r proffesiwn yn hytrach na’u gorfodi arnynt. O ganlyniad, penderfynodd bod angen cynnwys cam ychwanegol pwysig yn y broses o  gyflwyno’r diwygiadau. Ym mis Mehefin, aethom ati i baratoi trosolwg amserol o'r trefniadau presennol yn ein Papur Ymchwil,  Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) / Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yng Nghymru (PDF 938KB) .  Bu’r broses o gynllunio a pharatoi at y newidiadau’n un hir ac, yn y papur, disgrifiwyd y camau a gymerwyd yn ystod y blynyddoedd ers datganoli i adolygu a diwygio’r system. Felly, beth fydd effaith y diwygiadau arfaethedig a beth yw'r sefyllfa erbyn hyn?  Ym mis Awst, cyhoeddwyd  nodyn ystadegol (PDF 657KB)  am nifer y disgyblion sydd ag AAA a’u perfformiad academaidd cymharol, yn ogystal â gwybodaeth am yr arian a gaiff ei wario i’w cynorthwyo. Yn gryno
  • Ar hyn o bryd, mae 105,000 disgyblion ag AAA mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru, sy'n cyfateb i un o bob pump o blant ysgol.
  • Dim ond lleiafrif ohonynt (12 y cant) oedd â datganiad AAA ac roedd y mwyafrif helaeth (88 y cant) yn cael eu cynorthwyo drwy un o'r ddwy haen gyntaf o ymyrraeth, Gweithredu gan yr Ysgol a Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy.
  • Llwyddodd19.7% o'r holl ddisgyblion sydd ag AAA i sicrhau o leiaf 5 TGAU gradd A * - C, neu gymwysterau cyfwerth, yn 2014, o'i gymharu â 56.2% o'r holl ddisgyblion. Mae’r bwlch o 36.5 pwynt canrannol yn debyg iawn i’r bwlch yn 2010, sef 36.8 pwynt canrannol.
  • Llwyddodd 9.3% o’r disgyblion sydd â datganiad i sicrhau o leiaf 5 TGAU gradd A*- C, neu gymwysterau cyfwerth, o’i gymharu â 17.3% o’r disgyblion a oedd yn cael cymorth Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy a 24.1% a oedd yn cael cymorth Gweithredu gan yr Ysgol.
  • Ym mhob un o Gyfnodau Allweddol 2, 3 a 4, roedd canlyniadau’r garfan o ddisgyblion oedd ag AAA a oedd yn cael cymorth drwy unrhyw un o’r tair haen o ymyrraeth yn well yn 2014 nag yn 2010.
  • Mae gan awdurdodau lleol gyllideb o £356 miliwn ar gyfer AAA yn 2015-16 . Mae cyllideb o £789 ar gyfer pob disgybl (yr holl ddisgyblion, nid y garfan AAA yn unig).
Beth sy'n digwydd nesaf? Bydd Llywodraeth Cymru  yn ymgynghori ynghylch y Bil drafft tan 18 Rhagfyr, 2015. Mae Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc y Cynulliad  yn gwahodd unrhyw un sydd â diddordeb neu bryderon i anfon sylwadau erbyn 11 Tachwedd, 2015.  Yna, bydd y Pwyllgor yn ystyried pa argymhellion, casgliadau neu sylwadau y mae am eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru, gyda'r bwriad o ddylanwadu a chyfrannu at y ddeddfwriaeth fwyaf effeithiol bosibl a gaiff ei chyflwyno yn y Pumed Cynulliad. Mae Llywodraeth Cymru yn pwysleisio bod diwygio ADY yn  rhan annatod o’r diwygiadau addysg eraill  y bydd yn eu cyflwyno.  Y diwygiadau pwysicaf o blith y rhain yw: Cwricwlwm newydd Cymru  (Donaldson); diwygio Hyfforddiant Cychwynnol i Athrawon (Furlong); a datblygiad proffesiynol parhaus i’r gweithlu addysg barhaus  (Y Fargen Newydd). Yn ôl  Huw Lewis, dyma’r ‘rhaglen ddiwygio driphlyg' (PDF 322KB)  a fydd yn mynd rhagddi dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg