Cyflogaeth gyda Chyllid a Thollau ei Mawrhydi yng Nghymru

Cyhoeddwyd 25/11/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

25 Tachwedd 2015 Erthygl gan Helen Jones a Sam Jones, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Ar 12 Tachwedd 2015 cyhoeddodd Cyllid a Thollau ei Mawrhydi y bydd yn cau swyddfeydd lleol ac yn creu 13 o ganolfannau rhanbarthol newydd o dan ei raglen foderneiddio. Yng Nghymru, mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn cynnig  bod y ganolfan ranbarthol yn cael ei lleoli yng Nghaerdydd. Mae Cyllid a Thollau ei Mawrhydi yn dweud ei fod yn bwriadu agor ei ganolfan ranbarthol gyntaf yn 2016-17 a’r canolfannau eraill yn ystod y pum mlynedd nesaf. A oes unrhyw ystadegau ar gael ar nifer y bobl sy’n cael eu cyflogi ym mhob swyddfa Cyllid a Thollau ei Mawrhydi yng Nghymru? Mae data gan Arolwg Cyflogaeth Blynyddol y Gwasanaeth Sifil (93.5 Kb Excel) yn dangos ym mis Mawrth 2015 roedd 10 o swyddfeydd Cyllid a Thollau ei Mawrhydi yng Nghymru yn cyflogi cyfanswm o 2,870 o bobl ar sail amser llawn cyfatebol (FTE). Mae’r map isod yn dangos cyfanswm nifer y cyflogeion FTE ym mhob lleoliad swyddfa ac nid nifer yr unigolion. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn egluro: Mae’r ffigurau amser llawn cyfatebol yn seiliedig ar drosi oriau cyflogeion rhan amser i’r hyn sy’n cyfateb i gyflogeion llawn amser. Mae hyn yn well dangosydd o gyfanswm y mewnbwn llafur na nifer yr unigolion. HMRCOfficeClosurev2Cymraeg Ffynhonnell: Swyddfa Ystadegau Gwladol, Arolwg Cyflogaeth Blynyddol y Gwasanaeth Sifil, Mawrth 2015 Pa mor ddiweddar yw’r data hyn? Cyhoeddwyd y data ym mis Mawrth 2015 ac mae’n cwmpasu’r cyfnod o 12 mis hyd at 31 Mawrth 2015. Mae pob adran ac asiantaeth y llywodraeth yn llenwi arolwg sy’n cynnwys 100% o boblogaeth y Gwasanaeth Sifil. Mae cyhoeddiadau yn y wasg yn nodi newidiadau i ystâd Cyllid a Thollau ei Mawrhydi a allai fod wedi digwydd ers mis Mawrth 2015:
  • Tachwedd 2013 – gallai swyddfeydd Caerfyrddin, Bae Colwyn a Doc Penfro gau yn 2015
  • Tachwedd 2015 – bydd swyddfa Merthyr Tudful yn cau yn 2016
View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg