Tai fforddiadwy: faint sydd eu hangen?

Cyhoeddwyd 24/11/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

24 Tachwedd 2015

Erthygl gan Jonathan Baxter, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Ar ddechrau'r Pedwerydd Cynulliad, gosododd Llywodraeth y Cynulliad darged o "ddarparu" 7,500 o gartrefi fforddiadwy newydd erbyn mis Ebrill 2016. Yn 2014, cynyddodd y ffigur hwnnw i 10,000. Fis diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod ar y trywydd iawn i ragori ar y targed uwch hwnnw. Heddiw, bydd Aelodau'r Cynulliad yn cael cyfle i drafod tai fforddiadwy a’r cynnydd a mae’r Llywodraeth wedi’i wneud o ran cyrraedd ei tharged ei hun. Beth yw cartref fforddiadwy? Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r diffiniad a geir yn Nodyn Cyngor Technegol 2 (PDF, 271 KB), sy’n rhan o'r Polisi Cynllunio Cenedlaethol. Mae'n cynnwys tai y mae trefniadau ynghlwm wrthynt i sicrhau eu bod o fewn cyrraedd y rhai na allant fforddio tai ar y farchnad agored, gan gynnwys y rhai sy’n eu meddiannu gyntaf a’r rhai a ddaw ar eu holau. Mae ‘tai fforddiadwy’ yn cynnwys tai rhent cymdeithasol a ddarperir gan awdurdodau lleol a chymdeithasau tai, yn ogystal â thai canolradd. Ystyr ‘tai canolradd’ yw tai y mae eu prisiau neu eu rhenti’n uwch nag yn y sector rhentu cymdeithasol ond yn is na phrisiau neu rhenti ar y farchnad agored. Faint o gartrefi a ddarparwyd? Yn 2014-15, darparwyd 2,218 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol ledled Cymru. Nid yw Llywodraeth Cymru yn adeiladu unrhyw gartrefi ei hun. Yn y cyd-destun, mae cartref wedi’i ‘ddarparu’ os yw wedi’i gwblhau ac yn barod i rywun fydd ynddo. Fel afer, cymdeithas tai fydd wedi’i adeiladu, ei gaffael neu ei droi’n gartref fforddiadwy. Yn ystod y Pedwerydd Cynulliad mae 9,108 o dai fforddiadwy ychwanegol wedi'u darparu hyd yma. Mae hyn yn cyfateb i dros 91% o darged Llywodraeth Cymru. Caiff y ffigurau hyn eu dadansoddi’n ôl ardal awdurdod lleol yn Affordable Housing Provision in Wales, 2014-15. Mae llawer o'r cartrefi hyn wedi'u darparu gyda chymorth Llywodraeth Cymru drwy'r rhaglen Grant Tai Cymdeithasol, a darparwyd llai ohonynt gyda chymorth y Grant Cyllid Tai. Yn gyffredinol, cafodd 69% o'r holl gartrefi fforddiadwy newydd eu hadeiladu, eu caffael neu eu haddasu gyda chymorth grantiau cyfalaf. Roedd tir y sector cyhoeddus, sy'n eiddo i awdurdodau lleol yn bennaf, hefyd ar gael i’w ddatblygu. O ganlyniad, darparwyd 563 o gartrefi newydd yn ystod 2014-15. Cymdeithasau tai fu’n gyfrifol am ddatblygu’r mwyafrif helaeth o'r holl gartrefi newydd fforddiadwy, sef bron 90% ohonynt. O’r rhain, roedd 61% yn dai rhent cymdeithasol. Roedd 32% ar gael am rhent canolradd a chynigiwyd 7% fel rhan o gynllun rhannu ecwiti (cynllun sy’n caniatáu i bobl fod yn gyd-berchen ar eu cartrefi am gost isel). Faint o gartrefi fforddiadwy newydd sydd eu hangen yng Nghymru? Cyhoeddwyd Future Need and Demand for Housing in Wales (PDF, 1.44 MB) ym mis Hydref 2015 gan Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru. Llywodraeth Cymru gomisiynodd yr ymchwil a Dr Alan Holmans, academydd blaenllaw yn y maes hwn, aeth ati i ymgymryd â’r gwaith. Mae'r ymchwil yn cyflwyno dau amcangyfrif o’r angen a’r galw yn y dyfodol. Mae’r naill yn seiliedig ar amcanestyniadau swyddogol Llywodraeth Cymru o natur aelwydydd, yn seiliedig ar ffigurau 2011.   Mae’r llall, sy’n amcangyfrif uwch, yn rhagdybio y bydd rhagor o aelwydydd i’w cael. Gan ddibynnu ar ba amcangyfrif y dewiswch ei ddefnyddio, mae nifer y cartrefi ychwanegol sydd eu hangen ar Gymru yn y sector cymdeithasol bob blwyddyn yn amrywio o rhwng 3,300 a 4,200, yn y drefn honno. Mae ‘sector cymdeithasol’, fel y'i diffinnir yn yr ymchwil, yn cynnwys nid yn unig cartrefi awdurdodau lleol a chymdeithasau tai ond cartrefi yn y sector rhentu preifat hefyd os defnyddir budd-dal tai i dalu’r rhent, yn ogystal â thai perchen-feddianwyr sydd wedi prynu eu cartrefi o dan y cynllun hawl i brynu a chynlluniau tebyg. Mae hyn yn golygu na ellir ei gymharu’n uniongyrchol â tharged swyddogol Llywodraeth Cymru ar gyfer ‘tai fforddiadwy’. Darparu rhagor o gartrefi fforddiadwy Gan gydnabod cymaint y mae’n dibynnu ar y sector cymdeithasau tai i ddarparu tai fforddiadwy newydd, cafwyd cytundeb darparu tai rhwng Llywodraeth Cymru a chorff ymbarél y sector, sef Tai Cymunedol Cymru, yn 2014. Cafwyd cytundeb tebyg rhwng Llywodraeth Cymru a Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi (HBF) ym mis Medi 2015. Roedd hyn yn cynnwys ymrwymiad gan HBF i weithio gyda chymdeithasau tai i ddarparu tai fforddiadwy fel rhan o ystadau preifat. Yr her sy'n wynebu Llywodraethau Cymru ar hyn o bryd, ac yn y dyfodol, yw bodloni’r angen a’r galw yng Nghymru. I wneud hynny, mae Dr Holmans yn awgrymu y bydd angen adeiladu tai ar raddfa na welwyd ers bron 20 mlynedd, a chynyddu nifer y tai fforddiadwy sy’n cael eu datblygu. Er y bu cynnydd cyffredinol ym maes adeiladu tai yn ddiweddar, yn 2014-15, bu gostyngiad o 8% yn nifer y tai fforddiadwy a ddarparwyd o’i chymharu â 2013-14. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg