Rhy hen yn 4 oed?

Cyhoeddwyd 22/10/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

22 Hydref 2015

Erthygl gan Sian Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

[caption id="attachment_3966" align="alignnone" width="288"]Dyma lun o blant yn chwarae Llun: o Wikimedia. Dan drwydded Creative Commons.[/caption]

Rhy hen yn 4 mlwydd oed? Dyna thema yr Wythnos Fabwysiadu Genedlaethol yr wythnos hon, pan fydd yr asiantaethau hynny sy’n ymwneud â gwasanaethau mabwysiadu yn tynnu sylw at y prinder o rieni sy’n mabwysiadu plant hŷn ar hyn o bryd. Ynghyd â phlant mewn grwpiau o frodyr a chwiorydd a’r rhai sydd ag anghenion ychwanegol, mae plant hŷn yn debygol o aros yn hwy i gael eu mabwysiadu.

Dengys ffigurau newydd a gyhoeddwyd heddiw gan Wasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru ei bod yn cymryd mwy na dwywaith yr amser i leoli plant pedair oed a hŷn na phlant o dan bedair oed. Ers mis Mehefin 2014, hyd cyfartalog yr amser y mae’n ei gymryd i leoli plant pedair a hŷn yng Nghymru yw 15 mis, o’i gymharu â chyfartaledd o saith mis ar gyfer plant iau.

Yr wythnos hon hefyd mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad Cenedlaethol wedi dewis lansio ei ymchwiliad dilynol i wasanaethau mabwysiadu yng Nghymru. Yn 2012, edrychodd y Pwyllgor yn fanwl ar amrywiaeth eang o ffactorau yn ymwneud â’r agweddau hynny ar fabwysiadu sydd wedi’u datganoli, gan gynnwys:

  • Pa mor dda y mae’r systemau i recriwtio, asesu a pharatoi rhieni sy’n mabwysiadu yn gweithio?
  • A yw’r wybodaeth a’r cymorth cywir yn cael eu darparu i blant a phobl ifanc cyn iddynt gael eu mabwysiadu, gan gynnwys mynediad at waith ym maes profiadau bywyd o safon uchel? a
  • Pha mor dda y mae plant, pobl ifanc a theuluoedd yn cael eu cefnogi ar ôl mabwysiadu, gan gynnwys, a yw gwasanaethau cymdeithasol, ysgolion, a gwasanaethau iechyd meddwl yn darparu cefnogaeth pan fydd ei angen?

Ers i’r Pwyllgor gyhoeddi adroddiad ar ei ganfyddiadau ym mis Tachwedd 2012, sefydlwyd Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol newydd yng Nghymru.

Mae’r Pwyllgor yn awr yn gofyn am farn pobl ynghylch pa gynnydd a wnaed ers iddo wneud ei argymhellion ar gyfer newid yn 2012.

View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg