Bil Cymru Drafft

Cyhoeddwyd 29/10/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

29 October 2015 Erthygl gan Steve Boyce, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Llun o'r Senedd Ddydd Mawrth diwethaf, 20 Hydref, cyhoeddodd Llywodraeth y DU Bil Cymru drafft.  Mae'r Bil drafft yn rhagarweiniad i gyfnod newydd o ddeddfwriaeth ar ddatganoli yng Nghymru, yn seiliedig ar yr argymhellion yn adroddiad Silk II a thrafodaethau Dydd Gŵyl Dewi rhwng Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac arweinwyr y pleidiau. Y bwriad yw cyhoeddi'r Bil terfynol y flwyddyn nesaf er mwyn cael y Ddeddf ar y llyfrau statud erbyn dechrau 2017. Mae'r Bil drafft yn pennu setliad datganoli newydd i Gymru yn seiliedig ar y model cadw pwerau (gweler blog 8 Hydref) sy'n rhestru'r pynciau na all y Cynulliad ddeddfu arnynt, yn hytrach na'r rhai y gall ddeddfu yn eu cylch, sef y model presennol.  Bydd y model cadw pwerau, ynghyd â'r profion cymhwysedd ar gyfer deddfwriaeth, yn creu'r fframwaith ar gyfer gweithredu datganoli yng Nghymru yn y dyfodol. Mae'r Bil drafft hefyd yn rhoi i'r Cynulliad bwerau mewn meysydd newydd gan gynnwys ynni, trafnidiaeth, llywodraeth leol a'i swyddogaethau ei hun (gan gynnwys etholiadau'r Cynulliad a nifer Aelodau'r Cynulliad), ac mae'n nodi'r trefniadau ar gyfer cytuno ar ddeddfwriaeth San Steffan ynghylch materion datganoledig. Mae cyhoeddi Bil drafft yn gyfle i graffu ar y cynigion cyn i'r Bil gael ei gyflwyno yn y Senedd y flwyddyn nesaf.   Bydd Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Cynulliad yn edrych ar y Bil drafft yn ystod mis Tachwedd, ynghyd â Phwyllgor Materion Cymreig Tŷ'r Cyffredin.  Bydd y ddau Bwyllgor yn casglu tystiolaeth ar y cyd yn y Senedd ar 9 Tachwedd. Lansiodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y Bil ddydd Mawrth diwethaf, gan ei ddisgrifio fel cynllun Llywodraeth y DU ar gyfer "setliad datganoli cryfach, cliriach a thecach i Gymru, i wrthsefyll pob her a ddaw yn y dyfodol."   Bydd gallu'r Bil drafft i gyflawni hynny ai peidio yn gwestiwn i wleidyddion a rhanddeiliaid eraill yng Nghaerdydd a Llundain yn ystod yr wythnosau nesaf. Roedd datganiad i'r Cynulliad gan Lywodraeth Cymru ar y Bil drafft ddydd Mawrth diwethaf yn gyfle i Aelodau'r Cynulliad roi eu hymatebion cychwynnol i'r cynigion.  Dyma ddisgrifiad Carwyn Jones, y Prif Weinidog, o'r darpariaethau cadw pwerau yn y Bil: “Maent yn gosod cyfyngiadau newydd ar allu'r Cynulliad Cenedlaethol i ddeddfu, a fyddai'n gwneud ein setliad yn fwy cymhleth, ac yn llai pwerus, nag ydyw ar hyn o bryd.” Pe byddai darpariaethau'r Bil drafft wedi bod ar waith yn ystod y Cynulliad hwn, dywedodd: “mae cyfreithwyr yn cynghori mai llai na thraean o'n Biliau allai fod wedi’u pasio heb gymeradwyaeth ymlaen llaw gan Lywodraeth y DU.” Hefyd: “Heb welliant mawr, mae'r Bil yn rysáit ar gyfer mwy fyth o atgyfeiriadau i'r Goruchaf Lys, a mwy fyth o anghydfodau rhwng y llywodraethau.” Dywedodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, y byddai'r Bil drafft yn rhoi pwerau sylweddol i'r Cynulliad: “Rwy’n credu y bydd y llu o bwerau sydd ar gael yn atgyfnerthu’n sylweddol allu’r sefydliad hwn i ddeddfu ac yn atseinio’n wirioneddol ledled Cymru gyfan. A dyna’r peth pwysig: yr hyn sydd ei eisiau ar y rhan fwyaf o bobl mewn gwirionedd yw i’r lle hwn fod yn berthnasol i'w bywydau bob dydd.” Dywedodd Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru, fod y Bil yn “cadarnhau ein hofnau gwaethaf”.  Yn ei barn hi, byddai'r pwerau a'r cyfrifoldebau a fyddai'n cael eu cadw gan San Steffan yn rhoi statws ‘cenedl eilradd o’u cymharu â'r gwledydd datganoledig eraill’ i Gymru. Dywedodd Kirsty Williams, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru: “Mae’r hyn sydd ger ein bron heddiw’n rhywbeth a allai fynd â ni’n ôl at sefyllfa lle mae'r Aelodau o'r Siambr hon sydd wedi’u hethol yn ddemocrataidd, ar ran pobl Cymru, yn cael eu rhwystro gan Lywodraeth y DU os ydynt yn penderfynu nad ydynt yn hoff o’r hyn yr ydym yn ei wneud.” Roedd hi'n gobeithio y byddai'r Bil terfynol yn sicrhau “setliad datganoli cryf, diogel a chlir”. Cyhoeddodd Llywydd y Cynulliad ddatganiad i gyd-fynd â lansiad y Bil drafft yn mynegi siom ynghylch y ffordd y mae'r model cadw pwerau yn cael ei ddefnyddio yn y Bil drafft.  Yn ei barn hi, mae'r drafft presennol "yn gyfystyr â cham yn ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol" ac ni "fyddai'n cyflawni setliad cyfansoddiadol a fydd yn parhau i Gymru, ac i'r DU yn ei chyfanrwydd." Mae Syr Paul Silk hefyd wedi mynegi siom  ynghylch cwmpas y pwerau newydd sy'n cael eu cynnig i Gymru.  Dywedodd wrth Bwyllgor Cyfansoddiad Tŷ'r Arglwyddi ar 21 Hydref nad yw'r Bil drafft yn adlewyrchu'r hyn yr oedd Comisiwn Silk yn ei argymell. Serch hynny, mae'r Athro Roger Scully o Ganolfan Llywodraethiant Cymru wedi dweud mewn blog fod y pwerau newydd yn y Bil drafft ar weithrediad y Cynulliad yn arwyddocaol oherwydd y gallent ganiatáu newid maint etholaethau, nifer Aelodau'r Cynulliad a'r ffordd y cânt eu hethol.  Byddai newidiadau yn y meysydd hynny angen mwyafrif o ddwy ran o dair yn y Cynulliad. Beth bynnag fydd y canlyniad yn y pen draw, mae'r ddadl ar setliad datganoli Cymru ymhell o fod drosodd.  Roedd datganiad yr Ysgrifennydd Gwladol wrth lansio'r Bil yn pwysleisio: "The Government will continue discussions with the Welsh Government on the detail of the reserved powers model alongside Pre-Legislative Scrutiny. It is vital that we deliver a robust new devolution settlement that works for the people of Wales." Bydd gwaith craffu'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a'r Pwyllgor Materion Cymreig yn dechrau o ddifrif yn awr, ac mae'r ddau Bwyllgor yn bwriadu adrodd cyn y Nadolig.  Yn y cyfamser, bydd dadl yng Nghyfarfod Llawn y Cynulliad ar 3 Tachwedd yn gyfle pellach i Aelodau'r Cynulliad drafod. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg